Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol

Mae ceisiadau nawr AR AGOR ar gyfer Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol!

Mae Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol yn cefnogi myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf i gael cipolwg gwerthfawr ar yrfaoedd anacademaidd yn y sector Addysg Uwch.

Mae’r interniaethau hyn wedi’u cynllunio i hybu eich hyder, datblygu eich sgiliau, eich cefnogi i ennill tra’n dysgu, ac i’ch paratoi ar gyfer y gweithle ar ôl graddio.

Gwybodaeth a Ffurflen Gais (Dyddiad Cau: 3 Hydref 2025)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, mae croeso mawr i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy e-bostio workexp@aber.ac.uk, neu ewch i’r Hwb Gyrfaoedd yn Llyfrgell Hugh Owen.  

Rhagor o wybodaeth

Pryd mae’r interniaethau hyn yn rhedeg?

Cyfanswm o 220 awr

  • 7 awr yr wythnos yn ystod Tymor 1 a 2
  • 36.5 awr yr wythnos yn ystod y lleoliad 2 wythnos olaf ym mis Mehefin ar ol arholiadau.

Ydw i'n gymwys?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig blwyddyn olaf PA sy’n ceisio meithrin hyder a sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol i agoriadau gyrfa o fewn gwasanaethau proffesiynol o fewn y sector Addysg uwch.  

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod:

  • yn eich blwyddyn olaf o astudio gradd israddedig, e.e. BA, BSc, MPhys, yn graddio yn Haf 2026.
  • ar gael i ymrwymo i'r cyfnod rhan-amser ac amser llawn uchod yn ogystal â'r rhaglen hyfforddi a chymorth a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
  • Yn gallu darparu tystiolaeth o'ch Hawl i Weithio yn y DU i'w gwirio gan adran Adnoddau Dynol y Brifysgol.
  • Yn ogystal, dylai fod gennych brofiad gwaith cyfyngedig neu ddim profiad gwaith o gwbl hyd yn hyn – ni allwch gymryd rhan os gwnaethoch gwblhau Blwyddyn mewn Diwydiant neu’r Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25.

Profiadau o’r Rhaglen ('24–25)

Eso: Gwasanaethau Gwybodaeth

Eso: Gwasanaethau Gwybodaeth

"Fe wnaeth hyn fy herio mewn ffordd gadarnhaol, gan fy mod yn defnyddio fy meddwl beirniadol mewn ffordd nad wyf wedi'i wneud o'r blaen."

"Rwy'n gwybod y gallaf gymhwyso’r sgiliau yr wyf wedi'u meithrin i amgylchedd gwahanol."

Gwen: Marchnata a Chyfryngau Creadigol

Gwen: Marchnata a Chyfryngau Creadigol

"Rydw i bellach wedi cael profiad o weithio mewn lleoliad corfforaethol, sydd wedi rhoi hwb i'm hyder yn fy ngallu.”

*Tim: Adnoddau Dynol

*Tim: Adnoddau Dynol

“Rwy'n llawer mwy hyderus, mewn gwirionedd mae'r lleoliad hwn wedi cadarnhau fy awydd am yrfa benodol mewn rheoli prosiectau yn y dyfodol.”

Lilia: Gwasanaethau i Fyfyrwyr

Lilia: Gwasanaethau i Fyfyrwyr

"Roeddwn i'n meddwl ei fod yn gyfle gwych i fod gam ar y blaen o ran fy ngheisiadau graddedig, yn ogystal â chael profiad ymarferol uniongyrchol."

Tayyibah: Adborth gan y Goruchwyliwr

Tayyibah: Adborth gan y Goruchwyliwr

Tîm Cyfathrebu, Ansawdd a Marchnata

“Tayyibah oedd y grym y tu ôl i’n nifer o’n mentrau. Cydlynodd arddangosfeydd llyfrau creadigol yn Llyfrgell Hugh Owen i nodi digwyddiadau allweddol”

“Roedd ei sgiliau dadansoddol yn disgleirio yn ei gwaith ar werthuso gwasanaethau a phrofiad defnyddwyr.

Kirill: Adborth gan y Goruchwyliwr

Kirill: Adborth gan y Goruchwyliwr

Tîm Ymgysylltu Academaidd

“Datblygodd Kirill sgript Python i’w defnyddio i nodi dolenni sydd wedi’u torri ar draws ystod o fathau o adnoddau yn Rhestrau Darllen Aspire sydd bellach wedi’u trwsio.”

“Roedd hwn yn lleoliad llwyddiannus iawn a chafodd Kirill ei enwebu a’i roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Aelod Staff Myfyrwyr y Flwyddyn Undeb Aber 2025.”

Ewan: Adborth gan y Goruchwyliwr

Ewan: Adborth gan y Goruchwyliwr