Gall ymchwil gwefus hollt leihau llawdriniaethau plant
Gallai ymchwil helpu plant sy'n cael eu geni â gwefus a thaflod hollt i osgoi llawdriniaethau pellach wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn.
Yn fyd-eang, caiff tuag un ymhob 700 o fabanod eu geni â gwefus neu daflod hollt ac fel arfer mae angen llawdriniaeth adluniol yn ystod y misoedd cynnar.
Wrth iddyn nhw dyfu a datblygu, mae’n bosib y bydd angen llawdriniaeth ychwanegol ar rai plant i wella ymddangosiad eu hwyneb a gweithrediad neu aliniad eu gên.
Mewn ymgais i leihau’r angen am lawdriniaethau lluosog, mae gwyddonwyr cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio gydag arbenigwyr clinigol i ragweld yn well batrymau twf yng ngheg babi.
Maen nhw’n defnyddio modelau 3D a thechnegau dysgu peirianyddol i ragfynegi’n gywir ganlyniadau’r llawdriniaeth ymhen pum neu ddeng mlynedd.
Wrth siarad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Gwefus a Thafod Hollt 2025, dywedodd prif ymchwilydd y prosiect, yr Athro Reyer Zwiggelaar o’r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydyn ni am i’n hymchwil arwain at ganlyniadau gwell i gleifion sy’n cael eu geni â gwefus neu daflod hollt. Er bod llawdriniaeth gywirol ar gyfer y mwyafrif o gleifion gwefusau neu daflod hollt yn llwyddiannus, mae angen ymyrraeth ymchwanegol ar rai wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn. Gan ddefnyddio technolegau dysgu dwfn blaengar, ein nod yw darparu'r offer sydd eu hangen ar lawfeddygon i wneud penderfyniadau manwl gywir cyn gweithredu. Ein gobaith yw y bydd ein gwaith yn helpu i osgoi’r angen i rai plant fynd trwy lawdriniaethau ychwanegol.”
Dywedodd Cory Thomas, peiriannydd meddalwedd ymchwil yn yr Adran Gyfrifiadureg yn Aberystwyth:
“Rydyn ni’n datblygu algorithmau a fydd yn gallu nodi chwe phwynt arwyddocaol yng ngheg babi. Gellir defnyddio’r anodiadau hyn wedyn i ragfynegi twf yn y dyfodol. Bydd y feddalwedd yn helpu i osgoi’r hyn y cyfeirir ato mewn termau clinigol fel “twf gwael” sy’n gofyn am ymyriad llawfeddygol pellach, er enghraifft, mewn achosion lle mae’r wyneb yn ymddangos yn rhy wastad.”
Mae'r ymchwil yn Aberystwyth yn elwa ar arbenigedd a phrofiad llawfeddyg clinigol ac orthodeintydd sydd wedi bod yn gweithio gyda chleifion ifanc gwefusau a thaflod hollt ers blynyddoedd lawer.
Dywedodd Bruce Richard, llawfeddyg plastig wedi ymddeol a fu’n arbenigo ar wefus a thaflod hollt yn Ysbyty Plant Birmingham am dros 30 o flynyddoedd:
“Mae tua 25% o blant sy’n cael eu geni â gwefus a thaflod hollt yn wynebu tyfiant gwael o gwmpas canol eu hwyneb erbyn eu bod yn 16 oed. Gallan nhw ddewis cael llawdriniaeth esgyrnog fawr i dynnu ymlaen canol y wyneb a dannedd y gên uchaf er mwyn cywiro’r edrychiad lle mae canol yr wyneb yn syrthio i mewn, fel petai.
“Pe gallen ni ragweld pa blant sydd â’r risg uchaf o brofi’r twf gwael yma, yna gallem ddatblygu strategaethau newydd gydag offer deintyddol i geisio lleihau’r broblem cyn i’r plentyn gyrraedd 5-8 oed. Byddai llwyddiant yn golygu bod llai o bobl ifanc yn eu harddegau yn gorfod mynd trwy lawdriniaeth fawr pan maen nhw’n oedolion ifanc.”
Dywedodd Lars Enocson, Ymgynghorydd Orthodontig Hollt arweiniol yn Ysbyty Plant Birmingham:
“Mae'r ffordd y mae'r wyneb yn tyfu yn ystod plentyndod yn dibynnu ar eich genynnau a'r byd o'ch cwmpas, fel bwyd da neu lefelau llygredd. Os nad yw plentyn â gwefus a thaflod hollt byth yn cael llawdriniaeth i atgyweirio'r hollt, yna mae'r wyneb yn tyfu'n normal. Mae ein hastudiaeth ni yn edrych ar siâp gên uchaf y babi adeg ei eni i weld a oes unrhyw siâp 3-D penodol sy'n rhagweld pwy sy'n cael y twf gwael yma ar ôl cael llawdriniaeth. Byddai gwybod hyn yn cynnig mwy o ddewisiadau o ran sut rydyn ni’n gofalu am y plentyn wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn.”
Bydd cam nesaf yr ymchwil yn canolbwyntio ar adeiladu modelau rhagfynegi 3D, a bydd angen cyfres o dreialon clinigol cyn y gellir defnyddio'r dechnoleg mewn lleoliad meddygol.
Mae’r ymchwil wedi derbyn cyllid gan Sefydliad VTCT, elusen sy’n ariannu ymchwil ar gyfer pobl sy’n byw gyda gwahaniaeth gweladwy, yn ogystal â chefnogaeth gan Brifysgol Aberystwyth.
Delweddu Meddygol
Mae’r gwaith ar wefus neu daflod hollt yn adeiladu ar flynyddoedd o arbenigedd mewn prosesu delweddu meddygol yn Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r dechneg yn caniatáu ar gyfer archwiliad manwl ond anfewnwthiol o anatomeg fewnol ac mae wedi arwain at nifer sylweddol o ddatblygiadau gofal iechyd, yn enwedig ar gyfer dadansoddi delweddau o achosion o ganser y fron a chanser y prostad.
Mae cymwysiadau eraill yn cynnwys defnyddio'r feddalwedd i archwilio briwiau Sglerosis Ymledol, adferiad wedi strôc, a diagnosis a rheoli endometriosis.
Cyflwynwyd y gwaith delweddu meddygol yma fel Astudiaeth Achos Effaith Ymchwil i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, sef system y DU ar gyfer asesu rhagoriaeth ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch.

Cysylltwch â ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at: