Helpu plant i ffynnu yn y system cyfiawnder ieuenctid

 

Yn aml fe welir plant yn y system gyfiawnder yn nhermau risg a’u hymddygiad troseddu. Rhoddir mwyfwy o sylw erbyn hyn i ymdriniaethau sy’n cydnabod profiadau ehangach y plant, eu cryfderau a’u potensial i ddatblygu.

Mae ymchwil Dr Kathy Hampson yn craffu ar sut mae systemau cyfiawnder ieuenctid yn gallu ymateb yn well i blant drwy gydnabod eu hamgylchiadau unigol, eu cynnwys nhw mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, a chreu cyfleoedd am ddatblygiad cadarnhaol.

Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Dr Hampson, a chanddi brofiad o weithio yn y sector cyfiawnder ieuenctid.  Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar bolisi ac ymarfer ym maes cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig o ran sut mae plant sydd wedi dod i gyswllt â’r gyfundrefn gyfiawnder yn gallu cael eu cefnogi drwy ddefnyddio ymdriniaethau sy’n cydnabod datblygiad plant, pwysigrwydd perthnasau cadarnhaol a’r ffactorau ehangach sy’n llywio eu bywydau.

Gan gydweithio ag ymarferwyr, ymchwilwyr a sefydliadau ar draws y sector cyfiawnder ieuenctid, nod ei gwaith ymchwil yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng tystiolaeth, polisi ac ymarfer y rheng flaen, gan helpu i roi profiadau a safbwyntiau’r plant wrth ganol y drafodaeth.

Ymgorffori ymdriniaethau sy’n rhoi’r Plentyn yn Gyntaf mewn ymarfer cyfiawnder ieuenctid

Un o’r agweddau allweddol y mae ymchwil Dr Hampson yn canolbwyntio arnynt yw cyfiawnder ieuenctid sy’n rhoi’r Plentyn yn Gyntaf, sy’n anelu at sicrhau bod plant yn cael eu deall a’u cefnogi fel plant yn gyntaf, yn hytrach na’u diffinio’n bennaf yn ôl eu hymddygiad troseddol.

Mae cyfiawnder sy’n rhoi’r Plentyn yn Gyntaf yn pwysleisio deall plant fel unigolion, gwrando ar eu barn, eu cynnwys nhw wrth wneud penderfyniadau, meithrin perthnasau cadarnhaol a chydnabod eu gallu i ddatblygu a newid er gwell.  Mae ymchwil Dr Hampson yn craffu ar sut mae’r egwyddorion hyn yn cael eu trosi’n ymarfer bob dydd a pha gefnogaeth sydd ei hangen ar ymarferwyr i’w gwneud yn ystyrlon o fewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid.

Un thema allweddol yn y gwaith hwn yw pwysigrwydd gwrando ar blant a sicrhau bod eu barn yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.  Gan weithio gyda’i chydweithwyr, astudiodd Dr Hampson brofiad cydweithredu o safbwynt y plant sydd yn y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid.

Astudiodd yr ymchwil a oedd y plant yn teimlo’n rhan o’r penderfyniadau am y gefnogaeth a ddarparwyd iddynt ac a oedd yr ymdriniaethau’n cael eu datblygu gyda nhw, yn hytrach na dim ond yn cael eu cymhwyso iddyn nhw. Darganfu’r gwaith fod profiadau plant yn amrywio ar draws y system ehangach, gan gynnwys plismona, y llysoedd, addysg ac asiantaethau eraill, er bod llawer o wasanaethau'n anelu at weithio’n fwy cydweithredol.

Mae'r ymchwil wedi cyfrannu at ddatblygu adnoddau sydd â'r nod o helpu i sicrhau ymarfer mwy cyson a chydweithredol ar draws y sefydliadau sy'n chwarae rhan ym mywydau’r plant.

Cefnogi ymarferwyr drwy ymchwil a hyfforddiant

Mae Dr Hampson wedi gweithio'n uniongyrchol gydag ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid ledled Cymru a Lloegr i helpu i roi egwyddorion Rhoi’r Plentyn yn Gyntaf ar waith yn ymarferol.

Mae wedi datblygu a darparu hyfforddiant i helpu ymarferwyr i ddeall cyfiawnder sy’n rhoi’r Plentyn yn Gyntaf ac i ddeall sut y gallent eu rhoi ar waith yn eu hymarfer eu hunain.

Mae’r hyfforddiant yn galluogi ymarferwyr i fyfyrio am eu profiadau, trafod heriau a rhannu dulliau o weithio gyda phlant yn fwy cydweithredol, gan ganolbwyntio ar eu cryfderau.

Mae ei hymchwil hefyd wedi archwilio’r heriau ehangach sy’n codi wrth ymgorffori egwyddorion Rhoi’r Plentynt yn Gyntaf ar draws y system cyfiawnder ieuenctid. Er bod llawer o wasanaethau wedi cofleidio egwyddorion Rhoi’r Plentyn yn Gyntaf, mae’r gwahaniaethau yn y disgwyliadau a’r ymdriniaethau sefydliadol rhwng asiantaethau partneriaethol yn gallu creu heriau o ran sicrhau profiad cyson i’r plant.

Drwy gyfnewid gwybodaeth a meithrin cysylltiadau ag ymarferwyr, mae ei gwaith wedi cynorthwyo’r trafodaethau cyfredol am sut y gallai tystiolaeth ymchwil fwydo i waith ymarferol cyfiawnder ieuenctid sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bwydo i’r trafodaethau am gyfrifoldeb a chadw plant yn y ddalfa

Mae ymchwil Dr Hampson hefyd yn ystyried cwestiynau ehangach am sut mae cyfrifoldeb ac atebolrwydd yn cael eu deall o fewn y system cyfiawnder ieuenctid.

Un o’r meysydd y mae’n canolbwyntio arno yw’r oedran cyfrifoldeb troseddol yng Nghymru a Lloegr, sydd ymhlith yr isaf yn Ewrop o hyd.  Mae ei gwaith yn ystyried sut mae datblygiad gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol yn gallu dylanwadu ar sut maent yn deall cyfrifoldeb a’u rhan mewn prosesau cyfreithiol.

Gan gydweithredu â’i chydweithwyr, mae wedi craffu ar agweddau’r cyhoedd tuag at yr oedran cyfrifoldeb troseddol, ac ystyried y rhagdybiaethau am sut mae’r cyhoedd yn gweld yr ymagweddau tuag at blant sydd wedi troseddu, rhagdybiaethau sydd wedi atal newid i’r ddeddfwriaeth ers degawdau.

Mae ei hymchwil hefyd yn ystyried sut mae cysyniadau cyfreithiol megis euogrwydd a bwriad yn cael eu cymhwyso i blant, gan amlygu cwestiynau ynghylch sut mae’r prosesau hyn yn adlewyrchu datblygiad gwybyddol ac emosiynol plant.

Mae cainc arall o’i gwaith yn canolbwyntio ar gadw plant a phobl ifainc yn y ddalfa. Er bod y nifer o blant a gedwir yn y ddalfa wedi lleihau’n sylweddol dros y degawdau diweddar, mae ei gwaith yn astudio dedfrydu i’r ddalfa, sy’n dal i ddigwydd, a’r goblygiadau posib i addysg, perthnasau a chyfleoedd yn y dyfodol.

Gyda’i gilydd, mae’r meysydd ymchwil hyn yn cyfrannu at drafodaethau ehangach am sut y gallai cyfundrefnau cyfiawnder ieuenctid ymateb i blant mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu’r dystiolaeth am ddatblygiad, cyfranogiad a chefnogaeth effeithiol.

Datblygu ymdriniaethau newydd er mwyn cynnwys plant

Mae Dr Hampson hefyd yn datblygu dulliau newydd o helpu i gynnwys plant sy’n rhan o’r gyfundrefn cyfiawnder ieuenctid.

Mae un maes ymchwil sy’n cael ei ddatblygu yn cynnwys addasu LEGO® Serious Play® i’w ddefnyddio â phlant sy’n rhan o’r system gyfiawnder. Wedi’i ddatblygu yn wreiddiol i’w ddefnyddio gan grwpiau a busnesau, mae’r dull hwn yn defnyddio gweithgareddau strwythuredig a seilir ar LEGO® i annog myfyrio, cyfathrebu a datrys problemau.

Mae Dr Hampson yn ystyried sut y gallai’r dull hwn helpu plant i feddwl am eu hunaniaethau, eu profiadau a’u dyheadau mewn modd hylaw a hwylus.

Mae’r cyswllt cychwynnol ag ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid wedi amlygu potensial y dull hwnnw ar gyfer cynorthwyo â chyfathrebu, meithrin perthnasu, ac annog cyfranogiad, yn enwedig yn achos plant sy’n cael y dulliau mwy traddodiadol yn heriol.

Mae’r gwaith hwn yn bwydo i’r gwaith datblygu ymchwil yn y dyfodol a’r posibiliad o greu offer newydd ar gyfer cyfiawnder ieuenctid er mwyn cefnogi ymdriniaethau sy’n canolbwyntio ar gryfderau a hunaniaethau’r plant.

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk