Dyddiadau Cyfarfodydd y Panel Moeseg Ymchwil

Mae rôl bwysig gan y Panel Moeseg Ymchwil wrth sicrhau’r safonau moesegol uchaf a theilyngdod gwyddonol is-set y cynigion ymchwil y mae’n eu hadolygu. Rôl y Panel Moeseg Ymchwil yw darparu adolygiad annibynnol ac ar y cyd er mwyn sicrhau bod prosiectau ymchwil yn cydymffurfio â chanllawiau moesegol a dderbynnir yn rhyngwladol ac yn lleol, gan bwysleisio:

  • Amddiffyn urddas, hawliau a lles cyfranogwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd;
  • Gwrthbwyso risg (yn cynnwys risg i enw da) mewn ffordd sy’n gymesur â’r gweithdrefnau arfaethedig;
  • Sicrhau gwaith ymchwil manwl, o ansawdd, fydd o fudd dichonadwy i gyfranogwyr, gwyddoniaeth a chymdeithas.

Nid yw gwaith Panel Moeseg yn ymgysylltu ag osgoi gwaith ymchwil uchel ei risg ac ni ddylid felly ei ystyried yn rhwystr, ond yn hytrach yn broses hyrwyddol, ymgynghorol sy’n cyfoethogi. Mae’r Panel yn cwrdd yn rheolaidd gydol y flwyddyn ac mae’r dyddiadau i’w gweld isod.

Gwneud cais i'r Panel Moeseg Ymchwil

Mae'r Uned Foeseg yn hapus i roi cyngor ar geisiadau drafft cyn iddynt gael eu cyflwyno, fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn gweithio cyn y dyddiad cau perthnasol er mwyn rhoi digon o amser inni ddarparu unrhyw sylwadau ac awgrymiadau.

Unwaith y byddwch yn barod i gyflwyno, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich cais 'Panel Moeseg Ymchwil' wedi'i gwblhau drwy e-bost at ethics@aber.ac.uk o leiaf 10 diwrnod cyn dyddiad priodol y cyfarfod. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddogfennaeth atodol yn cael ei chyflwyno ar fformat Microsoft Word yn unig.

Ar ôl ei gyflwyno, cynhelir 'gwiriad cyflawnrwydd' i sicrhau bod y cais yn barod i'w adolygu. Os yw cais yn hwyr neu'n anghyflawn, gellir ei ohirio tan gyfarfod nesaf y Panel. Os ydych yn ansicr a yw'ch cais yn gyflawn, gweithiwch ymlaen llaw cyn y dyddiad cau o 10 diwrnod.

Fel arfer, rhoddir penderfyniad ar ddiwrnod y cyfarfod.

 

Gweler y Fframwaith Moeseg Ymchwil am fanylion llawn y broses adolygu. Fel arall, cysylltwch ag ethics@aber.ac.uk.

Os oes angen cymeradwyaeth foesegol frys arnoch (h.y. cymeradwyaeth y tu allan i ddyddiadau cyfarfodydd y Panel), cysylltwch ag ethics@aber.ac.uk gydag esboniad pam mae hyn yn angenrheidiol. Ni allwn warantu adolygiad y tu allan i ddyddiadau cyfarfodydd y Panel.

 

Cyfarfod

Panel Moeseg Ymchwil

Dyddiadau

2025

Dydd Mercher 24 Medi (dyddiad cau gwaith papur 3 Medi)

Dydd Mercher 29 Hydref (dyddiad cau gwaith papur 1 Hydref)

Dydd Mercher 26 Tachwedd (dyddiad cau gwaith papur 5 Tachwedd)

2026

Dydd Mercher 28 Ionawr (dyddiad cau gwaith papur 7 Ionawr)

Dydd Mercher 25 Chwefror (dyddiad cau gwaith papur 4 Chwefror)

Dydd Mercher 25 Mawrth (dyddiad cau gwaith papur 4 Mawrth)

Dydd Mercher 29 Ebrill (dyddiad cau gwaith papur 1 Ebrill)

Dydd Mercher 27 Mai (dyddiad cau gwaith papur 6 Mai)

Dydd Mercher 24 Mehefin (dyddiad cau gwaith papur 3 Mehefin)

Dydd Mercher 29 Gorffennaf (dyddiad cau gwaith papur 1 Gorffennaf)