Taith newydd i greu clipiau llwyr yr Haul yn y gofod

30 Medi 2024

Mae gwyddonwyr yn gweithio ar lansiad taith llong ofod a fydd yn eu galluogi i graffu ar atmosffêr yr Haul mewn mwy o fanylder nag erioed o'r blaen.

Gwawr newydd ar gyfer rhybuddion storm ofod i helpu i warchod technoleg y Ddaear

30 Gorffennaf 2024

Cyn hir, gellid rhagweld stormydd gofod yn fwy cywir nag erioed o'r blaen diolch i naid enfawr ymlaen yn ein dealltwriaeth o’r union adeg y gallai ffrwydrad solar nerthol daro'r Ddaear.

Eclips yr Haul 2024: Ras tîm Aberystwyth tuag at yr Haul

09 Ebrill 2024

Bu'n rhaid i wyddonwyr o Aberystwyth a'r Unol Daleithiau oedd wedi teithio i Dallas, Texas, i astudio’r diffyg ar yr haul newid eu cynlluniau ar fyr-rybudd wedi i gymylau darfu ar eu trefniadau.

Gallai’r clip llawn o’r haul yng Ngogledd America daflu goleuni ar bos parhaus am yr Haul

28 Mawrth 2024

Mewn erthygl yn The Conversation, mae’r Athro Huw Morgan o'r Adran Ffiseg yn trafod y wyddoniaeth sydd i’w wneud yn ystod clipiau fel rhan o astudiaeth ar glip llawn o’r haul a fydd yn digwydd ar draws Gogledd America ar 8 Ebrill.

Asiantaeth Ofod y DG i ariannu gwaith i ddisodli cydrannau Rwsiaidd ar grwydryn Mawrth

23 Tachwedd 2023

Bydd Asiantaeth Ofod y Derynas Gyfunol yn darparu £10.7 miliwn yn ychwanegol i ddisodli offeryn a wnaed yn Rwsia ar y crwydryn Rosalind Franklin, fel y gellir ei lansio i’r blaned Mawrth yn 2028.

Ffisegwyr o Aberystwyth yn cydweithio ar brosiect telesgop solar

26 Gorffennaf 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o gydweithrediad rhyngwladol i adeiladu'r telesgop solar mwyaf a adeiladwyd yn Ewrop erioed.