Cydraddoldeb ac Amrywioldeb

Peiriannydd benywaidd

Mae’r Adran Ffiseg yn ymroddedig i ddatblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb yn ei holl arferion a'i holl weithgareddau.

Mae’r Adran Ffiseg yn ymroddedig i ddatblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb yn ei holl arferion a'i holl weithgareddau. Ein nod yw cynnig diwylliant cynhwysol i'r holl staff a myfyrwyr, heb unrhyw wahaniaethu, a chynnal gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae gan bob unigolyn yr hawl i gael eu trin yn unol â'r gwerthoedd hyn.

Cysylltiadau Hyrwyddwyr Cydraddoldeb: Dr Rachel Cross (rac21@aber.ac.uk) a Dr Dave Langstaff (dpl@aber.ac.uk)

Prosiect Juno

Project Juno yw prif wobr cydraddoldeb rhywedd y Sefydliad Ffiseg ar gyfer adrannau ffiseg prifysgol ac ysgolion ffiseg, a sefydliadau cysylltiedig eraill. Mae Project Juno yn gynllun gwobrwyo sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo adrannau ffiseg prifysgolion, ysgolion ffiseg, a sefydliadau cysylltiedig sy'n gallu dangos eu bod wedi cymryd camau i fynd i'r afael â chydraddoldeb rhywedd ar bob lefel ac i feithrin amgylchedd gwaith mwy cynhwysol.

Mae chwe egwyddor y mae’r rhai sy’n ymuno yn cytuno i weithio tuag at eu cyflawni:

  • Egwyddor 1: Fframwaith Sefydliadol
  • Egwyddor 2: Penodi a Dethol
  • Egwyddor 3: Dilyniant Gyrfa a Dyrchafiad
  • Egwyddor 4: Diwylliant Gwaith a Dyrannu Llwyth Gwaith
  • Egwyddor 5: Gweithio'n Hyblyg
  • Egwyddor 6: Ymddygiad Proffesiynol, Aflonyddu a Bwlio.

Mae'r Adran yn falch o gael ei chydnabod fel Cefnogwr ar hyn o bryd ac rydym wrthi'n gweithio tuag at lefel Ymarferydd.

Cyswllt Hyrwyddwr Juno y Sefydliad: Dr Rachel Cross (rac21@aber.ac.uk)