Gwella teithiau pob dydd i fenywod a merched

 

Mae ymchwil yn dangos bod menywod a merched ar draws y DU yn wynebu rhwystrau anghymesur i symudedd, sy’n deillio o risg uwch o aflonyddwch ac o systemau trafnidiaeth a ddyluniwyd yn y gorffennol heb ystyried eu hanghenion penodol nhw o ran diogelwch na’u patrymau teithio.

Mae Dr Lucy Baker, ymchwilydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn ennill bri fel un o leisiau academaidd blaenllaw Cymru ym maes symudedd sy’n gynhwysol o ran rhywedd. 

Mae’r erthygl hon yn archwilio sut y mae ei hymchwil a’i dealltwriaeth yn dylanwadu ar y modd y mae cynghorau, gweithredwyr trafnidiaeth a chymunedau yng Nghymru yn deall yr heriau hyn ac yn mynd i’r afael â nhw.

Adnodd cenedlaethol dros newid

Ym mis Mawrth 2026, ysgrifennodd Dr Baker ‘Gwella teithiau bob dydd i fenywod a merched’, a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Yr adnodd hwn yw’r canllaw diweddaraf yng nghyfres teithio llesol yr asiantaeth, sy’n ceisio annog cerdded, olwyno a beicio drwy fynd i’r afael â’r rhwystrau penodol y mae menywod a merched yn eu hwynebu.

Cafodd y canllaw ei ddatblygu ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, ac mae’n crynhoi tystiolaeth ymchwil, strategaethau ymgyrchu llwyddiannus a mesurau dylunio ymarferol y gellir eu hymgorffori mewn gwaith cynllunio, cyllidebu a chyflawni.

Fel yr esbonia Dr Baker:

“Mae degawdau o ymchwil yn dangos bod profiad menywod o deithiau pob dydd yn wahanol iawn i brofiad dynion. Maent yn fwy tebygol o ddioddef aflonyddwch ac o bryderu am ddiogelwch, ac yn aml byddant yn addasu eu llwybrau neu’u trefn arferol er mwyn lleihau’r risg. At hynny, mae llawer ohonynt yn gwneud mwy o deithiau sy'n gysylltiedig â gofal, ond nid yw systemau trafnidiaeth bob amser yn cefnogi’r patrymau hynny.

“Mae’r canllaw hwn, wrth ymdrin â'r anghydraddoldebau hyn drwy seilwaith mwy diogel, dylunio cynhwysol ac ymgysylltu ystyrlon, yn helpu awdurdodau i greu amgylcheddau lle mae menywod a merched nid yn unig yn teimlo’n ddiogel ond hefyd yn teimlo’n hyderus ac yn teimlo bod croeso iddynt deithio mewn modd llesol.

“Mae hefyd yn cydnabod bod anghenion menywod o ran symudedd yn esblygu yn ystod eu bywydau, a bod cysylltiad rhwng yr anghenion hynny a hil, anabledd, oedran a chyfrifoldebau gofalu. Mae'r dulliau a gyflwynir – megis cyllidebu sy'n ymateb i rywedd, dylunio cyfranogol, a dulliau gwell o ddangos y ffordd – yn cynnig dulliau ymarferol o sicrhau bod cynllunio a buddsoddi yn gweithio’n wirioneddol i fenywod a merched.”

Llun: Trafnidiaeth Cymru

Hybu trafnidiaeth gynhwysol o ran rhywedd drwy ymchwil

Mae Dr Baker yn arwain prosiect y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) Bws Rhywedd+ Cymru. Mae’r gwaith hwn yn archwilio’r aflonyddwch, yr aflonyddwch rhywiol a’r trais a brofir gan fenywod ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n archwilio sut mae creu rhwydwaith bysiau sy’n gynhwysol o ran rhywedd ar draws Cymru a’r DU.

Gan gydweithio â Trafnidiaeth Cymru, arweiniodd Dr Baker weithdai ymchwil a fu’n crynhoi profiadau go iawn menywod sy’n defnyddio bysiau. Gwnaeth y ddealltwriaeth honno lywio’n uniongyrchol ddulliau gweithredwyr o gyflwyno ymyriadau diogelwch, hyfforddiant i staff a systemau adrodd—gan sicrhau bod lleisiau menywod yn dylanwadu ar welliannau ymarferol i wasanaethau.

Yn 2024, cyhoeddodd Dr Baker friff polisi THINK Diogelach Teithiau i Fenywod a Merched. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at raddfa’r trais ar sail rhywedd sy’n digwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Roedd yn nodi bod bron hanner y teithwyr a gymerodd ran mewn arolwg wedi sôn iddynt deimlo dan fygythiad wrth deithio, ac mai trafnidiaeth gyhoeddus oedd y lleoliad mwyaf cyffredin ond tri lle’r oedd aflonyddwch rhywiol yn digwydd yn y DU. Roedd yr adroddiad yn nodi’r cysylltiad rhwng trais ar sail rhywedd a ffurfiau eraill ar wahaniaethu, sy’n cynyddu’r risg i fenywod anabl, teithwyr LHDTC+, menywod ifanc a menywod sy’n dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Roedd yn egluro saith o argymhellion polisi’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gwneud teithio ar fysiau’n fwy diogel ac yn fwy cynhwysol.

Llun: Trafnidiaeth Cymru

Datblygu hyfforddiant i staff ac adnoddau i’r diwydiant

Mae canfyddiadau Dr Baker wedi esgor yn syth ar hyfforddiant gwell i staff trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau ymarferol i wella diogelwch i deithwyr. Gan gydweithio â Cymorth i Ferched Cymru a Stagecoach De Cymru, helpodd Dr Baker i ddatblygu hyfforddiant rheng flaen i yrwyr bysiau er mwyn eu galluogi i adnabod aflonyddwch, adnabod arwyddion o drais ar sail rhywedd, ac ymateb yn briodol.

Yn ogystal, mae ei chyhoeddiad ‘Bystander Intervention Against Gendered Harassment and Gender Based Violence in Public Transport’ yn darparu canllaw cynhwysfawr i ymgyrchwyr a hyfforddwyr. Mae’r canllaw yn amlinellu technegau ymyrryd, systemau adrodd, a’r rhwystrau penodol sy’n atal y sawl sy’n bresennol ar drafnidiaeth gyhoeddus rhag ymyrryd. Mae’r adnodd hwn hefyd yn hybu’r gwaith o ddatblygu strategaethau diogelwch cydgysylltiedig ar draws sefydliadau a chymunedau.

Mae arbenigedd Dr Baker ym maes trafnidiaeth sy’n gynhwysol o ran rhywedd wedi’i geisio gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr a chyrff proffesiynol megis y Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant. Mae wedi cyfrannu i drafodaethau panel a gweminarau sydd wedi bod yn archwilio sut y gellir gwneud rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy diogel i ddefnyddwyr agored i niwed a defnyddwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Llun: Trafnidiaeth Cymru

Trawsnewid symudedd ar draws Cymru a thu hwnt

Mae ymchwil Dr Lucy Baker yn llywio sgyrsiau ar draws Cymru ynghylch sut y gellir ail-lunio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cefnogi menywod a merched yn well.

Wrth i awdurdodau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth wneud ymdrech gynyddol i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd a chreu cymunedau mwy diogel, mae’r ddealltwriaeth sy’n deillio o’i hymchwil a’i chyhoeddiadau yn darparu sylfaen dystiolaeth hanfodol ar gyfer llywio penderfyniadau a chyfrannu i ymdrechion i greu systemau trafnidiaeth teg sy’n fwy cynhwysol.

Llun: Trafnidiaeth Cymru

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk