Cyfrol Dathlu’r 150

Clawr blaen y gyfrol Ceiniogau'r Werin: Prifysgol Aberystwyth mewn 150 Objects / Pennies of the People: Aberystwyth University mewn 150 Gwrthrych, gyda dyluniad copr yn seiliedig ar furlun gan y diweddar artist David Tinker.

Y murlun alwminiwm gan ein cyn Bennaeth Celf a'r artist David Tinker (1924–2000), y tu allan i'r Neuadd Fawr, sydd wedi ysbrydoli clawr blaen ein cyfrol pen-blwydd - Ceiniogau'r Werin: Prifysgol Aberystwyth mewn 150 Gwrthrych / Pennies of the People: Aberystwyth University in 150 Objects.

O gofnodion gwreiddiol ein sylfaenwyr i gyfarpar pelydr-X cynnar, gweithiau celf ac offer archwilio’r gofod, mae gan y Brifysgol gasgliad rhyfeddol o wrthrychau yn nodi cyfnodau gwahanol yn ein hanes.

Mae cyfle i ganfod mwy am y trysorau yma mewn cyfrol arbennig o'r enw Ceiniogau'r Werin | The Pennies of the People, a gyhoeddwyd ar 14 Hydref 2022 fel rhan o'n dathliadau pen-blwydd yn 150.

Cyfrol ddarluniadol yw hon, gyda delweddau trawiadol o 150 o wrthrychau yn adrodd ar agweddau o stori hynod Coleg Prifysgol cyntaf Cymru a agorwyd mewn gwesty crand, anorffenedig ger y lli yn Aberystwyth yn 1872.

Daw’r rhan fwyaf o’r gwrthrychau o gasgliadau’r Brifysgol ei hun – yr archifau, Orielau ac Amgueddfa’r Ysgol Gelf ac adrannau academaidd ar draws y sefydliad.

Daw ambell wrthrych gan gyn-fyfyrwyr, ac eraill drwy ganiatâd rhai o’n sefydliadau mawr cenedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Ochr yn ochr â phob gwrthrych, ceir darn byr o destun dwyieithog gan ystod eang o bobl â chanddynt gysylltiad agos a’r Brifysgol – yn staff, yn fyfyrwyr ac yn gyfeillion o’r presennol a’r gorffennol.

Mae rhai cyfranwyr wedi dewis dweud eu stori ar ffurf erthygl fer neu ysgrif, ac eraill wedi llunio darn o ryddiaith neu farddoniaeth.

Bydd rhai o’r hanesion o bosib yn gyfarwydd ac eraill yn ddadlennol ond y cyfan yn ddifyr. At ei gilydd y nod yw rhoi blas ar brif gerrig milltir yn hanes y Brifysgol ynghyd â straeon amrywiol rhai o'r bobl sydd wedi gweithio neu astudio yma ers mis Hydref 1872.

Pump ar hugain o fyfyrwyr a gyrhaeddodd ar ddechrau’r tymor cyntaf hwnnw ac mae enwau pob un ohonyn nhw wedi’u nodi mewn llawysgrifen taclus mewn cofrestr clawr-lledr, swmpus – un arall o’r gwrthrychau gaiff sylw yn y llyfr.

Lansiwyd y gyfrol clawr caled hon yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr ddydd Gwener 14 Hydref 2022, union 150 ers i ni agor ein drysau. Mae'n costio £25 ac mae ar gael i’w phrynu yn siop Canolfan y Celfyddau, siop Undeb Myfyrwyr y Brifysgol, siopau llyfrau’r stryd fawr neu ar-lein. Gellid archebu copi o'n siop ar-lein, ffonio siop yr Undeb ar 01970 621725.