Cyfarpar Ymchwil

 

Catalog y Brifysgol

Mae gan Brifysgol Aberystwyth ystod eang o gyfarpar a chyfleusterau ymchwil; mae i ni hanes cadarn o gydweithio gyda sefydliadau a chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Hoffem hyrwyddo’r perthnasau hyntrwy sicrhau bod ein rhwydwaith ymchwil mewnol ar gael i'w ddefnyddio neu ei logi.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu prosiect gyfredol i gynhyrchu a chynnal catalog o’n cyfarpar a’n cyfleusterau ymchwil.

Bydd y catalog yn galluogi:

  • Ymchwilwyr i adnabod adnoddau sydd eisoes yn bod i’w cynnwys er mwyn cefnogi cynigion ymchwil.
  • Meithrin diwylliant o rannu; i wella effeithiolrwydd adnoddau.
  • Agor ein hoffer a'n cyfleusterau i'r byd ehangach; caniatáu cydweithrediad newydd gyda diwydiant, sefydliadau, a meysydd eraill o'r economi fyd-eang.

Bwriad y catalog yw cael y gwerth a’r deunydd gorau posibl o’r cyfarpar sydd gennym tra’n osgoi’r gost o ddyblygu. Mae’r prosiect yn ymateb i ganllawiau newydd ar gyfer ceisiadau am grant i Gynghorau Ymchwil sy’n galw am ystyriaeth i rannu cyfarpar cyn i’r opsiwn o bwrcasu gael ei ystyried.

Mae catalog Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chadw yn ein System Gwybodaeth Ymchwil Gyfredol (CRIS): PURE.

Mae ar gael i'w weld yma

Catalog y DU

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cyfrannu i gatalog ymchwil genedlaethol y DU a gedwir yn equipment.data. Siop un safle yw equipment.data ar gyfer cyrchu cyfarpar ymchwil ledled y DU mewn unrhyw sefydliad sy’n cyfrannu. Mae’n darparu porth syml i gyrchu’r catalogau hyn a’i fwriad yw gwella effeithiolrwydd a symbylu cydweithrediad

Rydyn ni wedi cyflawni cydymffurfiad aur yn ôl eu safonau drwy wneud ein catalog mor hawdd i’w darganfod a’i harchwilio ag sy’n bosibl.

Mae ar gael i'w weld yma