Arbenigedd Roboteg a Llogi Cyfleusterau

Profi a dilysu roboteg yn yr awyr agored

Mae adnoddau profi roboteg Prifysgol Aberystwyth yn galluogi sefydliadau i fanteisio ar amgylcheddau profi awyr agored ar raddfa fawr, cyfleusterau arbenigol ac arbenigedd academaidd i’w cynorthwyo i ddatblygu a dilysu roboteg, systemau awtonomaidd a thechnolegau wedi'u galluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial (DA).  

  • Dros 500 hectar gydag amrywiaeth eang o amodau ac uchderau 
  • Dros 10km o lwybrau oddi ar y ffordd 
  • Llethrau serth a thir uchel (hyd at 600m) 
  • Porfeydd, bryniau, mawnog, creigiau, llwybrau cul a micro-amgylcheddau heriol. Gellir trefnu mynediad at afonydd a’r arfordir hefyd.  

Wedi'u lleoli yn ANTUR a safleoedd cysylltiedig, mae ein cyfleusterau’n galluogi sefydliadau i brofi prototeipiau a systemau ar dirweddau amrywiol, gan asesu eu perfformiad, eu dibynadwyedd a’u haddasrwydd i'w defnyddio yn y byd go-iawn. Mae ein cyfleusterau yn darparu amodau realistig na ellir eu hail-greu mewn labordy.  

Gall ein harbenigwyr academaidd a thechnegol ddarparu cymorth ar gyfer pob cam o’r broses brofi, o ddylunio arbrofion a datblygu methodoleg i gasglu, dadansoddi a gwerthuso data. Mae hyn yn helpu sefydliadau i gynhyrchu tystiolaeth gadarn, amddiffynadwy i’w cynorthwyo i wneud penderfyniadau technegol, ceisiadau am gyllid, buddsoddi a masnacheiddio.  

Ar gyfer prosiectau sy'n gofyn am fewnbwn arbenigol ychwanegol, gallwn hefyd fanteisio ar arbenigedd o bob rhan o Brifysgol Aberystwyth mewn meysydd amrywiol gan gynnwys cyfathrebu Amledd Radio (RF), dronau, technolegau synwyryddion, synhwyro o bell, monitro amgylcheddol a deallusrwydd artiffisial, gan alluogi sefydliadau i brofi systemau cyflawn a chysyniadau gweithredol mewn amgylcheddau realistig.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau sy'n datblygu roboteg, systemau awtonomaidd a thechnolegau wedi'u galluogi gan DA y mae angen eu profi a'u dilysu o dan amodau go iawn.  

Mae ein cleientiaid nodweddiadol yn cynnwys: 

  • Cwmnïau amaeth-dechnoleg sy'n datblygu roboteg maes, systemau synhwyro ac a datrysiadau ffermio a yrrir gan ddata 
  • Sefydliadau amddiffyn sy'n gweithio ar systemau awtonomaidd neu systemau a weithredir o bell 
  • Datblygwyr roboteg a chwmnïau peirianneg 
  • Datblygwyr systemau awtonomaidd a DA 
  • Timau Ymchwil a Datblygu sy’n datblygu technolegau i’w gweithredu mewn amgylcheddau cymhleth yn yr awyr agored 

Mae'r gwasanaeth yn arbennig o werthfawr i sefydliadau sy'n gweithio ar gyfnod canol y broses ddatblygu (Lefel Parodrwydd Technoleg 4–7) ac sydd angen tystiolaeth gredadwy o berfformiad eu systemau cyn y gellir eu defnyddio yn y byd go iawn, eu masnacheiddio neu eu caffael.

