AberCollab

Mae cydweithio yn cryfhau ymchwil, yn meithrin cyfnewid gwybodaeth gadarn ac yn arwain at effaith ymchwil cryf.

Rhaglen AberCollab 2025-26:

Mae rhaglen ariannu a hyfforddi AberCollab a grëwyd yn rhan o Strategaeth Arloesi a Chyfnewid Gwybodaeth y Brifysgol.

Nod AberCollab yw helpu ymchwilwyr i adeiladu a chryfhau partneriaethau a rhannu gwybodaeth mewn modd effeithiol er mwyn cefnogi arloesedd ac effaith ymchwil. Gall y cydweithio yma ddigwydd yn ystod bob cam o'r broses ymchwil; pan yn meddwl am syniadau, pan yn gwneud yr ymchwil, pan yn ehangu rhaglenni ymchwil neu pan yn rhannu ymchwil (cyfnewid gwybodaeth ac effaith ymchwil).  

Manylion

Bydd y rhaglen yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth ariannol o hyd at £3,000 ar gyfer gweithdai cydweithio a digwyddiadau rhwydweithio gyda'r bwriad o hwyluso rhyngweithio deallusol a chreadigol rhwng ymchwilwyr y Brifysgol a phartneriaid allanol. Er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd hyn bydd enillwyr AberCollab yn mynychu gweithdy hyfforddi undydd ac yn derbyn hyfforddiant ychwanegol gan y Ganolfan Ddeialog.

Ariennir y rhaglen gan Medr drwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • £3,000 i gefnogi gweithdy neu ddigwyddiad cydweithio
  • Hyfforddiant undydd mewn sut i redeg gweithdy effeithiol ar 5 Tachwedd 2025
  • Cymorth i gyfieithu eich gwaith ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus
  • Cymorth ymarferol ar gyfer eich gweithdy/digwyddiad
  • Digwyddiad cwrdd hanner ffordd ar 25 Chwefror 2026
  • Cinio ar 8 Gorffennaf 2026 gyda'ch cyd-enillwyr er mwyn mynd ati i rannu profiadau

Sut i wneud cais

Danfonwch eich cais erbyn 17 Hydref 2025 (4yh).

Cwblhewch a chyflwynwch Ffurlen Gais AberCollab.

Am fwy o wybodaeth:

Os oes unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod syniadau posibl ar gyfer gweithdai, cysylltwch â ni ar ymchwil@aber.ac.uk.

AberCollab 2024-25

Adroddiad AberCollab 2024-25

Cafodd dros 200 o unigolion ar draws 17 o brosiectau ymchwil eu dwyn ynghyd mewn rhaglen arloesol i feithrin cydweithredu a chyfnewid gwybodaeth rhwng academyddion a phartneriaid allanol. 

Gyda chyllid o du Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru Medr, cefnogodd rhaglen AberCollab 2024–25 brosiectau amrywiol yn cynnwys adfywio canol trefi, datblygu lliwiau naturiol o ffyngau, grymuso awduron ar y cyrion, a diogelu ein dyfrffyrdd rhag rhywogaeth granc goresgynnol niweidiol. 

Mae’r rhaglen yn cynnig grantiau bach hyd at £3,000 tuag at gynnal gweithdy, digwyddiad neu weithgaredd sy’n hwyluso cydweithredu rhwng ymchwilwyr y Brifysgol a phartneriaid allanol, ac sy’n symud y broses ymchwil yn ei blaen. 

Mae ymchwilwyr hefyd yn derbyn hyfforddiant ar adeiladu cydweithrediadau ymchwil er mwyn datblygu eu sgiliau o ran cynllunio ac arwain sesiynau rhyngweithiol effeithiol. 

Dywedodd Susan Ferguson, Swyddog Effaith Ymchwil a Gwybodaeth yn Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi: 

“Rydyn ni am i’n hymchwil helpu i wella bywydau, meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd ehangach. Trwy feithrin cydweithrediadau dyfnach rhwng ymchwilwyr a rhanddeiliaid allanol, gallwn dynnu ar brofiad a gwybodaeth ar y cyd i gyd-greu atebion i heriau’r byd go iawn. 

“Dyma’r ail flwyddyn i ni redeg ein rhaglen AberCollab ac unwaith eto, cawson ni’n hysbrydoli nid yn unig gan amrywiaeth ac effaith y prosiectau ymchwil, ond hefyd gan broffesiynoldeb ac ymrwymiad pawb a gymerodd ran. Mae’r cyllid sbardunol a roddir i academyddion yn gweithredu fel platfform ar gyfer prosiectau ymchwil mwy sy’n cynnwys cydweithredu allanol, ac edrychwn ymlaen at weld datblygiadau pellach ac effaith hirdymor.” 

Ar draws y 17 prosiect a dderbyniodd cyllid yn 2024–25, cafwyd partneriaid allanol o sefydliadau academaidd yn ogystal â’r llywodraeth, awdurdodau lleol, y trydydd sector, diwydiant a chymunedau amrywiol yng Nghymru ac Ewrop. 

Arweiniwyd y prosiectau gan academyddion ar wahanol gamau yn y cylch ymchwil – o’r cam archwilio i brosiectau ymchwil gweithredol ac ymchwil yn y camau diweddarach sy’n anelu at ehangu eu potensial i greu effaith. Ymhlith y prosiectau roedd: 

  • meithrin cysylltiadau rhwng ymchwilwyr yn Aberystwyth ac Ewrop sy’n gweithio ar ddulliau o reoli poblogaeth gynyddol y granc Tsieineaidd goresgynnol (Dr Joe Ironside, Adran y Gwyddorau Bywyd) 
  • ehangu cyfranogiad mewn gŵyl lenyddol, gan sicrhau llwyfan i leisiau ar y cyrion, denu cynulleidfaoedd amrywiol a gwneud lleoliadau’n gwbl hygyrch (Dr Jacqueline Yallop, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) 
  • datblygu dulliau o ddisodli lliwiau synthetig gyda dewisiadau ecogyfeillgar, diwenwyn sy’n deillio o gynhyrchion amaethyddol fel pigmentau naturiol o dyfu ffyngau (Dr Amanda Lloyd, Adran y Gwyddorau Bywyd) 
  • defnyddio LEGO® fel dull hygyrch a chynhwysol i ddod â chyfranogwyr ynghyd a hwyluso trafodaethau i nodi cyfleoedd a heriau ar gyfer cynnwys dinasyddion mewn gwneud penderfyniadau (Dr Anwen Elias, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol) 
  • archwilio modelau newydd o ddylanwadu, hysbysu a chyd-greu polisi hinsawdd drwy gyfres o drafodaethau bwrdd crwn gyda ffermwyr lleol, gwyddonwyr defnydd tir a llunwyr polisïau (Dr Hannah Hughes, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; Yr Athro Mariecia Fraser, IBERS) 
  • archwilio sut y defnyddiwyd ymyriadau creadigol yn y gorffennol i gefnogi adferiad iechyd meddwl a goroesi, a sut y gellir defnyddio’r wybodaeth hon i adeiladu arferion presennol a’r dyfodol (Dr Elizabeth Gagen, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear) 
  • defnyddio dulliau creu zîn i ddadansoddi’n greadigol ac asesu’r heriau sy’n wynebu adfywio economaidd a datblygu cymunedol yn Aberystwyth a’r Wyddgrug yng Nghymru ac yn Mürzzuschlag yn Awstria (Dr Lyndon Murphy, Ysgol Fusnes Aberystwyth) 
  • dwyn ymchwilwyr ym maes amaethyddiaeth ynghyd â thîm Cyswllt Ffermio i ddatblygu prosiectau ymchwil cydweithredol (Dr Natalie Meades, IBERS) 
  • gyda chefnogaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru, defnyddio technegau tecstiliau arloesol a chwiltio traddodiadol Cymreig i archwilio sut y gall ymarfer creadigol helpu i adeiladu cysylltiadau o fewn ac ar draws cymunedau, cefnogi dealltwriaeth a gofal ar y cyd, a llywio gweithgareddau a pholisïau lloches (Dr Katy Budge, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; Dr Naji Bakhti, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) 
  • adeiladu consensws rhwng Llywodraeth Cymru, partneriaid cyflenwi a busnesau fferm ar reoli clafr defaid yng Nghymru, gan gyfrannu at well iechyd anifeiliaid a lliniaru straen ar ffermwyr (Dr Simon Payne, Adran Seicoleg) 
  • sefydlu rhwydwaith academaidd Cymru-Iwerddon i lywio polisi cysylltedd digidol yng Nghymru ac Iwerddon er budd llunwyr polisïau, awdurdodau lleol a chymunedau gwledig (Dr Aloysius Igboekwu, Ysgol Fusnes Aberystwyth) 
  • sefydlu rhwydwaith ymchwil ar rawnfwydydd bach a glaswellt ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar o amryw sefydliadau (Dr Aiswarya Girija, IBERS) 
  • cyd-greu strategaeth ymchwil a nodi prosiectau ymchwil cydweithredol posibl i fynd i’r afael ag anghenion ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gwledig Canolbarth Cymru (Dr Thomas Wilson, Adran y Gwyddorau Bywyd; Dr Rachel Rahman, Adran Seicoleg; Dr Otar Akanyeti, Adran Gyfrifiadureg)
  • sefydlu Rhaglen Dadansoddi Bwyd ar gyfer Powys i werthuso ansawdd maethol, blas a chynaliadwyedd ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol o’i gymharu â chynnyrch archfarchnadoedd (Dr Thomas Wilson a Dr Manfred Beckmann, Adran y Gwyddorau Bywyd) 
  • cynhyrchu adnoddau i gefnogi’r pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru, wedi’u cyd-greu gyda athrawon, disgyblion ac swyddogion addysg (Dr Siân Lloyd-Williams, Ysgol Addysg) 
  • gweithdy rhyngweithiol yn dod â deg cyfranogwr ynghyd o Colombia, Mecsico, yr UD, Nigeria, Norwy a Tsieina i rannu straeon unigol am ymfudo ac ymgartrefu oddi mewn i Gymru amlddiwylliannol (Diana Valencia-Duarte ac Yi Li, Hanes a Hanes Cymru) 

