Dewis lliwiau ar gyfer y ddwy fila Sioraidd

Y ddwy fila Sioraidd ddechrau’r 1920au, pan ddaethant yn rhan o ystâd y Brifysgol.

Y ddwy fila Sioraidd ddechrau’r 1920au, pan ddaethant yn rhan o ystâd y Brifysgol.

04 Gorffennaf 2025

Yn ystod wythnos olaf Mehefin dechreuwyd ar y gwaith o beintio'r ddwy fila Sioraidd.

Dewiswyd lliwiau priddlyd clasurol fel brown siocled a taupe meddal ar gyfer Fila 1 a gwyn hufennog ar gyfer Fila 2.

Mae’r paent sy’n cael ei ddefnyddio wedi ei seilio ar fwynau a’i gynhyrchu gan y cwmni o’r Almaen, Keim.

Mae wedi ei ddatblygu i wrthsefyll hinsawdd llym glan môr y promenâd tra’n caniatáu i'r adeilad 'anadlu'.

Ben Sturgeon o Swansea Decorating Services yn paentio Fila 1.

Wrth ddewis y lliwiau, bu Pensaer Cadwraeth prosiect yr Hen Goleg, Matthew Dyer o Austin-Smith: Lord yn ystyried hanes y ddwy fila, hen ffotograffau a thystiolaeth a gasglwyd wrth i'r gwaith adfer fynd rhagddo.

Gyda chymeradwyaeth Swyddog Cadwraeth yr awdurdod lleol, penderfynodd Matthew ddewis y cynllun lliwiau fel y byddai wedi bod ddechrau’r 1920au.

Adeiladwyd y ddwy fila Sioraidd (I & 2 Rhodfa’r Môr) ym 1811 fel dau dŷ ar wahân a’r enw arnynt bryd hynny oedd Mount Pleasant.

Roedd Fila 1 (1 Rhodfa’r Môr), yr agosaf at yr Hen Goleg, wedi bod ar brydles gan y Brifysgol ers 1901 fel ei neuadd breswyl gyntaf i fyfyrwyr gwrywaidd.

Wedi hynny, daeth yn gartref am gyfnod byr i'r Adran Ddaearyddiaeth a sefydlwyd ym 1918, ac yn fwy diweddar bu’n ofod swyddfa.

Ychwanegwyd yr ail fila, ynghyd ag eiddo eraill ar hyd Rhodfa’r Môr, at ystâd y Brifysgol i ddarparu gofod ar gyfer adrannau academaidd newydd a phreswylfeydd myfyrwyr.

Fel rhan o'r prosiect uchelgeisiol i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys, mae'r ddwy fila yn cael eu hadfer yn ofalus a’u datblygu’n brif fynedfa o'r Promenâd. Bydd yno hefyd fwyty, bar a swyddfeydd.

Gyda chymaint o newidiadau wedi eu gwneud i'r Hen Goleg a'r ddwy fila dros y 200 mlynedd diwethaf, mae deall eu hanes wedi llywio natur y gwaith o’u hadfer a'r cyfnod y maent yn cael eu dychwelyd iddo.

Dyluniad o’r ddwy fila yn dangos y lliwiau fel y byddent wedi bod ar ddechrau’r 1920au.

Yn achos y ddwy fila, ychwanegwyd mowldinau wedi'u rendro at ffenestri Fila 1 a ffenestri bae i Fila 2 yn ail hanner y 19eg ganrif, ac mae eu lliwiau wedi newid.

Yn yr argraff arlunydd o’r ddwy fila wedi'u hadfer â'r ystafell ddigwyddiadau wydr newydd ddramatig yn 'arnofio' uwch eu pennau, maent i’w gweld wedi'u peintio mewn llwyd golau.

Eglura Matthew Dyer: “Cafodd yr argraff arlunydd ei wneud cyn i ni ddadansoddi’r paent ac adolygu’r ddogfennaeth ac mae’n efelychu'r hyn oedd yno o'r blaen at ddiben y graffeg.