Gall cleientiaid fanteisio ar: 

  • Amgylcheddau profi roboteg awyr agored ar raddfa fawr 
  • Amrywiaeth o dirweddau ac amodau gweithredu yn y byd go iawn 
  • Labordai roboteg dan do a chyfleusterau gweithdy 
  • Cymorth technegol a gweithredol 
  • Arbenigedd academaidd mewn roboteg, DA a thechnolegau synhwyro 
  • Cymorth i ddylunio arbrofion, casglu a dadansoddi data 
  • Cydlynu prosiectau a chymorth logistaidd 

O logi cyfleusterau ar gyfer treialon annibynnol i raglenni profi a dilysu wedi’u rheoli’n llawn, gellir teilwra ein gwasanaeth i ddiwallu anghenion eich prosiect.

Manteision a gwerth

Manteisiwch ar arbenigedd a seilwaith roboteg o'r radd flaenaf mewn un lle 

Cyfunwch fynediad at amgylcheddau profi unigryw yn yr awyr agored â chyfleusterau roboteg arbenigol, arbenigedd academaidd a’r gallu i ddadansoddi data ar bob cam o’r broses. Rydym yn cynorthwyo sefydliadau i gynnal treialon mwy effeithiol, cynhyrchu tystiolaeth gredadwy a chyflymu arloesedd, gan leihau’r cymhlethdod ynghlwm wrth reoli partneriaid lluosog. Ar gyfer sefydliadau sydd â gofynion ehangach, gallwn fanteisio ar arbenigedd ar draws Prifysgol Aberystwyth mewn meysydd sy'n rhychwantu DA, technolegau synhwyro, dronau, cyfathrebu Amlder Radio (RF) a synhwyro o bell. 

Symud o brofion rheoledig i ddilysu yn y byd go iawn 

Mae defnyddio technolegau yn llwyddiannus yn y byd go iawn yn dibynnu ar ddeall sut maent yn perfformio y tu allan i amgylcheddau rheoledig mewn labordy. Mae amodau byd go iawn yn cyflwyno heriau fel y dirwedd, y tywydd, amrywiadau amgylcheddol a gweithredol, na all efelychiadau ar eu pen eu hunain eu hail-greu.  

 

Mae ein cyfleusterau profi roboteg yn cynorthwyo sefydliadau i wneud y pethau canlynol: 

  • Adnabod problemau cyn defnyddio’r dechnoleg yn y byd go iawn - Nodi materion yn ymwneud â pherfformiad a chyfyngiadau cyn ei defnyddio yn y byd go iawn, gan leihau methiannau costus yng nghamau hwyr y broses.  
  • Dangos gallu gyda data o’r byd go iawn - Cynhyrchu data perfformiad cadarn o’r byd go iawn i gefnogi buddsoddiadau, ceisiadau am gyllid, cyfleoedd caffael a gweithgareddau masnacheiddio.  
  • Cyflymu cylchoedd datblygu - Profi, mireinio ac ailadrodd systemau yn gyflymach trwy gael mynediad at amgylcheddau, cyfleusterau ac arbenigedd addas mewn un lle.  
  • Gwella ansawdd canlyniadau - Creu gweithgareddau profi mwy trylwyr trwy ddarparu cymorth arbenigol wrth ddylunio arbrofion, eu cynnal, a’u dehongli.  
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus wrth ddatblygu - Meithrin dealltwriaeth ddyfnach am berfformiad a dibynadwyedd systemau, fel y gellir gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch datblygu, defnyddio a buddsoddi yn y dyfodol.  

Y canlyniad yw dilysu cyflymach, llai o risg a mwy o hyder wrth ddatblygu technolegau - o greu prototeipiau i’w rhoi ar waith yn y byd go iawn.

Dewiswch eich lefel o gymorth

O logi cyfleusterau i raglenni profi a dilysu wedi'u rheoli'n llawn, gallwn deilwra ein gwasanaeth yn benodol i'ch gofynion.   

Efydd 
Mynediad at gyfleusterau ac amgylcheddau profi ar gyfer treialon annibynnol.  

