Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?
Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.
Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?
Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol.
Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.
Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol
Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.
DU
- Apolitical
 - BOND (British Overseas NGOs for Development)
 - Center for Strategic and International Studies
 - Charity Job
 - Chatham House (Royal Institute of International Affairs)
 - Civil Service
 - College of Policing
 - Department for International Development
 - ELRHA - adran Gwybodaeth am Yrfaoedd Dyngarol
 - GCHQ
 - Guardian - Rhestr Melinau Trafod
 - International Alert
 - International Institute for Strategic Studies
 - New Policy Institute
 - PR Week Jobs - adran swyddi materion cyhoeddus/polisi
 - Royal United Services Institute
 
Tramor
- BOND (British Overseas NGOs for Development)
 - British American Security Information Council
 - Charity Job
 - Council of Europe - lleoliadau hyfforddi
 - Department for International Development
 - ELRHA - adran Gwybodaeth am Yrfaoedd Dyngarol
 - EuroBrussels - safle swyddi materion Ewropeaidd
 - European Commission - lleoliadau hyfforddi
 - Foreign Policy Research Institute - Cyfarwyddiadur Melinau Trafod
 - Foundation for Sustainable Development
 - HillZoo.com - swyddi/lleoliadau gwaith Capitol Hill
 - Institute for Cultural Diplomacy
 - International Alert
 - International Institute for Strategic Studies
 - NATO - lleoliadau gwaith
 - Organization for Security and Co-operation in Europe (OSCE)
 - Thomson Reuters Foundation - adran swyddi
 - Stockholm International Peace Research Institute
 - United Nations - adran swyddi
 - United Nations Junior Professional Officer (JPO) Programme
 - Youth at the United Nations - lleoliadau gwaith
 
Cymdeithasau a chyrff proffesiynol
Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.
Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?
Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:
- Asiant Gwleidyddol Cynorthwyol
 - Athro/Athrawes
 - Athro/Athrawes Saesneg
 - Cydlynydd Ymchwil y Farchnad
 - Cyhoeddwr Cylchgrawn
 - Cynghorydd Bwrdeisdref
 - Cynlluniwr Traffig
 - Cynorthwy-ydd Aelod y Cynulliad
 - Cynorthwy-ydd Ymgyrchoedd
 - Dadansoddwr Cyswllt (Mewnfudiad)
 - Dadansoddwr Gwleidyddol
 - Darlithydd
 - Darlithydd Coleg
 - Golygydd ac Ymchwilydd
 - Graddedig MIS dan Hyfforddiant
 - Gwas Sifil
 - Gweinyddwr Busnes
 - Gweinyddwr Datblygiad Canolfan
 - Gweinyddwr Etholaeth
 - Gweithiwr Achos Seneddol
 - Gweithiwr All-Ymestyn Gwleidyddol
 - Gweithiwr Graddedig dan Hyfforddiant gyda'r Blaid Lafur
 - Gwerthwr Hen Bethau
 - Is-Swyddog Mewnfudo
 - Llywydd Myfyrwyr
 - Pennaeth Gwella a Llywodraethu
 - Rheolwr Allymestyn
 - Rheolwr dan Hyfforddiant
 - Swyddog Adolygu Strategaeth Gymunedol
 - Swyddog Cadét
 - Swyddog Cyfathrebu
 - Swyddog Cynllunio mewn Argyfwng
 - Swyddog Cyswllt yn y Gymuned
 - Swyddog Marchnata Ewropeaidd
 - Swyddog Mewnfudo Ewropeaidd
 - Swyddog Polisi
 - Swyddog Rhyngwladol
 - Swyddog yn y Fyddin Brydeinig
 - Swyddog yn y Llynges Frenhinol
 - Trefnydd Etholaeth Wleidyddol
 - Uwch-Gynghorydd Polisi a Chynllunio
 - Ymchwilydd Cudd-Wybodaeth
 - Ymchwilydd Gwleidyddol
 - Ymchwilydd Materion Cyhoeddus
 - Ymchwilydd Seneddol
 - Ymgynghorydd Amddiffyn
 - Ymgynghorydd Marchnata
 - Ymgynghorydd Recriwtio
 - Ymgyrchydd/Awdur
 
Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion gwleidyddiaeth ryngwladol Aberystwyth i weithio iddynt:
- Adran Drafnidiaeth
 - Adran Gwaith a Phensiynau
 - Amnesty International
 - Amryw Gynghorau Sir
 - Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
 - BBC
 - Byddin Brydeinig EM
 - Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd
 - Cyfanfyd
 - Cyllid a Thollau EM
 - Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 - East Coast Economic Region Development Council
 - Federation of German Security and Defence Industries
 - Food for Thought
 - G.A. Potter
 - Grŵp Bancio Lloyds
 - Heddlu Caint
 - Heddlu Northampton
 - International Institute of Humanitarian Law
 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
 - Llynges Frenhinol
 - Llywodraeth Cymru
 - Mildmay International
 - Ministry of the Interior of the Czech Republic
 - Plaid Geidwadol
 - Plaid Lafur
 - Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol
 - Prifysgol Aberystwyth
 - Politics plc
 - Prospects
 - Royal United Services Institute (RUSI)
 - Secretariat-General, Benelux Union
 - Sefydliad Ymchwil Heddwch, Frankfurt
 - Senedd Ewrop
 - Siambr Fasnach Black Country
 - Siambr Fasnach Prydain-Gwlad Pwyl
 - Slovak Atlantic Commission
 - Swyddfa Gartref
 - Swyddfa'r Post Cyf
 - SyQic
 - Tŷ Cyffredin
 - Tŷ'r Arglwyddi
 - United Nations Institute for Disarmament Research
 - Westminster Forum Projects
 - Worcester Research Ltd
 
