Heriau trafnidiaeth a symudedd sy'n wynebu pobl hŷn

 

Pa mor bwysig yw symudedd i'n hiechyd a'n lles yn ddiweddarach mewn bywyd? Pa mor ddiogel yw pobl hŷn ar y ffordd? A ddylai gyrwyr gael prawf gyrru neu feddygol pan fyddan nwh’n cyrraedd oedran penodol? Os yw pobl hŷn yn rhoi'r gorau i yrru, sut maen nhw’n mynd o un lle i’r llall?  

Dyma rai o’r cwestiynau sydd wrth wraidd ymchwil yr Athro Charles Musselwhite. 

Mae e'n dweud bod angen i deuluoedd fod yn cael sgyrsiau anodd ynghylch a ddylai perthynas hŷn roi'r gorau i yrru. 

Gall annog pobl oedrannus i gerdded mwy a gyrru llai hefyd ddod â manteision iechyd a lles, ynghyd â chreu cymdogaethau a chymunedau sy'n ystyriol o oedran. 

Wrth amlinellu cwmpas ac amcanion ei ymchwil, dywedodd yr Athro Musselwhite, sy'n Bennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth: 

“Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar yr heriau trafnidiaeth a symudedd sy’n wynebu pobl hŷn. Nid yw’r awydd i fynd allan yn lleihau yn hwyrach mewn bywyd nac ychwaith yr amrywiaeth o weithgareddau y mae pobl yn hoffi eu gwneud y tu allan i’w cartrefi. Ond rydyn ni’n gweld gostyngiad mewn symudedd, naill ai oherwydd nad oes angen i bobl deithio i’r gwaith mwyach neu – ac mae hyn yn fwy o achos pryder – oherwydd ni all pobl gael y symudedd maen nhw eisiau a’i angen.  

“Sut ydyn ni’n helpu symudedd pobl hŷn? Beth ellir ei wneud i sicrhau eu bod nhw’n gallu cyrraedd yn hwylus y lleoedd y maen angen mynd iddyn nhw, boed hynny i’r ysbyty, y siop, i ymweld â theulu a ffrindiau neu dim byd mwy na mynd allan i fwynhau natur a bywyd yn gyffredinol? Mae symudedd yn bwysig nid yn unig ar lefel gwbl ymarferol ond hefyd i’n lles, ein hiechyd meddwl, ein hannibyniaeth a’n rhyddid. 

“Wrth chwilio am atebion, dwi’n cymhwyso egwyddorion seicoleg gymunedol ac amgylcheddol i ddeall a gwella cysylltiadau rhwng yr amgylchedd adeiledig, mynd o le i le, ac iechyd a lles.Dwi hefyd yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid – gan gynnwys cynnal grwpiau ffocws a gweithdai gyda phobl hŷn, darparwyr trafnidiaeth a sefydliadau eraill – i gydgynhyrchu atebion, troi theori yn realiti a sicrhau bod ymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobl.” 

Gyrru wrth fynd yn hŷn 

Yn ôl yr Athro Musselwhite, dyw pobl ddim yn arbennig o dda am farnu pan nad ydyn nhw'n dda iawn am yrru. 

“Yn aml does dim dolen adborth arferol - rydyn ni’n gyrru heb feddwl llawer am beth ry’n ni’n ei wneud ac mae’n broses eithaf awtomataidd, sy’n golygu ein bod ni’n parhau i yrru wrth i ni fynd yn hŷn,” meddai. 

“Ar y cyfan, mae’n rhaid dweud bod pobl hŷn yn gymharol ddiogel ar y ffordd. Efallai nad yw eu hymatebion mor gyflym ond maen nhw’n gwneud yn iawn am hynny trwy ddefnyddio eu profiad, osgoi oriau brig neu yrru’n arafach er enghraifft. Ond ar ryw adeg, gall amodau ddod at ei gilydd – megis diffyg golwg, clyw neu weithrediad gwybyddol – ac mae’n dod yn fwy peryglus. Er gwaethaf hyn, does dim profion wedi bod yn y DU hyd yma i ganfod dirywiad yn safon ein gyrru hyd nes bod gwrthdrawiad. 

“Mae yna ganolfannau asesu sy’n gallu rhoi cyngor i yrwyr hŷn ac mae hyn oll yn ddefnyddiol iawn ond mae’n gofyn i’r unigolyn wneud hynny – does dim deddf fel y cyfryw – ac yn aml y rhai sy’n ‘poeni’n ddiangen’ sy’n cymryd y cam hwn. Dengys y data fod dynion yn waeth o lawer am roi’r gorau i yrru na menywod. Mae menywod yn fwy tebygol o fod â rhwydweithiau teulu neu ffrindiau sy’n gallu rhoi lifft iddynt ond mae dynion yn tueddu i ddal ati i yrru nes ei bod hi’n rhy beryglus neu weithiau’n rhy hwyr. 

“Mae gwir angen i ni fynd i’r afael â’r materion hyn, yn enwedig gan eu bod yn dod yn fwy cyffredin wrth i bobl fyw’n hirach. Yn ogystal, mae ystadegau’n dangos mai’r grŵp ieuengaf o yrwyr hŷn – y rhai sydd bellach yn eu 60au a’u 70au – sydd â’r cyfraddau canrannol uchaf o yrru yn y DU felly mae hyn yn debygol o ddod yn fwy o broblem yn y blynyddoedd i ddod.”  

