Cwestiynau Cyffredin Prisiau Aelodaeth
Manylion cynyddu prisiau o Fedi 2026
Pam mae’r prisiau'n cynyddu?
Mae cost rhedeg a chynnal adnoddau hamdden modern fel ein rhai ni yn parhau i godi, gyda’r costau’n cynyddu ar draws cyfleustodau, staffio, cynnal a chadw, a gwasanaethau hanfodol. Ar yr un pryd, rydym yn parhau â’n hymroddiad i fuddsoddi yn ein hadnoddau a gwella'r profiad a ddarparwn i aelodau.
Bydd y cynnydd i’r prisiau aelodaeth yn ein helpu i barhau i ddarparu gwerth ardderchog, cynnal safonau uchel ledled ein canolfan, a pharhau i fuddsoddi mewn offer, gwasanaethau ac adnoddau sy'n cefnogi eich iechyd a'ch lles.
Pryd fydd y cynnydd mewn prisiau yn dod i rym?
Bydd y prisiau newydd yn dod i rym o 1 Medi 2026. Os ydych eisoes wedi prynu aelodaeth 1 mis neu 3 mis, bydd y cynnydd mewn pris yn dod i rym y tro nesaf y byddwch chi'n prynu aelodaeth.
A oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Aelodau sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol Misol: Nid oes angen i aelodau wneud dim. Bydd eich taliadau Debyd Uniongyrchol yn diweddaru'n awtomatig ar 1 Medi.
Aelodau Staff: Os ydych chi’n talu drwy Pobl Aber, bydd eich taliad yn cael ei ddiweddaru o'ch cyflog ddiwedd mis Awst ar gyfer mynediad digyfyngiad y mis canlynol.
Aelodau Blynyddol neu Fisol: Pan fyddwch yn adnewyddu eich aelodaeth, byddwch yn talu'r pris aelodaeth uwch.
Faint mae’r prisiau'n cynyddu?
|
Teitl Presennol yr Aelodaeth |
Teitl Newydd yr Aelodaeth |
Pris misol presennol |
Pris misol newydd |
|
Cymuned Dros 18 Blynyddol 12 Mis |
Cymuned 1 Flwyddyn Ymlaen Llaw |
£396 |
£400 |
|
Cymuned Dros 18 Blynyddol Debyd Uniongyrchol |
Cymuned 1 Flwyddyn Debyd Uniongyrchol |
£33.50 |
£34.99 |
|
Cymuned Dros 18 3 Mis |
Cymuned 3 Mis Ymlaen Llaw |
£100 |
£103 |
|
Cymuned Dros 18 |
Cymuned 1 Mis Ymlaen Llaw |
£33.50 |
£34.99 |
|
Ieuenctid neu Gymuned 16-18 Blynyddol 12 Mis (Mewn Addysg Uwchradd) |
Myfyriwr 1 Flwyddyn Ymlaen Llaw |
£180 |
£210 |
|
Ieuenctid neu Gymuned 16-18 Debyd Uniongyrchol (Mewn Addysg Uwchradd) |
Myfyriwr 1 Flwyddyn Debyd Uniongyrchol |
£17.50 |
£20 |
|
Ieuenctid neu Gymuned 16-18 |
Myfyriwr 1 Mis Ymlaen Llaw |
£17.50 |
£20 |
|
Ieuenctid neu Gymuned 14-15 Blynyddol 12 Mis (Mewn Addysg Uwchradd) |
Iau 1 Flwyddyn Ymlaen Llaw |
£180 |
£180 |
|
Tocyn Un Mis 14-15 |
Iau 1 Mis |
£15 |
£16 |
|
Myfyriwr Pecyn Preswyl |
Myfyriwr Tymor Preswyl |
Am ddim |
Am ddim |
|
Myfyriwr Platinwm neu Dymor Ymlaen Llaw |
Myfyriwr Tymor Ymlaen Llaw |
£150 |
£150 |
|
Myfyriwr Tymor Debyd Uniongyrchol |
Myfyriwr Tymor Debyd Uniongyrchol |
£20 |
£20 |
|
Staff Blynyddol 12 Mis |
Staff 1 Flwyddyn Ymlaen Llaw |
£342 |
£350 |
|
Staff Debyd Uniongyrchol |
Staff 1 Flwyddyn Debyd Uniongyrchol |
£28.50 |
£29.99 |
|
Staff Platinwm |
Staff 1 Mis Cyflogres |
£28.50 |
£29.99 |
|
Corfforaethol Blynyddol 12 Mis |
Corfforaethol 1 Flwyddyn Ymlaen Llaw |
£336 |
£360 |
|
Corfforaethol Blynyddol Debyd Uniongyrchol |
Corfforaethol 1 Flwyddyn Debyd Uniongyrchol |
£30 |
£31.50 |
|
Corfforaethol 3 Mis |
Corfforaethol 3 Mis Ymlaen Llaw |
£90 |
£94.50 |
|
Corfforaethol 1 Mis |
Corfforaethol 1 Mis Ymlaen Llaw |
£30 |
£31.50 |
|
Cyswllt Blynyddol 12 Mis |
Corfforaethol 1 Flwyddyn Ymlaen Llaw |
£336 |
£360 |
|
Cyswllt Blynyddol Debyd Uniongyrchol |
Corfforaethol 1 Flwyddyn Debyd Uniongyrchol |
£30 |
£31.50 |
|
Cyswllt 3 Mis |
Corfforaethol 3 Mis Ymlaen Llaw |
£90 |
£94.50 |
|
Cyswllt 1 Mis |
Corfforaethol 1 Mis Ymlaen Llaw |
£30 |
£31.50 |
|
Staff Wedi Ymddeol Blynyddol 12 mis |
Wedi Ymddeol 1 Flwyddyn Ymlaen Llaw |
£240 |
£240 |
|
Staff Wedi Ymddeol Blynyddol Debyd Uniongyrchol |
Wedi Ymddeol 1 Flwyddyn Debyd Uniongyrchol |
£20 |
£20 |
|
Staff Wedi Ymddeol 3 Mis |
Wedi Ymddeol 3 Mis Ymlaen Llaw |
£60 |
£60 |
|
Staff Wedi Ymddeol 1 Mis |
Wedi Ymddeol 1 Mis Ymlaen Llaw |
£20 |
£20 |
|
Talu fesul Sesiwn – Diwrnod Cyfan |
Tocyn Diwrnod Mynediad Llawn |
Ddim yn berthnasol |
£10 |
|
Talu fesul Sesiwn - Dosbarth |
Tocyn Dosbarth |
£6 |
£7 |
|
Talu fesul Sesiwn - Y Gampfa |
Tocyn Campfa |
£6 |
£7 |
|
Talu fesul Sesiwn – Wal Ddringo |
Tocyn Wal Dringo |
£6 |
£7 |
|
Talu fesul Sesiwn - Nofio |
Tocyn Nofio |
£5 |
£5 |
Pa welliannau sydd wedi’u gwneud i'r adnoddau a'r gwasanaethau yn ddiweddar?
Rydym wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol ar draws ein hadnoddau ffitrwydd, chwaraeon a hamdden i wella'r profiad i'r holl aelodau a chwsmeriaid.
Mae Campfa’r Gromen wedi elwa o fuddsoddiad £250,000 mewn offer ffitrwydd newydd, sydd wedi creu amgylchedd modern o ansawdd uchel gyda dros 138 o orsafoedd ymarfer corff. Fel Canolfan Achrededig HYROX, mae'r cyfleuster bellach yn cynnig offer hyfforddi HYROX pwrpasol yn ogystal ag amrywiaeth eang o gyfarpar cryfder, cyflyru, pwysau rhydd a chardiofasgwlaidd.
Mae’r gwelliannau ychwanegol ledled y ganolfan yn cynnwys:
- Rhaglen ddiwygiedig o ddosbarthiadau ffitrwydd, gyda mwy o ddosbarthiadau a hyfforddwyr.
- Gosod offer ymarfer HYROX newydd.
- Adfer lloriau'r Neuadd Chwaraeon a gosod arwyneb newydd yn y gawell chwaraeon.
- Gwaith i osod arwyneb newydd ar waliau’r pwll i wella'r amgylchedd nofio.
- Ailosod llwybrau’r wal ddringo yn llwyr bob chwarter, i ddarparu heriau newydd i ddringwyr.
- Gwaith cynnal a chadw hanfodol i'r cae 3G.
Mae'r gwelliannau hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddarparu adnoddau o ansawdd uchel, cyfarpar modern a phrofiad ardderchog i bawb sy’n eu defnyddio.
