Technoleg i’ch Busnes

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio’n agos â busnesau i ddatblygu a masnacheiddio technolegau o safon fyd-eang.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae ein swyddfa Trosglwyddo Technoleg wedi llwyddo i drwyddedu nifer o gynhyrchion a gwasanaethau, ac wedi sefydlu nifer o gwmnïau Deillio ar sail arloesedd Prifysgol Aberystwyth.

Rydym yn croesawu pob ymholiad a mynegiad o ddiddordeb yn ein portffolio technoleg, ac yn falch o gynnig gwasanaeth proffesiynol a gwybodus i fyd diwydiant.

 

Apiau Symudol

Mae ein portffolio o apiau symudol ar gael i'w lawrlwytho o siop iTunes (chwiliwch am Aber Trading).

Datblygu Apiau ar gyfer y Farchnad

Gan dynnu ar arbenigedd o bob rhan o’r Brifysgol, mae Aberystwyth wedi datblygu cyfres o apiau sy’n cysylltu â syniadau arloesol sy’n deillio o weithgareddau ymchwil a datblygu.

Mae ein portffolio o apiau yn cynnwys:

 

farmGRAZE

Cyfres o apiau amaethyddiaeth ac iechyd anifeiliaid yn seiliedig ar arbenigedd Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) o ganlyniad i 'her apiau symudol' y Brifysgol yn 2011. Mae rhagor o wybodaeth am yr apiau (gan gynnwys farmGRAZE a horseRATION) ar gael ar: www.mobilefarmapps.com.

 

Cwrs Mynediad

Ap dysgu Cymraeg a ddatblygwyd ar y cyd â CBAC gan yr Athro Chris Price a Neil Taylor o'r Adran Cyfrifiadureg.

Cwrs Mynediad

 

Face Transformer 

Face Transformer - Art Edition

Face Transformer - Ape Edition

Datblygwyd gan yr Athro Bernie Tiddeman, Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth a’r Athro Dave Perrett, Prifysgol St Andrews.

 

AberWorld

Ap i gadw cymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gysylltiedig â'r Brifysgol a'i gilydd.