Ffyniant (Rhaglen ddatblygu i fenywod)

Tair merch yn cerdded i'w darlith

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Ffyniant '25-26, rhaglen ddatblygu i fenywod y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd – wedi'i chynllunio gan fenywod, i fenywod.  

Wedi'i chreu i gefnogi myfyrwyr israddedig y flwyddyn olaf sy'n nodi eu bod yn fenywod, mae Ffyniant yn cynnig cyfle unigryw i adeiladu hyder, datblygu naratif eich gyrfa, a chysylltu â chymuned o gyfoedion a gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk a chynnwys 'Ffyniant' ym mhennawd y pwnc. 

Gwneud cais i Ffyniant '25-26 (Dyddiad cau: 11:59yb, 10 Rhagfyr '25)

Sut all y rhaglen fy helpu i?

Bydd y rhaglen yn eich cefnogi i: 

  • Feithrin Hunan-ymwybyddiaeth a Hyder
  • Datblygu Naratif Personol eich Gyrfa
  • Datblygu Cysylltiadau Ystyrlon
  • Ystyried Llwybrau Gyrfa Amrywiol
  • Gosod Nodau a Gweledigaeth Glir

Beth fydd y rhaglen yn ei chynnwys?

Mae Ffyniant yn cynnwys chwe gweithdy rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar feithrin eich hyder a'ch sgiliau, a bydd yn cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau ymarferol a chyfleoedd i rwydweithio.

Cynhelir yr holl weithdai ar brynhawn Mercher rhwng 2-4yp ar y campws.

  • 4 Chwefror - Eich Pŵer a Chysylltu

    Cyflwyniad i’r rhaglen a chryfhau dylanwad a chreu rhwydweithiau cadarnhaol drwy ddilyn esiamplau da a ffurfio cysylltiadau

  • 11 Chwefror - Goresgyn Syndrom y Ffugiwr

    Trafod syndrom y ffugiwr a mabwysiadu meddylfryd sy’n canolbwyntio ar dwf er mwyn magu hyder

  • 18 Chwefror - Adeiladu Naratif eich Gyrfa

    Dysgu sut i ddatblygu stori unigryw eich gyrfa

  • 25 Chwefror - Grym Pendantrwydd

    Ymarfer pendantrwydd mewn sefyllfaoedd bob dydd

  • 11 Mawrth - Creu eich Gyrfa eich hun

    Darganfod sut i weithio i chi'ch hun

  • 18 Mawrth - Gweledigaeth a Gosod Nodau

    Gosod nodau ystyrlon, goresgyn heriau, a symud ymlaen

Ydw i’n gymwys i wneud cais?

I wneud cais ar gyfer Ffyniant, rhaid i chi:

  • Fod yn fyfyriwr israddedig yn y flwyddyn olaf
  • Nodi eich bod yn fenyw
  • Gallu ymrwymo i fynychu o leiaf 4 allan o’r 6 gweithdy
  • Bod yn barod i ymwneud yn gadarnhaol â'r rhaglen ac yn ymroddedig i ddatblygu eich hyder

Sut mae gwneud cais?

I wneud cais ar gyfer Rhaglen Ffyniant eleni ('25-26), llenwch y ffurflen gais isod. 

Gwneud cais i Ffyniant '25-26 (Dyddiad cau: 11:59yb, 10 Rhagfyr '25) 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk a chynnwys 'Ffyniant' ym mhennawd y pwnc.