“Yn ystod y prosiect, rydym wedi cyfeirio at adroddiadau dadansoddi paent, ffotograffau hanesyddol yr ydym wedi'u lliwio a hefyd gwybodaeth yr ydym wedi dod o hyd iddi wrth i ni dynnu haenau o baent i wneud atgyweiriadau.

“Yn wreiddiol byddai’r adeiladau wedi bod yn symlach, gydag agoriadau sgwâr i’r ffenestri a siliau llechi. Yn ail hanner y 19eg ganrif, ychwanegwyd y ffenestri bae at Fila 2 a mowldinau wedi’u rendro at ffenestri Fila 1. Am y rheswm hwn, penderfynwyd peidio â chyflwyno’r adeiladau fel yr oeddent pan gawsant eu hadeiladu (a fyddai wedi bod mewn lliw tywodfaen), ond yn lliwiau’r adeiladau ar ôl i’r newidiadau gael eu gwneud.

“Ar sail y wybodaeth hon, cymerwyd y penderfyniad a’i gymeradwyo gan y Swyddog Cadwraeth i gyflwyno’r tu allan fel y byddai wedi ymddangos pan gafodd yr adeiladau eu prynu gan y Brifysgol yn y 1920au ac fel y ddau dŷ ar wahân yr oeddent yn wreiddiol. Mae’r cyferbyniad rhwng y ddau dŷ yn amlwg iawn yn y ddelwedd ddu a gwyn o 1921.”

Yr argraff arlunydd â'r ystafell ddigwyddiadau wydr newydd ddramatig yn 'arnofio' uwchlaw’r ddwy fila Sioraidd. Cafodd y lliwiau eu newid ar ôl dadansoddi haenau o baent wrth i’r gwaith adnewyddu fyd rhagddo.

Yn ôl Matthew, amlygwyd egni a ffyniant oes Fictoria trwy ddefnyddio lliwiau paent cryf ar y cyd â phren a thecstilau lliw tywyll.

“Er bod pobl y cyfnod Sioraidd yn ffafrio arlliwiau ysgafnach ac yn paentio eu ffenestri a’u gwaith haearn i efelychu lliw carreg, gwrthodwyd hyn gan y Fictoriaid a aeth ati i ddefnyddio lliwiau cyfoethog a manteisio ar bigmentau oedd newydd eu darganfod, neu i efelychu pren caled trofannol neu efydd drud, sy’n esbonio’r defnydd o las, brown porffor, brown siocled a gwyrdd ar gyfer rheiliau a nwyddau dŵr glaw. Roedd lliwiau tywyllach mewn dinasoedd hefyd yn cuddio’r baw diwydiannol, gyda’r duedd honno’n lledaenu wedyn. Er ei fod yn gysylltiedig â’r Frenhines Victoria trwy ei chyfnod hir o alaru, roedd yn anodd defnyddio du yn y 19eg ganrif oherwydd ei fod yn hir yn sychu. Er ei fod bellach yn boblogaidd ar gyfer nwyddau dŵr glaw a rheiliau, dim ond yn y 1940au y daeth yn gyffredin mewn gwirionedd wrth i dechnoleg paent ddatblygu.

“Parhaodd gwyn i gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau gwledig lle’r oedd pigmentau’n ddrud neu’n anodd eu cael, ond dim ond yn y 1890au gydag Adfywiad y Frenhines Anne y daeth yn ôl i ffasiwn mewn gwirionedd. Hyd yn oed wedyn, byddai’r gwahanol fathau o wyn a gynhyrchwyd gan ddefnyddio plwm neu galch wedi bod yn “lwydwyn” yn ôl ein safonau ni, gyda mathau o wyn llachar ar gael yn niwedd yr 20fed ganrif yn unig.”

Unwaith y bydd y gwaith peintio wedi'i gwblhau, bydd y sylw ar du allan y ddwy fila yn symud at adfer y balconi ar Fila 1 ac yna tynnu'r sgaffaldiau i lawr.

Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol ac unigolion.