Cynllunio ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio 

Er mwyn annog mwy o bobl i roi’r gorau i yrru wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, dywed yr Athro Musselwhite fod angen gwneud newidiadau i’n hamgylchedd adeiledig a gwella trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  

“Nid ydyn ni’n cynllunio dewisiadau amgen yn dda iawn ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio,” meddai. “Yn aml nid yw ein hamgylchedd adeiledig yn dda ar gyfer cerdded. Dyw ein palmentydd ddim bob amser yn cael eu cadw mewn cyflwr da, mae’r goleuo yn wael, dyw meinciau ddim yn cael eu cynnal a’u cadw neu does dim digon ohonyn nhw. Gall y ffactorau hyn i gyd atal pobl hŷn rhag cerdded yn hytrach na chymryd y car.” 

Fel rhan o’i waith ymchwil, mae’r Athro Musselwhite hefyd wedi edrych ar faint o amser sydd ei angen ar bobl hŷn i fynd o un ochr croesfan pelican i’r llall.  

Yr amser gwreiddiol a neilltuwyd oedd 1.2m yr eiliad ond dangosodd yr ymchwil nad oedd 85% o bobl hŷn yn cerdded mor gyflym â hynny. 

Mae’r amserydd ar groesfannau pelican bellach wedi’i newid i roi’r amser sydd ei angen ar bobl hŷn i groesi’r ffordd, ac mae’r Adran Drafnidiaeth ac eraill wedi dyfynnu ymchwil yr Athro Musselwhite. 

“Mae rhai pobl hŷn wedi dweud wrthyn ni eu bod weithiau’n dewis llwybr hirach i osgoi croesi ffordd neu ddim yn mynd allan o gwbl. Mae’n wahanol os ydych chi’n iau ac yn fwy hyderus ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer anghenion pawb.” 

Bysiau a threnau 

Gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn her i bobl hŷn hefyd ac mae’r Athro Musselwhite wedi trefnu sesiynau hyfforddi gyda rhai cwmnïau bysiau i’w helpu i ddeall anghenion pobl hŷn yn well. 

“Mae bron i chwarter y bobl sy’n defnyddio bysiau yn 60 oed neu’n hŷn ond maen nhw’n cynrychioli 43% o’r teithwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar fysiau a 100% o’r rhai sy’n cael eu lladd. Mae pobl hŷn yn fwy tueddol o gael damweiniau fel cwympo os ydyn nhw’n sefyll yn cario llawer o siopa cyn i’r bws ddod i stop. Dim ond un enghraifft yw hyn o ba mor anodd y gall fod i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ein henaint,” meddai’r Athro Mussel White. 

Mae’r Athro Musselwhite a’i dîm hefyd wedi gweithio gyda Great Western Railway i weld pa newidiadau y gellid eu gwneud i annog pobl hŷn i ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd yn amlach.  

“Mae pobl hŷn yn tueddu i gymryd ychydig yn hirach i ddod oddi ar drên neu wneud eu cysylltiad, a gall hyn eu hatal rhag teithio ar y cledrau. Mae goleuo’n ffactor pwysig hefyd. Gall mynd o olau dydd llachar i gerbyd tywyll fod yn ddryslyd. Yn ogystal, nid yw bob amser yn hawdd i bobl hŷn ddarllen yr arwyddion ar drenau a gorsafoedd,” eglura’r Athro Musselwhite. 

Yn seiliedig ar y gwaith a wnaed gan dîm yr Athro Musselwhite, mae nifer o gwmnïau rheilffordd yn ogystal â National Rail wedi cyflwyno newidiadau bach i helpu i wneud teithiau trên yn haws i bobl hŷn. 

Ynghyd ag Andy Hyde oedd ar y pryd yn rhedeg cwmni di-elw Go Upstream, mae’r Athro Musselwhite hefyd wedi darparu hyfforddiant i aelodau’r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (CIHT), sy’n cynrychioli ac yn cymhwyso gweithwyr proffesiynol sy’n cynllunio, dylunio, adeiladu, rheoli, cynnal a gweithredu trafnidiaeth a seilwaith. 

“Roedd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar sut mae pobl hŷn yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – sut maen nhw’n prynu tocynnau neu’r problemau y gallen hnw eu hwynebu wrth newid platfformau,” esboniodd yr Athro Musselwhite. 

“Cafodd tua 600 o aelodau’r CIHT yr hyfforddinat ac fe gawson ni adborth cadarnhaol iawn. Er enghraifft, dywedodd un o’r mynychwyr y byddai’r wybodaeth yn ei helpu i newid dyluniadau’r cwmni fel eu bod yn gweddu i bawb. Soniodd un arall am sut y daeth defnyddio clipiau sain â mewnwelediadau newydd i fywydau pobl â phrofiad o ddementia – mae ‘llawer i’w ystyried a gweithredu arno’, meddeai.”

Roedd yr Athro Musselwhite hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr ar ddau brosiect ymchwil mawr a ariannwyd a gwblhawyd yn 2025 - y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a'r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THiNK).

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk