To newydd dros y Cwad
26 Awst 2025
Mae’r prosiect uchelgeisiol i drawsnewid yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys wedi cymryd cam sylweddol ymlaen gyda gosod to gwydr newydd dros y Cwad.
Mae’r to newydd sy’n 25 metr o hyd ac yn cynnwys 40 panel gwydr yn eistedd uwchlaw’r to gwreiddiol gafodd ei osod yn ei le ym 1889/90 pan ddaeth y Cwad yn ofod dan do am y tro cyntaf.

Codi’r paneli gwydr dros yr Hen Goleg.
Dros gyfnod o dri diwrnod, codwyd y paneli gwydr gan graen o ochr y promenâd dros rai o fannau uchaf adeilad Gogledd Seddon yr Hen Goleg cyn eu gostwng i'w lle.

Gosod y paneli gwydr yn eu lle.
Mae'r gwaith yn paratoi'r ffordd ar gyfer y cam nesaf a fydd yn gweld tynnu'r hen do polycarbonad a fu’n diogelu nenfwd bwaog y Cwad rhag yr elfennau.

Yr hen do polycarbonad.
Disgrifiwyd y Cwad fel “lle i weld a chael eich gweld”, ac roedd ei gyfraniad yr un mor bwysig i addysg myfyrwyr Aberystwyth ag unrhyw ddarlithfa neu labordy yn ôl yr hanesydd Dr E L Ellis yn ei gyfrol i nodi canmlwyddiant y Brifysgol yn 1972.

Y Cwad.
Yn dilyn y tân mawr a ddinistriodd lawer o ran ogleddol yr Hen Goleg ym mis Gorffennaf 1885, ailddatblygwyd yr adeilad er mwyn diwallu anghenion y Brifysgol yn well.
Fodd bynnag, parhaodd y Cwad yn agored i'r elfennau a chyfeiriwyd ato fel Coridor y Coleg tan 1889 pan gynigiodd y gŵr busnes W T Jones, a aned yn Aberystwyth, £500 tuag at y gost o adeiladu to drosto.
O dan y nenfwd bwaog o bren a gwydr lliw gyda’i arfbeisiau sy’n cynrychioli siroedd Cymru, daeth y Cwad fel y'i gelwir heddiw, i fodolaeth.
Gyda'r to newydd yn ei le, mae gwaith eisoes ar y gweill i greu dwy bont i gysylltu ochrau Stryd y Brenin a phromenâd yr adeilad ac a fydd yn cynnig golygfeydd trawiadol o'r nenfwd bwaog oddi uchod.

Delwedd gan artist o’r olygfa dros nenfwd y Cwad.
Dywedodd rheolwr Prosiect yr Hen Goleg, Jim O’Rourke: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cwblhau’r gwaith o osod y to newydd dros y Cwad. Yn ogystal â bod yn bwysig yn ymarferol, mae hon yn un o’r cerrig milltir symbolaidd hynny yn y prosiect uchelgeisiol hwn gan ei bod yn dod â ni gam yn nes at weld golau’r haul yn treiddio i’r Cwad unwaith eto, gofod lle bu cenedlaethau o fyfyrwyr a staff yn cymdeithasu ac yn gweithio ers ei greu dros 130 mlynedd yn ôl.”
“Roedd safle to’r Cwad yn golygu bod hon yn ran dechnegol heriol o’r prosiect ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n prif gontractwr Andrew Scott Cyf, y cwmni ffenestri Whitesales a Davies Cranes Cyf o Gaerfyrddin, a fu’n gweithio’n wych fel tîm gan olygu mai dim ond tridiau a gymerodd i osod y gwydr newydd yn ei le er gwaethaf y gwynt achlysurol.”

Chwith i’r dde: Randeep Sidhu a Dan Bradley o Whitesales a Dan Roberts o Davies Crane Hire fu’n gosod y gwydr ar do newydd y Cwad.
Mae stori’r Cwad a chyfraniad W T Jones wedi’i hadrodd gan gyn-lyfrgellydd Prifysgol Aberystwyth, Elgan Davies, yn ei erthygl W.T. Jones a datblygiad Cwad yr Hen Goleg.
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau'r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol ac unigolion.