Cefnogi Dioddefwyr-Oroeswyr Trais a Cham-Drin Domestig yn Ddiweddarach Mewn Bywyd

Ymchwilwyr
Sarah Wydall
Rebecca Zerk
Elize Freeman 
Yr Athro Alan Clarke
Yr Athro John Williams

Trosolwg

Mae ymchwil a gynhyrchwyd gan dîm Dewis Choice, prosiect dan adain Prifysgol Aberystwyth, yn herio ymatebion blaenorol i Drais a Cham-drin Domestig, a oedd yn tybio bod trais ar sail rhywedd yn digwydd i fenywod dan 45 oed yn unig. Roedd menter Dewis Choice yn gwella mynediad at gyfiawnder a lles i ddioddefwyr-oroeswyr trais a cham-drin domestig hŷn ledled Cymru, drwy gyflwyno gwasanaeth cyfiawnder a llesiant unigryw wedi’i gynhyrchu ar y cyd, gan ddiogelu dioddefwyr-oroeswyr hŷn; mae hefyd wedi llywio darpariaeth a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol i ddioddefwyr-oroeswyr ledled y DU, ac wedi llywio canllawiau ac ymgyrchoedd cenedlaethol yng Nghymru ar ddiogelu ac amddiffyn pobl hŷn.

Yr Her

Mae trais a cham-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd yn cael ei gwmpasu gan y term cyffredinol ‘cam-drin pobl hŷn’ sy’n arwain at ymyleiddio dioddefwyr-oroeswyr hŷn. Mae ymchwil Dewis Choice yn dangos bod y drafodaeth yn y cyd-destun hwn yn gallu bod yn oedraniaethol ac yn rhywiaethol, gan gyfrannu at ymatebion gwahaniaethol gan weithwyr proffesiynol.

Mae’n amlygu pwysigrwydd fframio niwed sylweddol fel trais a cham-drin domestig, yn hytrach na cham-drin pobl hŷn, er mwyn sicrhau cydraddoldeb cyfle, mynediad at gyfiawnder a gwell ansawdd bywyd i bobl sy’n 60 oed a hŷn.

Yr Ateb

Dewis Choice, prosiect arloesol dan adain Prifysgol Aberystwyth, yw’r gwasanaeth penodol cyntaf yn y DU ar gyfer pobl hŷn sydd wedi profi trais a cham-drin domestig. Mae’r gwasanaeth yn darparu dewis gwybodus dan arweiniad cleientiaid yn ystod pob cam o’r daith i geisio cymorth a chyfiawnder, yn ystod digwyddiadau argyfwng, wrth gynllunio diogelwch ac yn ystod adferiad.

Mae menter Dewis Choice wedi cynhyrchu ymyrraeth ar lawr gwlad sydd wedi’i greu’n benodol gan y gymuned er mwyn cefnogi dioddefwyr hŷn sydd wedi goroesi trais a cham-drin domestig, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus am gyfiawnder sifil, troseddol ac adferol, ac er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu trin yn wahanol ar sail oedran, rhywedd, rhywioldeb neu anabledd. Y gwaith ymchwil yw’r cyntaf o’i fath hefyd i gynnal astudiaeth hydredol ragolygol sy’n edrych ar y broses o wneud penderfyniadau yng nghyd-destun camdrin domestig a thrais yn ddiweddarach mewn bywyd.

"Mae [Dewis Choice] yn newid y byd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol… Rwy’n gwerthfawrogi’n bersonol yr hyn rydych chi’n ei wneud i drawsnewid bywydau pobl hŷn a dyw hi ddim yn ormodiaith dweud eich bod yn achub bywydau hefyd."

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Mis Chwefror 2020

Yr Effaith

Mae Dewis Choice yn darparu gwasanaeth unigryw ledled Cymru, fel yr unig lwybr i bobl hŷn sy’n profi trais a cham-drin domestig. Mae’n mynd i’r afael â bylchau yn y gwasanaethau trais a cham-drin domestig, ac yn gwella ymatebion sy’n ceisio cyfiawnder. Drwy hynny, mae’n lleihau’r risg o drais a cham-drin domestig a niwed yn y dyfodol, ac yn newid a gwella bywydau’r dioddefwyr-oroeswyr hŷn sy’n cael eu cefnogi.

Mae Dewis Choice wedi llywio gwell prosesau darparu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus i ddioddefwyr-oroeswyr trais a cham-drin domestig hŷn ledled y DU.

Mae Dewis Choice wedi cyfrannu at bwyllgorau, dogfennau ac ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi llywio canllawiau ac ymarfer sy’n helpu i amddiffyn pobl hŷn rhag trais a cham-drin domestig.

Cysylltwch â Ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech chi ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch chi gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil | Thema Ymchwil: Cymdeithas