CYF:66-2203-6792503 - Compostio ar y campws

Dy sylw: It is pleasing to see the switch to compostable containers in the catering and hospitality across campus. However, there seem to be no composting bins? This seems to be something that would be easy to implement. It could even, be linked with research into energy extraction from compostable ware, or it's potential use on crops etc.? Missed opportunity?

Ein hymateb:

Diolch am eich cyflwyniad i Rho Wybod Nawr mewn perthynas â chompostio ar y safle.

Yn anffodus, fel y nodoch chi, nid oes gan y Brifysgol opsiynau compostio ar y Campws ar hyn o bryd, ac nid yw’r seilwaith ar gael yn yr ardal. Yn yr un modd, nid yw ein ffrwd gwastraff Cymysg Sych ar hyn o bryd yn gallu derbyn deunyddiau y gellir eu compostio, ac o ganlyniad bydd gofyn gwaredu’r deunydd hwn drwy’r ffrwd Gwastraff Cyffredinol. Bydd unrhyw wastraff cyffredinol na ellir ei ailgylchu’n mynd drwy broses losgi, gyda rhywfaint o fuddion o ran creu ynni.

Fodd bynnag gallwn dderbyn pecynnu y gellir ei gompostio drwy ein cyflenwr bwyd, ac yn fuan bydd y Brifysgol yn cynnal adolygiad o ddarpariaeth Ailgylchu Cymysg Sych a Gwastraff Bwyd fel rhan o newidiadau arfaethedig i Ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/cynyddu-ailgylchu-gan-fusnesau?_ga=2.167949730.227123199.1650373818-2073166457.1647499859

Felly, er bod y ddarpariaeth gyfredol ar gael ar gyfer y gwastraff a gaiff ei adael mewn allfeydd Lletygarwch yn unig, y gobaith yw y bydd gwell opsiynau gwastraff bwyd ar gael o gwmpas y campws mewn mannau mwy cyhoeddus yn y dyfodol agos a chaiff eich adborth ei ystyried fel rhan o’r adolygiad hwn.