Arbenigedd, cyfleusterau ac offer profi Sbectrwm Amledd Radio (RF)

Amgylcheddau profi byd go iawn ar gyfer dilysu technoleg 

Mae galluoedd Profi Sbectrwm Amledd Radio (RF) Prifysgol Aberystwyth yn galluogi sefydliadau i fanteisio ar amgylcheddau profi RF awyr agored ar raddfa fawr, arbenigedd academaidd a gwasanaethau dadansoddi data ar bob cam o’r broses i ddilysu technolegau diwifr, synhwyro a chyfathrebu o dan amodau go iawn. 

Gyda mynediad at dros 500 hectar o amgylcheddau gwledig, anghysbell ac arfordirol, rydym yn cynnig un o gyfleusterau profi technoleg awyr agored mwyaf nodedig y DU, sy’n galluogi sefydliadau i asesu sut mae systemau Amledd Radio (RF) yn perfformio ar draws amrywiaeth o dirweddau, pellteroedd ac amodau gweithredu yn y byd go iawn. 

Gall ein harbenigwyr academaidd a thechnegol ddarparu cymorth ar bob cam o’r broses brofi, o ddylunio arbrofion a chasglu data i’w dadansoddi a’u dehongli, gan helpu sefydliadau i gynhyrchu tystiolaeth gadarn i’w cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau technegol, buddsoddi a masnacheiddio. 

Ar gyfer prosiectau sy'n gofyn am fewnbwn arbenigol ychwanegol, gallwn hefyd fanteisio ar arbenigedd o bob rhan o Brifysgol Aberystwyth mewn meysydd amrywiol gan gynnwys roboteg, dronau, systemau awtonomaidd, deallusrwydd artiffisial, synhwyro o bell a thechnolegau synhwyro uwch, sy’n golygu bod modd profi systemau yn eu cyfanrwydd. 

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau sy'n datblygu technolegau sy'n dibynnu ar berfformiad amledd radio ac sydd angen deall sut mae'r technolegau hynny'n gweithredu mewn amgylcheddau yn y byd go iawn. 

Mae ein cleientiaid nodweddiadol yn cynnwys: 

  • Cwmnïau telathrebu a thechnoleg ddi-wifr 
  • Sefydliadau amddiffyn a diogelwch 
  • Datblygwyr technoleg awyrofod a lloeren 
  • Gwneuthurwyr systemau modurol ac awtonomaidd 
  • Cwmnïau Rhyngrwyd Pethau (IoT), roboteg a thechnoleg synwyryddion 
  • Timau Ymchwil a Datblygu sy'n datblygu technolegau i’w defnyddio yn y byd go iawn 

Mae'r gwasanaeth yn arbennig o werthfawr i sefydliadau sy'n gweithio ar gyfnod canol y broses ddatblygu (Lefel Parodrwydd Technoleg 4–7) ac sydd angen data perfformiad cadarn cyn masnacheiddio, caffael, neu ddefnyddio’r dechnoleg yn y byd go iawn.  

Gall cleientiaid fanteisio ar: 

  • Amgylcheddau profi Amledd Radio (RF) ar raddfa fawr yn yr awyr agored 
  • Lleoliadau ymyrraeth isel ar gyfer profion sbectrwm realistig 
  • Gweithdai, labordy a chyfleusterau cymorth 
  • Cymorth technegol a gweithredol 
  • Offer Amledd Radio (RF) arbenigol trwy bartneriaid dibynadwy 
  • Arbenigedd academaidd mewn dylunio, profi a dadansoddi arbrofion 

O logi cyfleusterau ar gyfer treialon annibynnol i raglenni profi wedi’u rheoli’n llawn, gellir teilwra ein gwasanaeth i ddiwallu anghenion eich prosiect. 

Manteision a gwerth

Manteisiwch ar arbenigedd a seilwaith o'r radd flaenaf mewn un lle 

Cyfunwch fynediad at amgylcheddau profi awyr agored ar raddfa fawr â chyfarpar arbenigol, arbenigedd academaidd a’r gallu i ddadansoddi data ar bob cam o’r broses. Rydym yn helpu sefydliadau i gynnal treialon mwy effeithiol, cynhyrchu tystiolaeth gredadwy a chyflymu arloesedd, gan leihau’r cymhlethdod ynghlwm wrth reoli partneriaid lluosog. Ar gyfer sefydliadau sydd â gofynion ehangach, gallwn fanteisio ar arbenigedd ar draws Prifysgol Aberystwyth mewn meysydd sy'n rhychwantu roboteg, dronau, synwyryddion, systemau awtonomaidd a DA. 

Dilysu technoleg gyda hyder 

Hyn a hyn all profion ac efelychiadau yn y labordy ei wneud. Mae defnyddio’r dechnoleg yn y byd go iawn yn cyflwyno cymhlethdod amgylcheddol, tirweddau amrywiol, ymyrraeth signalau a heriau gweithredol na all amgylcheddau a reolir eu hail-greu’n llawn. 

 

Mae ein Cyfleusterau Profi Sbectrwm Amlder Radio (RF) yn helpu sefydliadau i: 

  • Leihau risgiau technegol - Nodi materion yn ymwneud â pherfformiad yn gynnar, cyn gwneud penderfyniadau costus ynghylch caffael neu roi’r dechnoleg ar waith. 
  • Creu tystiolaeth gredadwy - Cynhyrchu data cadarn, amddiffynadwy a all gefnogi buddsoddiadau, caffael, ceisiadau am gyllid a gweithgareddau masnacheiddio. 
  • Cyflymu datblygu - Lleihau'r amser a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â sicrhau lleoliadau profi, cydlynu offer a threfnu cymorth arbenigol. 

Gwneud penderfyniadau gwell - Cewch ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae eich technoleg yn perfformio mewn amodau gweithredol, a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch datblygu a defnyddio’r dechnoleg. 

Y canlyniad yw dilysu cyflymach, tystiolaeth gryfach a mwy o hyder wrth ddatblygu technolegau - o greu prototeip i brofi bod y dechnoleg yn effeithiol. 

Dewiswch eich lefel o gymorth

O logi cyfleusterau i raglenni profi a dilysu wedi'u rheoli'n llawn, gallwn deilwra ein gwasanaeth yn benodol i'ch gofynion. 

Efydd 
Mynediad at gyfleusterau ac amgylcheddau profi ar gyfer treialon annibynnol. 

Arian 
Mynediad at gyfleusterau yn ogystal â chymorth technegol i'ch helpu i gynnal arbrofion a threialon effeithiol. 

Aur 
Mynediad at gyfleusterau yn ogystal ag arbenigedd academaidd, dylunio arbrofion, cipio, dadansoddi a gwerthuso data i'ch helpu i gynhyrchu tystiolaeth gadarn a chyflymu’r broses ddatblygu.

Yr arbenigedd cysylltiedig sydd ar gael

Yn ogystal â chyfleusterau profi Amlder Radio (RF), mae’n bosib y bydd cleientiaid hefyd yn gallu manteisio ar arbenigedd mewn: 

  • Roboteg a Systemau Awtonomaidd 
  • Technolegau drôn 
  • Deallusrwydd Artiffisial a dysgu peirianyddol 
  • Datblygu ac integreiddio synwyryddion 
  • Synhwyro o bell a monitro amgylcheddol 
  • Cipio, prosesu a dadansoddi data 

Gellir ymgorffori'r arbenigedd hwn mewn rhaglenni profi a dilysu pwrpasol lle bo'n briodol.

Sut i gysylltu â ni:

P'un a ydych chi angen mynediad at amgylchedd profi Amlder Radio (RF) yn y byd go iawn, cymorth i ddylunio rhaglen ddilysu, neu arbenigedd i ddadansoddi eich canlyniadau, gall ein tîm helpu. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion ac i weld pa un yw’r pecyn iawn ar gyfer eich prosiect. 

Cysylltwch â ni i drefnu trafodaeth gychwynnol.  

E-bost: drbi@aber.ac.uk

Ein Harbenigwr

Dr Syeda Fizzah Jilani

Darlithydd yn yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae'n Arweinydd Technegol y Cyfleusterau Profi Sbectrwm Amledd Radio a Chydlynydd Cwrs ar gyfer yr MSc mewn Cyfathrebu a Rhwydweithiau Di-wifr Deallus. Mae hi'n addysgu modiwlau israddedig ac ôl-raddedig ac yn goruchwylio prosiectau ymchwil israddedig, meistr a PhD. Mae Dr Jilani wedi arwain a chyfrannu at nifer o brosiectau ymchwil a ariennir gan y diwydiant gyda sefydliadau gan gynnwys QinetiQ, DSTL a L3Harris Technologies. Mae hi'n Llysgennad Proffesiynol Ifanc Cymdeithas Antenâu a Lledaeniad IEEE (AP-S) ac yn aelod o Bwyllgor Gwaith Rhwydwaith Technegol Antenâu a Lledaeniad IET.

Derbyniodd Dr Jilani ei gradd PhD mewn Antenâu ac Electromagneteg o Brifysgol y Frehines Mary, Llundain yn 2018. Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, roedd hi'n Wyddonydd Ymchwil ym Mhrifysgol Maine, UDA, lle bu'n gweithio ar brosiect Adran Ynni'r Unol Daleithiau (DOE) yn datblygu synwyryddion RF amgylchedd garw ar gyfer cymwysiadau diwydiannol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys electromagneteg, lledaeniad tonnau radio, synhwyro a monitro sbectrwm RF, caffael data di-wifr, synhwyro o bell, monitro sbectrwm RF, antenâu ail-ffurfweddadwy a hyblyg, electroneg wisgadwy, araeau antena tonnau milimetr ar gyfer 5G / 6G, cyfathrebu diwifr uwch, metaarwynebau, a synwyryddion tonnau acwstig arwyneb (SAW).

Derbyniodd Wobr Amlygu Prifysgol Aberystwyth ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 a chafodd ei chydnabod yn y rhestr fyd-eang o "100 o fenywod gwych ac ysbrydoledig mewn 6G™" ar gyfer 2024. Mae hi wedi ysgrifennu a chyd-ysgrifennu un llyfr, pum pennod mewn llyfr, a thros 75 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid, gyda mwy na 2200 o ddyfyniadau (Google Scholar), mynegai-h o 23, a mynegai-i10 o 42. Mae hi hefyd yn un o brif awduron y llyfr IET Antennas and Propagation for 5G and Beyond.