Tegwch ieithyddol: effaith cyfieithu ar y pryd mewn achosion llys

 

Mae gan bob parti a thyst yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn achos llys o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae’r hawl yma wedi arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau cyfieithu ar y pryd mewn llysoedd barn ar hyd a lled Cymru.

Yn sgil hyn, sut mae sicrhau tegwch a chysondeb mewn cyd-destun cyfreithiol? Beth ydy effaith cyfieithu ar y pryd ar y gwrandawyr yn y llys, gan gynnwys y rheithwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr a’r tystion eu hunain Pa ddylanwad gaiff ffactorau megis lleoliad y cyfieithydd yn yr ystafell lys a’u dewisiadau ieithyddol? Ac a oes angen cyflwyno unrhyw newidiadau er mwyn gwella’r profiad i bawb?

Dyma rai o’r cwestiynau sydd wedi ennyn sylw ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi arwain at lunio argymhellion ymarferol i gryfhau a gwella’r gyfundrefn bresennol.

Dr Rhianedd Jewell, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n cydarwain yr ymchwil:

“Mae’n hollbwysig bod gan ddiffynyddion, tystion ac eraill yr hawl i siarad Cymraeg yn ein llysoedd ac ac mae cyfieithwyr ar y pryd yn rhan allweddol bwysig o'r broses hon. Ond mae hi'n hanfodol ein bod ni'n deall yn llawn beth yw effaith ac arwyddocâd y cyfieithu hynny, yn enwedig mewn achosion llys lle gall penderfyniadau pellgyrhaeddol gael eu gwneud sy’n newid bywydau  pobl. Rhaid sicrhau bod cyfieithu yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosib bob tro a hynny er mwyn sicrhau tegwch a chyfiawnder i'r rheini sy'n dewis defnyddio'r Gymraeg, ac i'r cyfieithwyr eu hunain sy'n darparu'r gwasanaeth.

“Bwriad ein hymchwil yw mynd i’r afael â’r materion hyn o bersbectif cyfreithiol, ieithyddol a seicoloegl ac, ar sail ein hastudiaethau, awgrymu gwelliannau megis hyfforddiant penodol ar gyfer rheithwyr, cyfreithwyr, diffynyddion, tystion ac eraill sydd ynghlwm â chyfundrefn llysoedd Cymru.

“Rhaid cofio nad ystyr gramadegol geiriau yn unig sy’n creu argraff ar reithwyr neu farnwyr mewn achosion llys. Gall emosiwn, cystrawen a goslef llais fod yn ffactorau allweddol hefyd. Sut mae’r rhain yn effeithio ar brofiad y gwrandawyr? A beth yw’r effaith os mai menyw sydd yn cynnig tystiolaeth tra bod y cyfieithydd yn ddyn? Mae llu o gwestiynau sydd angen eu hystyried.”


Defnyddio Dulliau Theatr

Fel rhan o’u hastudiaeth i’r heriau penodol sydd ynghlwm â chyfieithu ar y pryd yn yr ystafell lys, aeth yr academyddion ati i ail-greu’r profiad o fod yn rhan o achos llys dwyieithog gan ddefnyddio techneg theatr fforwm.

Dr Catrin Fflur Huws, darlithydd yn Adran Y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth tan Awst 2025, sy’n egluro’r fethodoleg:

“Techneg a ddatblygwyd gan y diweddar Augusto Boal, academydd o Frasil, yw theatr fforwm. Mae’n ddull sy’n rhoi llais i’r sawl gaiff ei effeithio gan ddeddfwriaeth, ac yn fodd o arbrofi i weld beth yw goblygiadau y gyfraith honno. Ein hamcan ni oedd i wyntyllu profiadau y sawl sy’n darparu ac yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu yn llys. Mae’n creu awyrgylch sy’n galluogi cyfranogwyr i deimlo’n fwy cyfforddus a mynegi eu barn a’u hymateb i’r sefyllfa yn naturiol, agored ac onest.

“Er mwyn ail-greu amodau ac amgylchiadau llys barn, gwnaethon ni ddefnyddio cyfieithwyr a chyfreithwyr proffesiynol oedd â phrofiad o weithio yn llysoedd Cymru. Gwnaethon ni hefyd drefnu bod actorion proffesiynol yn cymryd rhannau’r tystion a bod aelodau o’r cyhoedd yn ffurfio’r rheithgor. Roedd y rheithiwr yn cynnwys dynion a menywod, rhai yn siarad Cymraeg ac eraill Saesneg yn unig.”

Cynhaliwyd y gweithdai yn y Ganolfan Gyfiawnder yn Aberystwyth ac yn Y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn 2024 dan arweiniad cyfarwyddwr theatr, a oedd yn annog trafodaeth a chyfraniadau llafar gan y cyfranogwyr.

Roedd datganiadau tystiolaeth am achosion ffuglennol wedi’u paratoi ar gyfer y ddau barti, gydag un yn siarad Cymraeg a’r llall yn ddi-Gymraeg.

Cynhaliwyd cyfres o seminarau hefyd yn ystod y prosiect a oedd yn dwyn ynghyd academyddion, cyfreithwyr, cyfieithwyr ac aelodau’r cyhoedd i brofi a chyd-drafod agweddau gwahanol ar brofiadau achosion llys dwyieithog.

Argymhellion

Mae’r ymchwil eisoes wedi esgor ar gyfres o argymhellion i wella sut mae gwrandawiadau llys dwyieithog yn cael eu trefnu, gan gynnwys:

  • cynyddu’r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i gyfieithwyr, clercod, cyfreithwyr ac eraill sy’n gweithio yn y llysoedd. Yn benodol, mae’r hyfforddiant a gynigir eisoes yng Nghymru yn darparu model ar gyfer hyfforddi cyfieithwyr cyfreithiol mewn cyd-destunau eraill.
  • datblygu hyfforddiant penodol ar gyfer aelodau rheithgor. Amlygodd y gweithdy theatr pa mor heriol yw profiad y rheithgor wrth iddyn nhw wrando ar yr achos llys byw a’r cyfieithu ar y pryd. Mae’r gwrando gweithredol hwn yn gofyn am sgil arbennig, medd yr ymchwilwyr, ac mae hi’n hollbwysig bod rheithwyr wedi’u paratoi at hyn cyn yr achos. Ar hyn o bryd, ni chynigir unrhyw hyfforddiant penodol i reithwyr ar ofynion cyfieithu ar y pryd.
  • ystyried lleoliad y cyfieithydd yn yr ystafell lys, gan gynnwys defnyddio bwth neu sgrin fel nad yw’r cyfieithydd yn y golwg. Os nad ydy’r cyfieithydd yn weladwy, nid oes modd i’r rheithwyr, yr ynadon na’r cyfreithwyr sylwi ar iaith ei gorff ef, ac mae rhyddid ganddyn nhw i ymateb yn hytrach i iaith corff y diffynnydd. Gall y cyfieithydd, hefyd, ganolbwyntio’n llawnach ar fynegiant a thôn yr iaith, heb boeni am effaith ei ymddangosiad neu ei bresenoldeb corfforol ar yr achos llys.
  • ystyried cenedl y cyfieithydd. Nid oes unrhyw reolau ynghylch tebygrwydd cenedl y cyfieithydd a’r sawl a gyfieithir mewn achosion llys ac felly gall cyfieithwyr benywaidd gyfieithu eiriau dynion a gall cyfieithwyr gwrywaidd gyfieithu eiriau menywod. Er mai dyma ydy’r arfer hefyd mewn cyd-destunau cyfieithu eraill megis cyfarfodydd a chynadleddau, rhaid ystyried a ydy’r gwahaniaeth hwn yn fwy arwyddocaol yn yr ystafell lys, yn enwedig mewn achosion o drais neu gam-drin lle gall cenedl y diffynnydd fod yn fwy arwyddocaol.
  • sicrhau mai clustffonau ag un clustffon yn unig sy’n cael eu defnyddio fel bod modd gwrando ar y llais gwreiddiol yn ogystal â’r cyfieithiad. Mae barnwyr fel rheol eisoes yn defnyddio’r math yma o glustffonau hyblyg.

Bydd argymhellion yr ymchwilwyr yn cael eu rhannu â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi.

Seicoleg

Dywedodd Dr Hanna Binks o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth: “ Roedden ni’n gallu defnyddio dulliau ymchwil seicolegol i fesur y gwahaniaethau yn ymatebion y cyfranogwyr.”

Cyfieithu olynol

Cyfieithu ar y pryd yw’r dull sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru ar gyfer achosion llys dwyieithog, lle mae’r cyfieithydd yn gwrando ac yn trosi ar yr un pryd.

Ond, ar y cyd ag academyddion ym Mhrifysgol y Drindod yn Nulyn, bu’r tîm ymchwil yn edrych hefyd ar y sefyllfa yn Iwerddon lle mae unigolyn yn siarad yn yr iaith wreiddiol a’r cyfieithydd yn cyfieithu ar ôl iddyn nhw orffen.

Ym mis Mawrth 2024, cynhaliwyd seminar arbennig yn Nulyn yn edrych ar  ddwyieithrwydd a sut mae cyflwyno tystiolaeth mewn mwy nag un iaith yn y llys. Adeiladwyd ar y trafodaethau hyn mewn sesiwn ar y cyd ym mis Hydref 2024 yn canolbwyntio ar y sefyllfa statudol yng Nghymru ac Iwerddon o ran gweinyddiaeth y gyfraith a hawliau dwyieithog yn y llysoedd.

Dywedodd Dr Catrin Fflur Huws: “Rydyn ni eisiau cyfrannu at sefyllfa lle nad oes un iaith yn cael blaenoriaeth yn y system gyfiawnder ac mae pawb yn cael eu trin yn deg, pa bynnag iaith maen nhw’n dewis ei siarad yn y llys. Rhaid cofio bod y sefyllfa yng Nghymru yn well o lawer na nifer o wledydd eraill a bod yn rhaid i gyfieithwyr yn ein llysoedd ni fod yn hyfforddedig. O gofio hyn ac o weithredu’n hargymhellion, dyma faes lle gall y Gymraeg arloesi ac arwain arfer da yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt o ran cynnal achosion llys dwyieithog neu amlieithog.”

Ychwanegodd Dr Jewell: “Mae angen gwaith ymchwil pellach i’r maes hwn oherwydd fe welwn y gall deall proses ac arwyddocâd cyfieithu ar y pryd wneud gwahaniaeth mawr i ddifinyddion, rheithwyr a’r cyfieithwyr eu hunain. Dim ond trwy ddatblygu dealltwriaeth gwell o effaith cyfieithu ar y pryd y gellir sicrhau hawliau cyfartal ieithyddol yn llysoedd Cymru a dyfodol dwyieithog cyfiawn i Gymru.”

Cyllidwyr 

Cafodd yr ymchwil ar effaith cyfieithu ar y pryd mewn achosion llys yng Nghymru ei ariannu gan yr Academi Brydeinig. Cafwyd grant rhwydweithio gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), tuag at y gwaith o gymharu cyfieithu ar y pryd yng Nghymru â chyfieithu olynol yn Iwerddon. Cefnogwyd y prosiect peilot cychwynnol gan Gronfa Ymchwil y Brifysgol yn 2020 ac yn 2023, a chan y Socio-Legal Studies Association yn 2024. 

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk