Cwestynau Cyffredin Aelodaeth Eraill
Cwestiynau cyffredin aelodaeth cyffredinol
Pa welliannau sydd wedi’u gwneud i'r adnoddau a'r gwasanaethau yn ddiweddar?
Rydym wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol ar draws ein hadnoddau ffitrwydd, chwaraeon a hamdden i wella'r profiad i'r holl aelodau a chwsmeriaid.
Mae Campfa’r Gromen wedi elwa o fuddsoddiad £250,000 mewn offer ffitrwydd newydd, sydd wedi creu amgylchedd modern o ansawdd uchel gyda dros 138 o orsafoedd ymarfer corff. Fel Canolfan Achrededig HYROX, mae'r cyfleuster bellach yn cynnig offer hyfforddi HYROX pwrpasol yn ogystal ag amrywiaeth eang o gyfarpar cryfder, cyflyru, pwysau rhydd a chardiofasgwlaidd.
Mae’r gwelliannau ychwanegol ledled y ganolfan yn cynnwys:
- Rhaglen ddiwygiedig o ddosbarthiadau ffitrwydd, gyda mwy o ddosbarthiadau a hyfforddwyr.
- Gosod offer ymarfer HYROX newydd.
- Adfer lloriau'r Neuadd Chwaraeon a gosod arwyneb newydd yn y gawell chwaraeon.
- Gwaith i osod arwyneb newydd ar waliau’r pwll i wella'r amgylchedd nofio.
- Ailosod llwybrau’r wal ddringo yn llwyr bob chwarter, i ddarparu heriau newydd i ddringwyr.
- Gwaith cynnal a chadw hanfodol i'r cae 3G.
Mae'r gwelliannau hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddarparu adnoddau o ansawdd uchel, cyfarpar modern a phrofiad ardderchog i bawb sy’n eu defnyddio.
A oes modd i mi ganslo fy aelodaeth?
Oes. Gall aelodau ganslo eu haelodaeth yn unol â'r Telerau ac Amodau Aelodaeth.
- Nid yw Aelodaeth Ymlaen llaw yn ad-daladwy a bydd yn parhau’n weithredol tan ddiwedd y cyfnod aelodaeth rhagdaledig.
- Bydd Aelodaeth Debyd Uniongyrchol yn parhau’n weithredol nes bod cais i’w ganslo wedi dod i law ac wedi’i brosesu.
Gallwch drefnu i ganslo eich aelodaeth trwy:
- Ymweld â'r Ganolfan Chwaraeon yn bersonol (sylwch y bydd yn rhaid i daliadau Debyd Uniongyrchol gael eu canslo’n uniongyrchol gyda’ch banc hefyd).
- Os ydych chi'n aelod o staff sy'n talu drwy'r gyflogres, gallwch ddiweddaru manylion eich taliad aelodaeth drwy Pobl Aber
- Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n gadael y Brifysgol, gallwch hysbysu'r Ganolfan Chwaraeon eich bod yn ymadael.
Os oes angen cymorth arnoch i ganslo'ch aelodaeth neu os hoffech drafod eich amgylchiadau, cysylltwch â thîm y Ganolfan Chwaraeon yn chwaraeon@aber.ac.uk.
Sut alla i weld faint mae pris fy aelodaeth wedi cynyddu?
Os ydych chi’n talu am eich aelodaeth trwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwch yn cael e-bost cyn 1 Medi yn cadarnhau swm eich taliad misol newydd.
Gallwch hefyd weld manylion y prisiau aelodaeth diwygiedig trwy gyfeirio at y Cwestiwn Cyffredin "Faint mae’r prisiau'n cynyddu?” sy'n rhoi manylion am y ffioedd aelodaeth ac unrhyw gynnydd perthnasol.
A phwy ddylwn i gysylltu os oes gennyf unrhyw gwestiynau ynglŷn ag aelodaeth?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bris eich aelodaeth neu os ydych chi’n credu bod eich aelodaeth yn y categori anghywir, cysylltwch â Thîm y Ganolfan Chwaraeon yn chwaraeon@aber.ac.uk neu siaradwch ag aelod o staff wrth y Dderbynfa.
