Porth Ymchwil Aberystwyth
Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ledaenu ein hymchwil a'n hysgolheictod mor eang â phosibl, ac o 1 Ionawr 2026 ymlaen rydym wedi dechrau gweithredu Cadw Hawliau ar gyfer ein hawduron.
Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Mae'r porth hefyd yn cynnwys Proffiliau Personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol. Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.
Mae argaeledd y cyhoedd o ddata personol o'r fath yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd - Datganiad Prosesau Data - Data Gweithwyr, pwynt 7.
Archwilio’r Porth Ymchwil Aberystwyth
Ail Ddefnyddio
Polisi Tynnu-Allan
Gwybodaeth gyswllt
Am unrhyw gymorth neu ymholiad mewn perthynas â Phorth Ymchwil Aberystwyth, cysylltwch â'r YBA trwy: e-bost: ymchwil@aber.ac.uk gyda Phorth Ymchwil Aberystwyth yn y pwnc;
