AberPreneurs - Troi Syniadau Busnes yn Realiti

Digwyddiadau 2025 

Arloesi a’r dyfodol - Dydd Iau 13 Tachwedd 6-8pm

Gweithdy a thrafodaeth banel

Ymunwch â ni i ystyried sut y gall eich gyrfa ddylanwadu ar ddyfodol Cymru trwy gyfrwng trafodaethau ar ddiwylliant, daearyddiaeth ac iaith, gyda:

  • Prof. Rhys Jones Daearydd
  • Prof. Mererid Hopwood Bardd a Archdderwydd
  • Imogen Davies Gweithiwr llawrydd a Bardd

Underground (Undeb Aber) Archebwch yma

 

Mae'n wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang! Dewch i ddysgu am...

'Cynllunio eich Busnes Cychwynnol, Menter Gymdeithasol, neu Fusnes Llawrydd' - Dydd Mercher 19 Tachwedd, 1.15-4yp

Bydd y gweithdy hwn yn dangos i chi sut i ysgrifennu eich cynllun busnes a rhoi trosolwg i chi o'r hyn sydd angen i chi ei wybod cyn dechrau eich busnes neu fenter gymdeithasol.

A…

Sesiynau galw heibio 1:1 i roi cyngor busnes

Gall ein cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru ateb cwestiynau a rhoi cyngor i chi sydd wedi'i deilwra i'ch anghenion.   

Canolfan Ddelweddu Ystafell 0.06  Ymunwch yma

 

Arloesi a’r dyfodol - Dydd Iau 20 Tachwedd 6-8yp

Gweithdy a thrafodaeth banel

Ymunwch â ni i ystyried sut y gall eich gyrfa ddylanwadu ar ddyfodol Cymru trwy gyfrwng trafodaethau ar iechyd corfforol, lles meddyliol a pholisi, gyda:

  • Dr. Kim Kenobi Mathemategwr
  • Iolo ap Dafydd Entrepreneur
  • Dr. Joanne Elliot Iechyd Cyhoeddus Cymru

Underground (Undeb Aber) Archebwch yma

 

‘Making Art Work’ - Dydd Mercher 26 Tachwedd 4-6yp

'Profit From Your Passion' - Ymunwch â ni ar gyfer y cyntaf o bedwar gweithdy ar greu gyrfa fel gweithiwr creadigol ar eich liwt eich hun, a gynhelir gan Glwb y Gweithiwr Llawrydd, gyda:

Matt Dowling (Sylfaenydd)

Freelancer Club https://freelancerclub.net/

A12 Hugh Owen Archebwch Yma

 

Gwneud TRETH yn Ddigidol - Dydd Mercher 3 Rhagfyr 12.10-1yp

O 2026 ymlaen, mae CThEF yn gwneud newidiadau: P'un a ydych chi'n unig-fasnachwr, yn berchennog busnes, neu'n weithiwr llawrydd, dyma'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Ymunwch â'r weminar i ddysgu gan y cyfrifydd Carly Allchurch - Allchurch & Co

  • Am ddim i fyfyrwyr/graddedigion/staff

 

Cymorth i gychwyn busnes yn ABER

Dewis i sgwrsio â’r ‘Tîm Menter’, rydym yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar fyfyrwyr presennol, graddedigion ac eraill i weithio’n llawrydd/hunangyflogedig, cychwyn eu busnes/menter gymdeithasol eu hunain, lansio busnes newydd a allai ehangu’n gyflym neu ddatblygu sgiliau menter hanfodol.  

Rydym yn cynnig digwyddiadau ysbrydoledig, gweithdai datblygu sgiliau, mentora arbenigol, cystadleuaeth fusnes flynyddol i fyfyrwyr, ynghyd â chyngor ac arweiniad drwy ein hapwyntiadau 1:1. 

Gallwch ymuno â'n rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddigwyddiadau Menter, e-bostiwch menter@aber.ac.uk 

 

Oes arnoch chi eisiau gweithio i chi'ch hun?... rydym yn helpu myfyrwyr, graddedigion a staff i ddechrau busnesau newydd:

Rydym yn darparu:

  • Gwybodaeth
  • Cyngor
  • Hyfforddiant
  • Ariannu

 

 

 

Cofiwch:

  • Rydym yn cynnig 'Mentora Busnes' 1:1 am ddim ar-lein/wyneb yn wyneb 

 

Darllenwch ein Hanesion am Lwyddiant yma: Dechreuadau busnesau graddedig

Edrychwch ar y 'Marchnad Myfyrwyr Cymru' - https://walesstudentmarket.co.uk/cy 

 

Dolenni defnyddiol:

 

Mae 'AberPreneurs' yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi menter:

  • Cymorth Dechrau Busnes a Menter
  • Digwyddiadau Menter
  • Sgyrsiau Ysbrydoledig
  • Mentwra un-i-un
  • Cyngor ar Gyllid
  • Rhwydweithio

Cysylltwch â ni:

Os oes gennych chi syniad busnes ac yr hoffech rhywfaint o gyngor cysylltwch â:

menter@aber.ac.uk
01970 622378

Adroddiad Menter yn ABER 2024

(Word)

Effaith Addysg Fenter ym Mhrifysgol Aberystwyth 2024 (PDF)

 

I ddarparu ein ystod llawn o wasanaethau cychwyn busnes i chi, rydym yn cadw ac yn gwneud defnydd o’ch manylion personol ar sail diddordeb cyfiawn.  Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data cyflawn yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Myfyrwyr a Graddedigion ; Gwybodaeth am Ddiogelu Data Cyflogwyr/Rhyngddeiliad

Mae cymorth menter a dechrau busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gefnogi trwy Cynllun Entrepreneuriaeth Ieuenctid Lywodraeth Cymru fel rhan o ymrwymiad Lywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru.