Proses Mynediad Agored yn Aberystwyth

Mae'r "llwybrau" isod yn berthnasol i weithiau academaidd a gyflwynir ac a dderbynnir i'w cyhoeddi mewn cyfnodolion neu drafodion cynhadledd gyda Rhif Cyfresol Safonau Rhyngwladol (ISSN), neu'r rhai a gynhelir ar blatfform cyhoeddi, a ysgrifennwyd gan awduron a chyd-awduron Prifysgol Aberystwyth sy'n staff, neu'n fyfyrwyr y mae gan eu cyllidwyr ofynion mynediad agored. Anogir awduron eraill sy'n defnyddio cysylltiad y Brifysgol i fabwysiadu'r polisi hwn lle bo’n bosibl.

Mae adneuo mynediad agored o weithiau academaidd eraill e.e. monograffau neu benodau llyfrau yn storfa Mynediad Agored y Brifysgol yn parhau i gael ei annog yn gryf lle bo’n bosibl.

Cyfeiriwch at y Polisi Mynediad Agored a Chadw Hawliau am fanylion pellach.

Diagram canllaw'r awdur

Llwybr Cadw Hawliau Gwyrdd

  1. Cyn cyflwyno: 
    1. Hysbysu unrhyw gyd-awduron bod y Brifysgol yn gweithredu polisi cadw hawliau awdur. Mae hyn yn caniatáu i'r Brifysgol wneud y llawysgrif ôl-argraffu/llawysgrif awdur wedi’i dderbyn (AAM) ar gael i'w darllen heb gymhwyso unrhyw embargo cyhoeddwyr, ac i awduron y Brifysgol rannu eu gwaith ag eraill heb dorri unrhyw gytundeb trosglwyddo hawlfraint gyda chyhoeddwr.
    2. Cadarnhau bod eich cyhoeddwr yn ymddangos ar y rhestr o'r rhai sydd eisoes wedi cael gwybod gan y Brifysgol. Os nad yw eich cyhoeddwr yn ymddangos, cysylltwch â mynediadagored@aber.ac.uk a byddwn yn cysylltu â nhw ar eich rhan.
    3. Ystyried unrhyw ddeunydd hawlfraint trydydd parti sydd wedi'u gynnwys yn eich cyflwyniad ac a yw caniatâd yn gydnaws â defnydd o dan drwydded CC-BY neu a oes angen hysbysiad arnoch i'w heithrio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
  1. Wrth gyflwyno:

    Ar y pwynt hwn, os oes gennych ddata ategol ar gyfer eich cyflwyniad, efallai y bydd angen i chi greu cofnod data o fewn Pure a chael DOI wedi'i aseinio iddo i'w ddarparu i'r cyfnodolyn ar gyfer y broses adolygu gan gymheiriaid; gweler ein tudalen wybodaeth PURE am ganllawiau.
  1. Wrth dderbyn:
    1. O fewn 1 mis i'w dderbyn, mae angen i chi greu cofnod Pure ar gyfer eich allbwn ac uwchlwytho eich llawysgrif awdur wedi’i dderbyn (AAM). Bydd hyn yn bodloni unrhyw ofyniad gan gyllidwr ar gyfer adneuo o fewn storfa sefydliadol (os cafodd y gwaith ei gyllido, yna gwiriwch a oes ganddynt unrhyw ofynion ychwanegol).
    2. Gosod y cofnod ‘I’w gymeradwyo’ a chadw, yna bydd gweinyddwr Pure yn adolygu’r cofnod i sicrhau ei fod yn gyflawn ac yn rhoi trwydded Creative Commons Attribution (CC BY) ar eich llawysgrif awdur wedi’i dderbyn (AAM). Ar ôl iddo gael ei ‘gymeradwyo’, bydd cofnodion allbwn yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r Porth Ymchwil, sef storfa sefydliadol gyhoeddus y Brifysgol.

Rydym yn cydnabod y gallai fod nifer fach o sefyllfaoedd lle bydd angen i awduron y Brifysgol optio allan o'r polisi hwn. Bydd angen i awduron y Brifysgol gysylltu â mynediadagored@aber.ac.uk i ofyn am optio allan.

Llwybr Aur

drwy dalu tâl prosesu erthygl (APC) i gyhoeddwr, naill ai'n uniongyrchol neu drwy gytundeb trawsnewidiol.

  1. Wrth gyflwyno:

Ar y pwynt hwn, os oes gennych ddata ategol ar gyfer eich cyflwyniad, efallai y bydd angen i chi greu cofnod data o fewn Pure a chael DOI wedi'i aseinio iddo i'w ddarparu i'r cyfnodolyn ar gyfer y broses adolygu gan gymheiriaid; gweler ein tudalen wybodaeth Pure am ganllawiau.

  1. Wrth gyhoeddi:

Os yw eich allbwn wedi'i gyhoeddi drwy fynediad agored aur, crëwch gofnod Pure ar gyfer eich allbwn gan gynnwys adneuo fersiwn y cyhoeddwr i Pure. Nid oes angen adneuo llawysgrif awdur wedi’i dderbyn (AAM) wrth dderbyn fel sy'n digwydd gyda'r llwybr gwyrdd.

Pwyntiau Bwled Angen Gwybod

  • Trwydded CC BY ar gyfer llwybr gwyrdd
    • Cyfnod gras o 1 mis ar ôl derbyn i’w gyflwyno i Pure
    • Efallai y bydd eich cyllidwr yn gofyn am adneuon pellach mewn mannau eraill (gwiriwch gyda nhw)
    • Dim angen embargo
  • Trwydded CC BY ar gyfer llwybr aur
    • Mae trwydded Llywodraeth Agored yn gydnaws
    • Dim mynediad agored ôl-weithredol
    • Ni chaniateir embargo
    • Dim angen llawysgrif awdur wedi’i dderbyn (AAM)
  • Rhaid cydnabod unrhyw gyllid.
  • Angen datganiad mynediad data
    • Gan gynnwys dolen i'r storfa lle mae data ar gael i'w lawrlwytho