Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth KESS II
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESSII) yn weithgaredd sylweddol ar draws Cymru a gefnogir gan gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru. Mae'n cysylltu cwmniau a sefydliadau gydag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar y cyd. Yn dilyn prosiect KESS hynod lwyddiannus rhwng 2009 a 2014, mae KESS II bellach yn yr ail rownd gyllido a bydd yn darpau 645 o ysgoloriaethau dros gyfnod y gweithgaredd.
Pa fath o sefydliadau all gymryd rhan?
Gall amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau gymryd rhan yn KESS II, gan gynnwys gwmnïau Busnes-Meicro, busnesau bach a chanolig, cwmnïau mawr, Trydydd Sector a Mentrau Cymdeithasol. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod â phresenoldeb gweithredol yn y Ardal Cydgyfeirio (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd) a Dwyrain Cymru. Mae'r holl ysgoloriaethau KESS wedi'u hintegreiddio â rhaglen hyfforddi sgiliau lefel uwch ar gyfer y myfyriwr sy'n cymryd rhan, gan arwain at Wobr Datblygu Sgiliau Ôl-radd, a fydd yn mynd i'r afael â bylchau gwybodaeth. Rhaid i unrhyw brosiect ymchwil arfaethedig hefyd ddangos budd parhaol i'r rhanbarth perthnasol ar adeg y cais.
Pam Dewiswch KESS II
Mae pob prosiect wedi'i ddylunio'n benodol i fodloni anghenion eich cwmni. Yna, cynhelir y prosiect gan fyfyriwr ar lefel Meistri Ymchwil neu PhD, a gefnogir gan y cwmni a'r Brifysgol berthnasol. Dyma rai o'r fanteision o gymryd rhan yn KESS II:
- Y cyfle i brofi hawliadau, canfyddiadau a phrofiadau ynglŷn â'ch cynnyrch, eich gwasanaeth neu'ch brand.
- Ymchwil y gallwch chi siapio, gyda chymorth academaidd, i weddu anghenion eich cwmni.
- Sefydlwch eich sefydliad fel llais awdurdodol ac arweinydd marchnad yn eich sector.
- Myfyriwr penodol, wedi'i oruchwylio gan academydd, i weithio ar faes penodol i'ch busnes.
- Cost isel iawn yn erbyn yr elw gall ei gynhyrchu ar gyfer eich cwmni.
Mae rhaid i brosiectau ymchwil hefyd gyd-fynd â sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru:
- TGCH a'r Economi Digidol
- Prosiect enghreifftiol: Arferion twristiaeth ddigidol byd-eang a datblygu economaidd ar gyfer Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO
- Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
- Prosiect enghreifftiol: Datblygu technolegau arloesol ym maes iechyd merched yng nghyswllt gwneud diagnosis clinigol ynghylch anffrwythlondeb a chancr gynaecolegol
- Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd
- Prosiect enghreifftiol:Tyfu tatws sy'n gwrthsefyll clwy tatws
- Peirianneg a Deunyddiau Uwch
- Prosiect enghreifftiol:Datblygu cynnyrch ar gyfer rhyddhau cyffuriau ar y croen a drwy'r croen mewn modd rheoledig gan ddefnyddio dulliau encapsiwleiddio micro/nano a nodwyddau micro
Bydd angen i gynigion prosiectau gael eu llunio gan bartner academaidd ym Mhrifysgol Bangor a phartner cwmni – gyda’r prosiect yn canolbwyntio ar angen yn y cwmni.
Er mwyn bod yn gymwys i gael arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, rhaid i brosiectau ddilyn y meini prawf canlynol:
- Cael eu llunio mewn partneriaeth â phartner cwmni.
- Rhaid i weithgarwch y prosiect fod yn rhanbarth cydgyfeirio Cymru neu Ddwyrain Cymru.
- Bydd yn rhaid i’r cwmni partner wneud cyfraniad ariannol blynyddol (Mae'r cyfraniadau yn destyn TAW):
- Gorllewin MPhil/MRes: £3,750 - £4,750 (gan ddibynnu ar faint y cwmni).
- Dwyrain PhD: £5,500 - £7,000 (gan ddibynnu ar faint y cwmni)
- Dwyrain MPhil/MRes: £5,500 - £7,000 (gan ddibynnu ar faint y cwmni)
- Rhaid iddo berthyn i un o feysydd 'her mawr' Llywodraeth Cymru.
- Rhaid iddo arwain at gymhwyster Gradd Meistri Ymchwil neu PhD. Ni all y myfyrwir ddal cymhwyster ar y lefel yma cyn yr ysgoloriaeth.
- Rhaid iddo gael ei gwblhau cyn pen 3.5 blynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn a 3 mis ar gyfer Meistri Ymchwil.
Ar ôl cymeradwyo’r prosiectau arfaethedig, bydd ysgoloriaeth yn cael ei chynnig.
Mae’r ysgoloriaeth yn cynnig y canlynol i’r cyfranogwr (myfyriwr) cymwys:
- Tâl misol yn unol â chyfraddau RCUK: 3 mlynedd o gyllid sef £14,628 ar gyfer PhD; blwyddyn o gyllid sef £11,702 ar gyfer Meistri Ymchwil.
- Ni fydd Prifysgol Aberystwyth yn codi ffioedd dysgu
- Cyfle i fanteisio ar lu o hyfforddiant sgiliau lefel uwch a phresenoldeb yn Ysgol Breswyl Graddedigion KESS. Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan gwblhau Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig KESS.
- O leiaf 30 diwrnod y flwyddyn yn gweithio gyda’r partner cwmni ar eu prosiect penodol.
- Cyllideb KESS safonol ar gyfer costau eraill sy’n ymwneud â’r prosiect ymchwil (teithio, nwyddau traul ac offer).
- Rhaid i’r myfyrwyr gwblhau a chyflwyno eu traethawd mewn 3.5 blynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn a 3 mis ar gyfer Meistri Ymchwil.
Dylai’r ymgeiswyr fyw yn ardal cydgyfeirio Cymru wrth gael eu penodi, a dylen nhw fod â’r hawl i weithio yn y rhanbarth wrth gymhwyso.
Beth yw'r dyddiad cau nesaf ar gyfer Ffurflenni Cais am Brosiect?
Mae ceisiadau prosiectau MPhil a Mres Dwyrain Cymru ar agor. Nid oes rhagor o leoedd PhD ar gael ar gyfer Gorllewin Cymru. Gellir cyflwyno ceisiadau MPhil ac MRes Gorllewin Cymru ar unrhyw adeg.
Am fwy o wybodaeth gwelwch KESS 2 Taflen Ffeithiau i Gwmniau (Gorllewin) KESS 2 Taflen Ffeithiau i Gwmniau (Dwyrain)
Cynaliadwyedd & KESS2
Mae KESS2 fel prosiect wedi ymrwymo i weithredu mewn modd cynaliadwy. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod ein tîm a'n partneriaid yn gallu dangos ein bod yn rhoi ystyriaeth briodol i lesiant y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yn ein holl withgareddau, fel ein bod yn gallu byw, gweithio a chreu'r Cymru mae pawb eisiau. Am ragor o fanylion, ewch i dudalennau Cynaliadwyedd gwefan KESS2.
Mae’r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
*Mae'r ardal Cydgyfeirio yn cynnwys Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ac mae'n cynnwys y 15 awdurdod lleol a ganlyn: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Caerffili, Blaenau Gwent a Torfaen. Mae Dwyrain Cymru yn cynnwys y 7 awdurdod lleol canlynol: Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd, Bro Morgannwg