Cwblhau craidd concrit a ffrâm ddur yr atriwm newydd

Cyrraedd y brig

Cyrraedd y brig

30 Mehefin 2026

Mae’r cynllun uchelgeisiol i ailddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol newydd o bwys wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol arall.

Ddydd Mercher 24 Mehefin, nododd prif gontractwr y prosiect, Andrew Scott Cyf, gwblhau’r craidd concrit a ffrâm ddur yr atriwm newydd sydd yn ymestyn dros saith llawr.

Mae'r atriwm wedi'i gynllunio i wneud yr Hen Goleg yn hygyrch i bawb am y tro cyntaf yn hanes 160 mlynedd yr adeilad, gyda lifftiau a grisiau i bob llawr.

Wedi'i leoli ar safle hen adeilad adran Ystadau'r Brifysgol, mae'r gwaith wedi cynnwys cloddio ac adeiladu islawr wedi'i atgyfnerthu a fydd yn gartref i geginau proffesiynol newydd.

Yn ymestyn o graidd concrit yr atriwm mae ffrâm ddur yr ystafell ddigwyddiadau newydd ar gyfer hyd at 220 o westeion gyda’i golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn.

Darparwyd a gosodwyd y dur yn ei le gan y gwneuthurwyr dur o dde Cymru, Dollcast, a chefnogwyd y gwaith gan gwmni Davies Crane Hire o Gaerfyrddin. Mae'r ffrâm yn cynnwys 73 darn o ddur ac yn pwyso ychydig dros 115 tunnell.

Gydag ystafell ar gyfer cyfarpar a fydd yn darparu gwasanaethau hanfodol ar draws yr Hen Goleg, mae ychwanegu'r atriwm wedi ei gwneud hi'n bosibl i gadw llawer o nodweddion pensaernïol gwreiddiol yr adeilad.

Dywedodd Shaun Davies, Uwch Reolwr Prosiect Andrew Scott ar brosiect yr Hen Goleg:

“Mae cwblhau ffrâm goncrit yr atriwm, sydd wedi'i hatgyfnerthu â dur, yn garreg filltir bwysig i brosiect yr Hen Goleg ac yn gamp sylweddol i'r tîm ymroddedig sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, o ystyried natur gyfyngedig y gofod sydd ganddynt i weithio. “Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y rhan hon o'r dref am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i'r gwaith fynd rhagddo ac wrth i offer a deunyddiau gyrraedd y safle.”

Dywedodd Jim O’Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg ar ran Prifysgol Aberystwyth:

“Mae prosiect yr Hen Goleg yn hynod uchelgeisiol a disgwylir iddo gynhyrchu dros £14.5m i’r economi leol yn flynyddol. Bydd yr atriwm newydd yn rhoi ymdeimlad gwirioneddol o gyrraedd i ymwelwyr, a mynediad hwylus i bob lefel o’r Hen Goleg mewn ffordd nad fu erioed yn bosibl o’r blaen. Mae hefyd yn dwyn ynghyd am y tro cyntaf erioed y pedwar adeilad hanesyddol ar y safle, yr Hen Goleg ei hun, y ddwy fila Sioraidd a’r Cambria. Mae hyn yn atgoffa rhywun o’r ffordd y gwnaeth y pensaer C J Ferguson uno adeiladau De a Gogledd Seddon am y tro cyntaf yn y 1890au trwy ddymchwel Tŷ’r Castell ac adeiladu bloc newydd ar gyfer gwyddoniaeth a gweinyddiaeth y Brifysgol.”

Gyda’i ddehongliad cyfoes o dreftadaeth bensaernïol yr Hen Goleg, mi fydd yr atriwm yn cynnig mynedfa gyhoeddus newydd o Stryd y Brenin yn ogystal â’r brif fynedfa newydd o’r promenâd trwy’r ddwy fila Sioraidd.

Wedi’i osod yn ôl o’r ffordd, mae wedi’i gynllunio i gynnal yr olygfa o’r Hen Goleg o gyfeiriad Heol Y Wig.

Er mwyn parchu treftadaeth bensaernïol yr Hen Goleg, bydd yr atriwm wedi'i wisgo â thywodfaen i adlewyrchu'r newidiadau helaeth a wnaed i'r adeilad yn ystod y 19eg ganrif gan y penseiri J P Seddon a C J Ferguson.

Nododd Lyn Hopkins o gwmni penseiri Lawray Architects ei weledigaeth ar gyfer yr atriwm:

“Bu mynediad o un pen i'r adeilad i'r llall yn heriol i’r Hen Goleg erioed. Byddai defnyddwyr yr adeilad yn wynebu grisiau cul a llu o lefelau gwahanol, gan ei gwneud hi'n anodd iawn symud drwy'r adeilad gan gadael llawer o ystafelloedd yn anhygyrch.

“Gan dynnu ar waith Seddon a Ferguson a'u dull o ddefnyddio gofod, aethon ni ati i geisio dylunio ardal gyfoes sy'n agor yr adeilad cyfan ac yn hwyluso mynediad i bawb i bob lefel o'r adeilad rhyfeddol hwn am y tro cyntaf erioed.

“Gyda grisiau newydd a lifftiau teithwyr, mae'r atriwm hefyd wedi ei gwneud hi'n bosibl i ni gadw llawer o nodweddion pensaernïol gwreiddiol a chymeriad yr Hen Goleg, gan gynnwys y grisiau carreg sy'n cysylltu'r llawr gwaelod â'r lloriau uwchben. Heb yr ymyrraeth newydd hon, ni fyddai gwella mynediad i bawb wedi bod yn bosibl.”

 

Hen Goleg

Mae’r Hen Goleg, cartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, yn cael ei drawsnewid yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys.

Bydd y prosiect yn darparu canolfan newydd ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd Gwybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.

Wedi’i hysbrydoli gan arwyddair y Brifysgol, ‘Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth, bydd Byd Gwybodaeth yn cynnwys canolfan sy’n dathlu gwyddoniaeth ac ymchwil arloesol, amgueddfa prifysgol, parth pobl Ifanc gyda gweithgareddau dan arweiniad ieuenctid i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio a sinema flaengar.

Bydd y cwad, calon draddodiadol yr Hen Goleg, yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw. Mae’r parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y Deyrnas Gyfunol.

Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu deuddeg Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc mewn busnesau creadigol a digidol.

Bydd hyd at 130 o swyddi'n cael eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4*, bariau, caffis a gofodau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau ddramatig i 220 o bobl gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion.

Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.

Llun

Nodi cwblhau Craidd Concrit a Ffrâm Ddur Atriwm yr Hen Goleg (o'r chwith i'r dde); Neil Smart (Goruchwyliwr Craen), Davies Cranes; Jim O'Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth; Justin Rees (Gweithredwr Craen), Davies Cranes; Lyn Hopkins,  Uwch-Bensaer, Lawray Architects; Colin Phillips, Rheolwr Cyswllt Costau a Phrosiectau, Blake Morgan; Shaun Davies, Uwch Rheolwr Prosiect, Prosiect yr Hen Goleg, Andrew Scott; Calum Duncan, Asiant Safle, Andrew Scott; Stephen Lewis (Goruchwyliwr/Gweithiwr Cyffredinol), Andrew Scott.