Cadw simneiau’r Hen Goleg

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

04 Gorffennaf 2025

Mae simneiau yn rhan greiddiol o ffurf yr Hen Goleg ac mae eu hadfer yn allweddol i gynnal cyfanrwydd pensaernïol yr adeilad.

Ar draws rhannau Gogledd a De Seddon, a bloc Ferguson gafodd ei adeiladu yn y 1890au, mae 17 corn simnai, nifer ohonynt â chymaint â 12 ffliw o leoedd tân agored a boeleri sy’n ddwfn y tu mewn i'r adeilad rhestredig gradd 1.

Wedi'u hadeiladu o dywodfaen a chalchfaen ac yn sefyll yn dalsyth uwchben yr Hen Goleg, mae creithiau'r amgylchedd morol llym yn amlwg arnynt.

Nid yw’r amgylchedd forol wedi bod yn garedig

Dros y blynyddoedd, mae halen wedi treiddio i'r garreg fandyllog, gan grisialu a chwyddo ac achosi dirywiad graddol.

Mae ansawdd gwael y gwaith adeiladu ar rai o'r simneiau a godwyd cyn y 1870au wedi gwaethygu pethau, yn ogystal â natur israddol y garreg.

Mae diffyg leinin ffliw ar eraill, a fyddai wedi eu hamddiffyn rhag effeithiau’r mwg, wedi ychwanegu at yr her o’u hadfer.

Ac, fel pe na bai hynny’n ddigon, mae’r defnydd o sment yn hytrach na morter a phlastr calch i gywiro rhywfaint o’r difrod, wedi rhwystro’r garreg rhag anadlu.

Ac nid yw nythod gwylanod wedi helpu chwaith.

Mae'r simneiau’n adlewyrchu hanes yr Hen Goleg.

De Seddon, cyn 1885

Yn ei ddyddiau cynnar fel gwesty, cyn dod yn Brifysgol, safai pedair simnai dal ar yr ochr o Dde Seddon oedd yn wynebu’r môr, gan wasanaethu lleoedd tân unigol yn yr ystafelloedd islaw.

Yn sgil ailddatblygu’r rhan hon yn floc gwyddoniaeth ar ôl 1885 cyflwynwyd boeler a ffurf gynnar o wres canolog.

Gan nad oedd angen y simneiau fe’u tynnwyd i lawr, er bod elfennau ohonynt wedi eu cadw ar gyfer awyru’r adeilad.

De Seddon wedi  ei ailddatblygu’r floc gwyddoniaeth

Roedd y simneiau mawr uwchlaw Ystafell Seddon/Siambr y Cyngor yn gweithio oddi ar leoedd tân agored unigol.

Lleoedd tân agored oedd y drefn hefyd yn ystafelloedd astudio’r Athrawon ar ochr Stryd y Brenin o’r Cwad, gafodd eu hadeiladu ar ôl tân mawr 1885 (ychwanegu dolen https://www.aber.ac.uk/cy/oldcollege/news/news-article/title-270094-cy.html).

Y dair simdde uwchlaw Stryd y Brenin

Roedd y lleoedd tân hyn yn bwydo tri chorn simnai sy’n bedair metr o daldra ac sydd yn y broses o gael eu datgymalu a’u hailadeiladu, ynghyd ag un arall ar adeilad De Seddon.

Gyda cherrig unigol yn pwyso hyd at 280 cilogram a phob un o gyrn simnai Stryd y Brenin yn pwyso dros 10 tunnell, mae angen medrusrwydd a chywirdeb wrth gyflawni’r gwaith.

Mae geometreg gymhleth y garreg nadd hefyd wedi golygu cadw cofnodion manwl ar gyfer dod o hyd i garreg newydd, lle’r oedd y garreg wreiddiol wedi dirywio gormod i’w hailddefnyddio.

Dechrau’r gwaith o ddatgymalu ac ailadeiladu’r simneiau ar Stryd y Brenin.

Nid yw'n syndod nad yw llawer o'r chwareli ddarparodd gerrig yn ail hanner y 19eg ganrif bellach yn cael eu gweithio.

Mae cymaint â 15 o samplau newydd wedi'u canfod i gyd-fynd mor agos â phosibl â'r garreg wreiddiol.

Mae pob un o gyrn simnai Stryd y Brenin yn bron i bedair metr o daldra ac yn pwyso dros 10 tunnell. Lle bo modd, mae'r garreg wreiddiol wedi'i chadw.

Ystyriaeth arall yw eu gallu i wrthsefyll amgylchedd arfordirol eithafol y prom.

Mae'r dewis terfynol wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio lleol a CADW.

Defnyddiwyd carreg newydd ar y corn simnai uwchben Ystafell Seddon/Siambr y Cyngor. Mae'r garreg wedi'i chydweddu fel y byddai, nid fel y mae yn awr, a bydd yn hindreulio gydag amser.

Afraid dweud na fydd tanau agored yn dychwelyd i'r Hen Goleg.

Yn wir, byddai 140 a mwy o ystafelloedd yn cael eu gwresogi gan dân agored yn hunllef i unrhyw swyddog diogelwch tân.

Fodd bynnag, lle bo modd, bydd y lleoedd tân yn cael eu cadw fel rhan o dreftadaeth yr adeilad, a bydd y simneiau yn darparu awyru goddefol naturiol.

Byddant hefyd yn parhau i dynnu awyr er mwyn eu cynnal yn yr hirdymor.

Matthew Dyer o Austin-Smith: Lord

Mae’r gwaith yn cael ei oruchwylio gan Bensaer Cadwraeth prosiect yr Hen Goleg, Matthew Dyer o Austin-Smith: Lord.

I Matthew, mae cadw'r simneiau yn allweddol er mwyn cynnal cyfanrwydd pensaernïol yr Hen Goleg ac yn rhan o fynegiant Gothig yr adeilad.