Arian 
Mynediad at gyfleusterau yn ogystal â chymorth technegol i'ch helpu i gynnal arbrofion a threialon effeithiol.  

Aur 
Mynediad at gyfleusterau yn ogystal ag arbenigedd academaidd, dylunio arbrofion, cipio, dadansoddi a gwerthuso data i'ch helpu i gynhyrchu tystiolaeth gadarn a chyflymu’r broses ddatblygu.

Yr arbenigedd cysylltiedig sydd ar gael

Yn ogystal â chyfleusterau profi roboteg, mae’n bosib y bydd cleientiaid hefyd yn gallu manteisio ar arbenigedd ym meysydd: 

  • Deallusrwydd Artiffisial a dysgu peirianyddol 
  • Systemau awtonomaidd 
  • Technolegau drôn 
  • Cyfathrebu Amledd Radio (RF) a systemau diwifr 
  • Datblygu ac integreiddio synwyryddion 
  • Synhwyro o bell a monitro amgylcheddol 
  • Cipio, prosesu a dadansoddi data 

Gellir ymgorffori'r arbenigedd hwn mewn rhaglenni profi a dilysu pwrpasol lle bo'n briodol.

Sut i gysylltu â ni 

P'un a ydych chi angen mynediad at amgylchedd profi roboteg yn y byd go iawn, cymorth i ddylunio rhaglen ddilysu, neu arbenigedd i ddadansoddi canlyniadau profion, gall ein tîm helpu. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion ac i weld pa un yw’r pecyn iawn ar gyfer eich prosiect.  

Cysylltwch â ni i drefnu trafodaeth gychwynnol.  

E-bost: antur@aber.ac.uk

Ein Harbenigwyr

Dr Fred Labrosse

Arbenigwr mewn roboteg ymreolus:

 

  • Arbenigwr mewn roboteg symudol ymreolus ar gyfer amgylcheddau awyr agored
  • Canolbwyntio ar alluogi robotiaid i lywio tirwedd a llwybrau cymhleth, naturiol
  • Arbenigedd mewn llywio dan arweiniad gweledigaeth, wedi'i integreiddio â GNSS, IMUs a LiDAR
  • Ymchwilio i ddulliau disgrifio llwybrau (y tu hwnt i gyfesurynnau sefydlog) ar gyfer defnydd cadarn yn y byd go iawn
  • Arweinydd ANTUR – Tirwedd Naturiol Aberystwyth ar gyfer Roboteg Ddigymell

Dr David Jones

Arbenigwr mewn efeilliaid digidol a gwybodeg peirianneg:

 

  • Cefndir mewn gwybodeg peirianneg ac integreiddio systemau
  • Cydweithrediad diwydiant gydag Airbus a Ford i wella defnydd gwybodaeth beirianneg
  • Arbenigwr mewn technolegau efeilliaid digidol
  • Canolbwyntio ar integreiddio asedau rhithwir a ffisegol i optimeiddio perfformiad y system gyfan
  • Pontio theori a chymhwysiad i wella systemau gweithredol y byd go iawn

Jason Brook

Arbenigwr mewn monitro amgylcheddol ymreolus a thechnoleg amaethyddol fanwl gywir: 

 

  • Canolbwyntio ar raglenni monitro sy'n seiliedig ar UAVs ar draws tirweddau amaethyddol ac arfordirol
  • Darparu dadansoddeg LiDAR cydraniad uchel ac aml-sbectrol ar gyfer asesu biomas, cynefinoedd a defnydd tir
  • Dylunio a defnyddio rhwydweithiau synhwyrydd LoRaWAN ar gyfer deallusrwydd amgylcheddol amser real
  • Datblygu systemau gwrtaith a hadu manwl gywir sy'n seiliedig ar drôns ar gyfer ffermio mewnbwn isel
  • Adeiladu partneriaethau diwydiant-academaidd i gyflymu atebion rheoli tir graddadwy, sy'n seiliedig ar ddata