Datblygwyd rhaglen AberCollab fel rhan o Strategaeth Arloesi a Chyfnewid Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth 2023-2028, sy'n derbyn cyllid gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru Medr.

Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer rownd gyllido 2025–26, gyda’r dyddiad cau am 4pm ar 17 Hydref 2025: https://www.aber.ac.uk/cy/rbi/support-services/funding/abercollab

Astudiaethau Achos AberCollab 2024-25

Rôl ffermwyr mewn gwyddoniaeth hinsawdd a llunio polisïau

Mae ffermwyr yn dod o dan bwysau cynyddol wrth i lunwyr polisïau edrych fwyfwy tuag at amaethyddiaeth fel modd o fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Gyda chyllid gan raglen AberCollab 2024-25, nod y prosiect ymchwil hwn oedd dod i ddeall yn well lle ffermwyr yn y broses llunio polisïau.

Nod arall oedd asesu i ba raddau y mae ffermwyr yn cael eu cydnabod fel deiliaid gwybodaeth werthfawr a chyfranwyr at ganlyniadau polisi llwyddiannus.

Trafodaethau bwrdd crwn

Cynhaliodd y prosiect gyfres o drafodaethau bwrdd crwn gyda ffermwyr lleol, llunwyr polisi a gwyddonwyr ym maes defnydd tir i gasglu eu barn a'u dealltwriaeth nhw o'r broses llunio polisïau hinsawdd, a lle a gwerth y gymuned amaethyddol o fewn y broses hon.

Daeth y bedwaredd a'r olaf o’r sesiynau â chynrychiolwyr o bob un o'r grwpiau hyn ynghyd i drafod canfyddiadau allweddol yn ogystal ag i nodi dulliau posibl ar gyfer datblygu cydweithio yn y dyfodol, ehangu'r astudiaeth beilot hon a dyfeisio modelau llunio polisïau hinsawdd mwy cynhwysol.

Prosiect rhyngddisgyblaethol

Prosiect rhyngddisgyblaethol oedd hwn dan arweiniad Dr Hannah Hughes o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol a'r Athro Mariecia Fraser, Pennaeth Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran sy’n rhan o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Dywedodd Dr Hannah Hughes: “Caniataodd y prosiect AberCollab hwn inni gychwyn sgwrs ar ddulliau rhyngddisgyblaethol a all bontio a hwyluso cydweithio rhwng gwyddoniaeth, arferion ffermio a llunio polisïau hinsawdd cenedlaethol a rhyngwladol. Yn hollbwysig, caniataodd y prosiect inni gychwyn meithrin perthynas â'r gymuned ffermio leol – i glywed eu barn a'u safbwyntiau ac i rannu barn a safbwyntiau gwyddonwyr hinsawdd a llunwyr polisïau gyda nhw.”

Ychwanegodd yr Athro Mariecia Fraser: “Dadlenodd ein hastudiaeth ganfyddiad o ddiffyg ymddiriedaeth a chyfathrebu rhwng y gwahanol grwpiau yn ogystal â diffyg tryloywder ynghylch sut mae polisi'n cael ei lunio a'r dystiolaeth sy'n sail iddo. Drwy ffurfio'r cydweithrediadau hyn, ein gobaith yw tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys ffermwyr yn gynnar mewn llunio polisïau llwyddiannus - a'r cyfoeth o wybodaeth sydd ganddynt am y tir a natur.”

Mae'r tîm ymchwil bellach yn bwriadu ehangu'r prosiect i'w galluogi i nodi ac archwilio modelau newydd o gyd-greu polisi hinsawdd gydag amrywiaeth o gymunedau lle mae lliniaru ac addasu i'r hinsawdd yn golygu bod angen ffyrdd newydd o drefnu a chynnal eu bywydau a'u bywoliaeth.

Rheoli poblogaethau crancod Tsieineaidd goresgynnol drwy gydweithio Ewropeaidd

Mae cynnydd yn nifer y crancod Tsieineaidd goresgynnol yn achosi problemau yn nyfroedd Cymru a rhannau eraill o’r DU. 

Rhestri y crancod yma ymhlith y 100 rhywogaeth infertebrata goresgynnol gwaethaf yn y byd a chredir eu bod wedi cyrraedd Ewrop yn nŵr balast llongau. 

Gall gweithgarwch cloddio y creadur niweidio glannau afonydd, tra bod ei effaith ar fioamrywiaeth dyfrol yn bygwth rhywogaethau brodorol a stociau pysgodfeydd. 

Mae Dr Joe Ironside o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r myfyriwr PhD Oscar Norton Jones wedi bod yn cydweithio ar ganfod dulliau o fonitro a rheoli’r rhywogaeth goresgynnol hon. 

Gyda chyllid gan ein rhaglen AberCollab 2024-25, teithiodd y ddau ymchwilydd i Dresden yn yr Almaen i gyflwyno eu gwaith yng nghynhadledd flynyddol CLANCY sef grŵp Rheoli Tir a Môr Arfordirol ar gyfer Addasu i’r Hinsawdd ac Ymwrthedd yn Rhanbarth Môr y Gogledd a ariennir gan raglen Interreg Môr y Gogledd yr UE. 

Dywedodd Dr Joe Ironside: “Yn dilyn Brexit, nid oes modd i sefydliadau yn y DU gael cyllid o gronfa Interreg Môr y Gogledd nac ymuno fel partneriaid llawn ar brosiectau Interreg Môr y Gogledd, ond mae partneriaid CLANCY yn cydnabod fod ein gwaith ni ar grancod Tsieineaidd goresgynnol yn ategol i’w gwaith nhw a chawsom wahoddiad felly i fynychu eu cynhadledd flynyddol. 

“Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar eneteg y crancod a sut y gallwn ni ganfod eu presenoldeb yn well drwy ddefnyddio DNA amgylcheddol (eDNA) a thrapiau lloches. Rydym hefyd wedi llunio meini prawf ar gyfer asesu safleoedd yn gyflym er mwyn gosod trapiau sefydlog yno. 

“Bu modd i ni gyflwyno ein canfyddiadau i gynulleidfa oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Asiantaeth Amgylchedd Fflandrys, Talaith Dwyrain-Fflandrys a Phrifysgol Antwerp (Gwlad Belg), CSLN a GEMEL (Ffrainc), Prifysgolion Dresden a Kiel ac Athrofa Alfred Wegener (Yr Almaen), a Phrifysgol Skövde (Sweden).” 

Roedd cyfarfod Dresden hefyd yn cynnwys ymweliad â thrap crancod sefydlog ar Afon Elbe, gan roi cyfle i’r gwyddonwyr o Aberystwyth gymharu dyluniad yr Almaen â’u prototeip eu hunain. 

O ganlyniad i’r gynhadledd, mae Dr Ironside a’i ymchwilydd PhD bellach yn cydweithio â Dr Sonja Leidenberger (Prifysgol Skövde) ar ddefnyddio eDNA i ganfod poblogaethau crancod dwysedd isel, ac â Dr Christine Ewers (Prifysgol Kiel) ar eneteg poblogaeth crancod yn Ewrop. 

Ychwanegodd Oscar Norton Jones: “Bu modd i ni gyfrannu at goeden benderfyniadau CLANCY ar gyfer rheoli crancod, ac mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn ein dyluniadau ar gyfer trapiau lloches fel dull o ganfod a samplu crancod Tsieineaidd, yn oedolion ac ifanc, ar draws Ewrop, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at brosiect cydweithredol pellach. 

“Rydym bellach yn aelodau cysylltiol o brosiect CLANCY, gyda’r gallu i fynychu eu cyfarfodydd misol ar-lein a chael mynediad at adnoddau ar-lein y prosiect. Bydd y cyfnewid parhaus hwn o wybodaeth ac arbenigedd yn amhrisiadwy i’n hymchwil ni yma yn ogystal ag i’n partneriaid yn yr UE wrth i ni geisio atal y difrod a achosir gan y rhywogaeth goresgynnol hon.”

Creu Cylchgrawn Cydweithredol: Prosiect Ymchwil Creadigol ar Adfywio Economaidd a Datblygu Cymunedol

O dwf cynyddol mewn siopa ar-lein a datblygiadau ar gyrion trefi i gostau uwch a gwariant is, mae busnesau canol tref yn wynebu ystod o heriau cymdeithasol ac economaidd.

Mae’n bwnc sy’n destun prosiect ymchwil cydweithredol dan ofal Ysgol Busnes Aberystwyth.

Gyda chyllid gan ein rhaglen AberCollab 2024-25, mae Dr Lyndon Murphy yn defnyddio technegau creu cylchgronau creadigol fel ffordd arloesol o archwilio a deall adfywio economaidd a datblygu cymunedol yn nhrefi Aberystwyth yng Ngheredigion a Mürzzuschlag yn Awstria.

Mae’r ddau le yn wynebu heriau tebyg ac mae staff o’r ysgolion busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol y Gwyddorau Cymhwysol Wiener Neustadt yn Awstria yn cydweithio i ddod o hyd i atebion.

Ym mis Mai 2025, cynhaliwyd dau weithdy ar yr un pryd – un ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda pherchnogion busnes, staff y Brifysgol ac aelodau eraill o’r gymuned leol, ac un arall ym Mürzzuschlag gyda grŵp tebyg o bobl.

Aeth y grwpiau ati i greu gylchgronau yn seiliedig ar eu profiadau, eu gwerthoedd a’u gweledigaeth ar gyfer dyfodol eu cymunedau gyda’r ddau weithdy yn cloi gyda thrafodaeth strwythuredig yn trafod dehongliadau ar ddatblygiad economaidd a chymunedol yn Aberystwyth a Mürzzuschlag yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Esboniodd Dr Murphy: “Drwy greu’r cylchgronau fel testunau diwylliannol, rydyn ni’n gallu dadansoddi sut mae perchnogion a rheolwyr busnes, swyddogion awdurdodau lleol a thrigolion yn gweld gwirioneddau, gwerthoedd a heriau economaidd-gymdeithasol eu hardal. Bu’r gweithdai’n sbardun ar gyfer deialog greadigol sy’n parhau i ddatblygu.

“Mae’r defnydd o gylchgronau i ddadansoddi a gwerthuso adfywiad economaidd yn greadigol yn ddull ymchwil cymharol newydd sy’n hwyluso cyfranogiad ac yn helpu i ddod â sgyrsiau i’r wyneb nad ydynt efallai’n deillio o ddulliau ymchwil traddodiadol sy’n cael eu harwain gan gyfweliadau neu grwpiau ffocws. Mae’r dull arloesol hwn wedi rhoi mewnwelediad newydd i adfywiad economaidd a datblygiad cymunedol yn Aberystwyth a Mürzzuschlag, ochr yn ochr â fframweithiau dadansoddol mwy traddodiadol.”

Camau nesaf

Caiff canfyddiadau’r prosiect eu rhannu gyda Chyngor Sir Ceredigion ac awdurdod dinesig Mürzzuschlag Gemeinderat yn Awstria.

Mae grŵp cymunedol newydd hefyd wedi’i sefydlu ym Mürzzuschlag yn dilyn y gweithdy creu cylchgrawn fel bod y sgyrsiau a gafwyd am adfywiad economaidd y dref yn parhau.

Mae cydweithio yn parhau hefyd rhwng Ysgol Busnes Aberystwyth ac Ysgol Busnes Prifysgol y Gwyddorau Cymhwysol Wiener Neustadt, gyda phartneriaeth ffurfiol yn cael ei sefydlu rhwng y ddau sefydliad.

AberCollab 2023-24

Adroddiad AberCollab 2023-24

Mae meithrin cydweithrediad rhwng academyddion, busnesau, llunwyr polisi a sectorau eraill yn allweddol i’n cenhadaeth fel Canolfan Ddeialog.  

Rydyn ni’n gwneud hynny am ein bod yn gwybod y gall cydweithio o’r fath gryfhau canlyniadau ymchwil, hybu cyfnewid gwybodaeth gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas. 

I gefnogi’r gwaith o greu gwell cyfleoedd i gydweithio a chyfnewid gwybodaeth, aethon ni ati i lunio rhaglen beilot newydd o’r enw AberCollab, oedd yn cynnig cyllid a hyfforddiant. Fe’i lansiwyd ar 1 Mawrth 2024. 

Roedd y fenter yn cynnig cefnogaeth ar gyfer cynnal gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio fyddai’n hwyluso cydweithio rhwng ymchwilwyr y Brifysgol a phartneriaid allanol ac yn helpu i ddatblygu ymchwil fyddai o fudd i’r cyhoedd yn ehangach.     

Roedd AberCollab yn agored i ymchwilwyr o bob disgyblaeth ac yn cynnwys hyfforddiant gofynnol mewn arwain gweithdai cydweithredol yn ogystal â chefnogaeth i gynnal digwyddiad neu brosiect ymchwil oedd yn cynnwys partneriaid a chymunedau allanol.

Ariannwyd cyfanswm o 13 o brosiectau gan adrannau ar draws y Brifysgol. Daeth y cydweithrediadau amrywiol hyn ag ymchwilwyr a rhanddeiliaid ynghyd i:

  • drafod y rhwystrau a wynebir gan lenorion ar y cyrion a dulliau o annog amrywioldeb ym maes ysgrifennu a chyhoeddi
  • rannu gwybodaeth ac arbenigedd ar ddelio â gwymon ymledol Undaria
  • ystyried ffyrdd o wella’r profiad pontio i ddisgyblion sy’n mynd o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
  • ddatblygu strategaethau ar gyfer defnyddio ysgrifennu creadigol i wella profiad cleifion sy’n mynd trwy driniaeth ffrwythlondeb, beichiogrwydd a genedigaeth
  • ddatblygu dealltwriaeth a galluogi mwy o gydweithio ar gymhwyso croestoriad mewn arferion polisi Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant
  • gynnal a datblygu cysylltiadau newydd â diwydiant ym maes nanoelectroneg ac egin dechnoleg microsglodyn y genhedlaeth nesaf 
  • gyfnewid gwybodaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr ar ddulliau amgen, tosturiol o ymdrin ag iechyd, pwysau a lles
  • lywio polisi a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r tueddiadau presennol yn yr economi gosod llety gwyliau a thwristiaeth yng Ngorllewin Cymru
  • archwilio blaenoriaethau a phryderon cymunedau ffoaduriaid yng Nghymru
  • ehangu prosiect ymchwil Ewropeaidd cyfredol ar ddiraddiad rhewlifau a newid hinsawdd
  • edrych ar ddefnyddio dulliau cyfrifiannol i atal ffibriliad atrïaidd, sy’n achosi i’r galon guro’n afreolaidd ac yn aml yn annaturiol o gyflym
  • gryfhau ymgysylltiad ag awdurdodau lleol ar faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth ac iechyd.

Dywedodd Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog: “Mae AberCollab wedi bod yn enghraifft wych o sut mae deialog ac ymgysylltu ag eraill yn gallu cyfrannu at bob cam o’r broses ymchwil – o gynhyrchu syniadau ac egin brosiectau i ehangu rhaglenni ymchwil a rhoi eu canfyddiadau ar waith.

“Bu’r adborth o’n rownd gyntaf o gyllid AberCollab yn hynod gadarnhaol. Mae ymchwilwyr wedi dweud wrthym iddyn nhw gael eu grymuso gan y broses ac iddi arwain at greu cysylltiadau newydd a chryhau partneriaethau oedd eisoes yn bodoli. Bydd sawl un yn mynd ati i wneud ceisiadau am gyllid yn y dyfodol ac mae pob un wedi cael eglurder ar gyfer cydweithredu posib yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld ar drywydd pa gamau bydd ein hymchwilwyr yn mynd nesaf.”  

Datblygwyd AberCollab fel rhan o Strategaeth Arloesedd a Chyfnewid Gwybodaeth 2023-2028 Prifysgol Aberystwyth, sy’n derbyn cyllid gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru.

Astudiaethau Achos AberCollab 2023-24

Chwilio am atebion ar gyfer technoleg y genhedlaeth nesaf

Wrth i’n dyfeisiau electronig ddod yn fwyfwy soffistigedig, mae angen cael sglodion cylched integredig silicon sy’n gallu gwneud mwy tra’n lleihau’n barhaus o ran maint.

Wrth chwilio am dechnolegau newydd i fodloni gofynion dyfeisiau’r genhedlaeth nesaf, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio maes ymchwil sy’n dechrau dod i’r amlwg sef dyddodiad ardal ddethol (neu ASD). Mae ASD yn caniatáu gosod patrymau ar raddfa nano ar ddeunyddiau gan ddisodli’r defnydd traddodiadol o gamau ffotolithograffig ac ysgythriad sy’n llafurus, yn ddrud ac sy’n wastraffus o ran deunyddiau.

Diolch i raglen AberCollab, cafodd Dr Anita Brady-Boyd o Adran Ffiseg Aberystwyth gefnogaeth i gryfhau’r cydweithio ag Imec, canolfan ymchwil a datblygu nanoelectroneg annibynnol blaengar yng Ngwlad Belg.

“Mae fy ymchwil presennol yn canolbwyntio ar ddyddodiad ardal ddetholus fel dull nano-wneuthuriad o’r gwaelod i fyny ar gyfer dyfeisiau electronig cenhedlaeth nesaf. Mae’n faes ymchwil cyffrous ond cymharol newydd a allai arwain at newid mawr yn y ffordd y caiff dyfeisiau eu creu. Trwy ein prosiect AberCollab, roeddem am rannu gyda diwydiant yr arbenigedd gwyddor wyneb arbennig sydd gennym yn Aberystwyth ac egluro’r gwahanol nodweddion a mesuriadau y gallwn eu cynnig yn ogystal ag archwilio sut y gallwn gydweithio ar atebion posibl. Roedd gennym gysylltiadau eisoes ag Imec, sy’n rhyngwladol flaenllaw ym maes lled-ddargludyddion a nanoelectroneg, ac mae AberCollab wedi ein galluogi i gryfhau’r cydweithio hwn yn ogystal â mynd ar drywydd amcanion ymchwil eraill.” 

Rhoi llais i lenorion ar y cyrion

Cynhaliwyd Diwrnod Meddiannu Awduron ar Ymylol ym mis Gorffennaf 2024, gan ddwyn ynghyd awduron, cyhoeddwyr, elusennau ac ymgyrchwyr o bob rhan o Gymru i drafod y rhwystrau i gymryd rhan mewn ysgrifennu a chyhoeddi ac i greu cysylltiadau newydd.   

Yn ystod y dydd, bu amrywiaeth o baneli’n trafod syniadau ynghylch hunaniaeth, rhywedd, hil, allgáu, iechyd meddwl a chorfforol, a chreadigrwydd. Ymhlith y prif siaradwyr roedd yr awdur a’r golygydd Durre Shawar; Cylchgrawn Gwyllion; Richard Davies, cyfarwyddwr cyhoeddi Parthian Books, a’r artist a’r awdur Joshua Jones. Roedd sesiwn meic agored gyda’r nos lle rhoddwyd sylw i waith gan dros 20 o awduron cydnabyddedig a newydd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Ganolfan Creadigrwydd a Llesiant y Brifysgol gyda chyllid o raglen AberCollab y Ganolfan Deialog ynghyd â chyllid ychwanegol gan Llenyddiaeth Cymru a nawdd gan Parthian Books a Newyddiaduraeth Cynhwysol Cymru. Roedd 40 o bobl wedi mynychu mewn person, gydag o ddeutu ddeg o gyfranogwyr yn ymuno ar-lein.

Dywedodd Dr Jacqueline Yallop, Darllenydd mewn Ysgrifennu Creadigol a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Creadigrwydd a Lles Prifysgol Aberystwyth: “Roedd y digwyddiad yn hynod lwyddiannus o ran dod â phobl ynghyd a’u hannog i drafod. Roedd yr adborth a gafwyd ar y dydd yn awgrymu bod y fformat wedi gweithio’n dda a bod cyfranogwyr yn awyddus i adeiladu ar y diwrnod.

“Roedd brwdfrydedd amlwg o blaid cael rhwydwaith bywiog fel hwn sy’n dod ag awduron a chyhoeddwyr at ei gilydd ledled Cymru i rannu profiadau a chyfleoedd, ac sy’n dechrau chwalu rhwystrau systemig. Fel trefnwyr, rydyn ni’n casglu adborth ehangach ac yn edrych ar ffyrdd o sefydlu rhwydwaith cynaliadwy, gyda Chanolfan Creadigrwydd a Llesiant y Brifysgol yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer gweithgareddau a chyfnewid gwybodaeth.”

Twristiaeth a’r economi llety gwyliau gosod ôl-bandemig

Gyda chyfyngiadau ar deithio dramor, arweiniodd pandemig Covid-19 at gynnydd yn y galw am lety gwyliau gosod yn y DG.  Mae’n duedd sydd wedi parhau ac roedd ymchwilwyr o Ysgol Busnes Busnes Aberystwyth yn awyddus i edrych yn fanylach ar y berthynas rhwng y cynnydd hwn mewn llety gwyliau a’r economi twristiaeth yng Ngorllewin a Gogledd Cymru.

Eu prif amcan oedd mesur maint yr economi llety gwyliau gosod yng Ngheredigion, Gwynedd a Sir Benfro ac asesu ei heffaith ehangach. Fel rhan o’u prosiect, cynhaliodd ymchwilwyr gyfweliadau â staff sy’n gweithio mewn sefydliadau, atyniadau a busnesau twristiaeth. Daethant hefyd â chynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth ynghyd yn Aberystwyth ym mis Mehefin 2024 ar gyfer digwyddiad cyfnewid gwybodaeth arbennig, lle buon nhw’n cyflwyno ac yn trafod eu canfyddiadau.

Dywedodd Dr Maria Plotnikova, darlithydd Economeg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Yn ystod y digwyddiad, rhannodd y grŵp y materion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n wynebu busnesau llety gwyliau gosod ac atyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys y cynnydd yn y gyfradd deiliadaeth i fod yn gymwys ar gyfer y cyfraddau domestig, canfyddiad y cyhoedd o lety gwyliau gosod, a chydgysylltu a chydweithio rhwng atyniadau i wella’r profiad twristiaeth ymwelwyr.”

Ychwanegodd Dr Mandy Talbot, darlithydd yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Canlyniad y gweithgaredd cydweithredol yma fu cyd-greu gwybodaeth newydd a chyd-ddealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu busnesau. Bydd ein canfyddiadau yn helpu rhanddeiliaid twristiaeth i ddeall tueddiadau cyfredol, a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Byddwn hefyd yn cyflwyno adroddiad yn seiliedig ar ein canfyddiadau i Lywodraeth Cymru ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn helpu i lywio polisi a rheoleiddio.”

Dod â’r corff i mewn i bolisi

Gall trafodaethau am effaith gordewdra ar iechyd ac economi’r DG arwain at godi cywilydd a gwarth ar unigolion sydd dros eu bwysau, gan eu portreadu fel baich ar wasanaethau cyhoeddus, yn ôl ymchwilwyr. Ar ben hynny, maen nhw’n dweud bod mesuriadau safonol o iechyd fel BMI yn ymgorffori hiliaeth, yn ffafrio pobl abl ac yn atgyfnerthu anghydraddoldebau.

Fel rhan o’u prosiect AberCollab, aeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ati i ymgysylltu’n feirniadol â pholisi iechyd a chynnig gweledigaeth amgen a mwy cyfannol ar gyfer iechyd a llesiant pobl Cymru gan ddefnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r Ddeddf yn cynnig dull ‘tosturiol’ o ymdrin ag iechyd a llesiant sy’n hwyluso dealltwriaeth o les meddyliol ac yn annog gweithgarwch corfforol. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys camau manwl a phenodol, y tu hwnt i’r ffocws ar BMI, yn enwedig mewn perthynas â phwysau ac iechyd. Nod yr ymchwilwyr felly oedd datblygu prosiect a arweiniwyd gan ymarfer a oedd yn ceisio llywio datblygiad polisi yn y dyfodol, gan edrych ar agweddau amgen tuag at fwyd, maeth, maint y corff ac iechyd, wedi’u llywio gan agweddau gwahanol tuag at faeth a delwedd y corff. Cynhaliwyd gweithdy undydd gyda siaradwyr o ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys dieteg feirniadol, cymdeithaseg iechyd, astudiaethau anabledd critigol a daearyddiaeth ddynol.

Dywedodd Dr Emma Sheppard sy’n Ddarlithydd Cymdeithaseg yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Roedd ein gweithdy’n canolbwyntio ar nodi elfennau cyffredin yn ein dulliau ein hunain o gysyniadoli iechyd a lles, cyn ystyried moeseg cynnal ymchwil a allai gyfrannu at bolisi iechyd. Gan fod ein siaradwyr yn cynrychioli ystod mor amrywiol o ddisgyblaethau, roedd yn ddefnyddiol gweld sut mae sgyrsiau am bwysau mewn cyfarfyddiadau gofal iechyd yn dod i’r amlwg ac yn cydblethu cymaint ag ystyriaethau dosbarth, hil, rhyw, anabledd ac oedran.”

Dywedodd Dr Elizabeth Gagen, Darlithydd Hŷn mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Buom yn trafod prosiect ymchwil peilot ac wedi nodi dau ddull penodol yr ydym bellach yn eu hystyried yn fanylach. Byddai un o’r prosiectau hyn yn canolbwyntio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byddai’n golygu cynnal ymchwil i’r ffactorau sy’n annog pobl i ffynnu, o fewn a thu hwnt i fodelau traddodiadol megis penderfynyddion cymdeithasol iechyd. Byddai canlyniadau’r prosiect yn ailgysyniadoli’r dangosyddion sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i fesur iechyd a lles yn y Ddeddf Llesiant. Rydym yn credu y byddai gweithredu gwahanol fesurau yn gwella’r gofal y mae pobl yn ei dderbyn drwy roi sylw i urddas, parch a dulliau sy’n seiliedig ar drawma o ymdrin ag iechyd a llesiant.”