Datblygu model newydd i ragfynegi tywydd y gofod

Echdoriad trawiadol o’r Haul. NASA/SDO, gyda prosesu delwedd gan Yr Athro Huw Morgan, Prifysgol Aberystwyth

Echdoriad trawiadol o’r Haul. NASA/SDO, gyda prosesu delwedd gan Yr Athro Huw Morgan, Prifysgol Aberystwyth

17 Mawrth 2026

Mae ymdrechion newydd i ragfynegi tywydd y gofod yn fwy cywir a dibynadwy yn cael eu harwain gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nod y gwyddonwyr yw taflu goleuni newydd ar sut mae maes magnetig yr Haul yn gweithio, yn enwedig yn ei atmosffer allanol, a elwir y corona.

Gallai datgloi cyfrinachau'r corona, sydd wedi peri her anferth i wyddonwyr ers blynyddoedd lawer, helpu i ragfynegi digwyddiadau fel stormydd ac echdoriadau’r haul, sy'n gallu tarfu ar loerennau, gridiau pŵer a systemau cyfathrebu byd-eang. 

Trwy wella’r darlun o faes magnetig yr Haul, bydd y mapiau a gynhyrchir gan y prosiect yn rhoi hwb sylweddol i gywirdeb rhagfynegiadau o dywydd y gofod - yn enwedig wrth nodi union amseriad digwyddiadau solar tarfol sy'n effeithio ar y Ddaear.

Yr Athro Huw Morgan o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth sy'n arwain y prosiect.  Dywedodd:   

"Mae’r modelau presennol o faes magnetig yr Haul yn dibynnu ar ddata o arwyneb yr Haul yn unig, ond mae'r corona yn parhau i fod yn ddirgelwch mewn sawl ffordd.

"Bydd y prosiect hwn yn defnyddio data o goronagraffau - offerynnau arbennig sy'n atal goleuni dwys yr Haul - i ddatgelu atmosffer allanol yr Haul. Trwy astudio patrymau yn y data hwn, bydd modd i ni addasu’r modelau presennol a chynnig darlun mwy cywir o faes magnetig yr Haul i’r gymuned wyddonol ac i ddaroganwyr tywydd y gofod.

"Mae i hyn oblygiadau pwysig nid yn unig o ran ymchwil wyddonol, ond hefyd o ran rhagfynegi gweithredol mewn sefydliadau fel Swyddfa Dywydd y DU. Bydd rhagolygon gwell yn helpu gweithredwyr seilwaith i gymryd camau i liniaru'r problemau a achosir ar y Ddaear gan weithgarwch yr haul."

Mae'r prosiect, ‘CorMag: A magnetic model of the corona with upper boundary observational constraints' yn cael ei ariannu gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Delwedd coronagraff gyda storm solar fawr a gafodd ei ganfod a'i olrhain gan y feddalwedd mewn lliw.

 

AU23125