CYF:66-2207-3073314 - System awyru yng Nghanolfan y Celfyddydau

Dy sylw: Can Air Conditioning be installed in the Arts Centre? Heat in summer during graduation is nothing unusual - and this would make everyone's graduation more comfortable.

Ein hymateb:

Gosodwyd y system bresennol ym 1967 sy'n gwasgaru aer i'r Neuadd Fawr a thrwy Ganolfan y Celfyddydau, yn anffodus ni ellir ei rheoli i gyfeirio’r aer i’r Neuadd Fawr yn unig. Rydym wedi gosod system oeri aer cludadwy dros dro i’r Uned Trin Aer, ond ffactor cyfyngol mawr yw na ellir ailgylchu aer, oherwydd ystyriaethau COVID a lefelau eithriadol CO2 sy'n cael eu cynhyrchu yn ystod sesiwn raddio.
Mae hyn yn golygu na allwn elwa o’r aer oer sy’n cael ei ailgylchu’n barhaus fel y byddech gyda system awyru eich car pen fo’r ffenestr wedi cau, dim ond aer uniongyrchol ar beth bynnag fo’r tymheredd amgylchynol sydd ar gael, sydd wedyn yn cael echdynnu ar ôl cwblhau cylchred.


Mae gwaith adnewyddu mawr wedi'i gynllunio ar gyfer Canolfan y Celfyddydau sy’n cynnwys unedau trin aer newydd, a fydd yn gallu dadleithio ac oeri’r aer sy’n cael ei dderbyn.