Dyfodol Rhyngwladol

Dwy ferch yn darllen llyfryn

Rhaglen Cymorth Gyrfaoedd i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i helpu myfyrwyr i feithrin hyder, paratoi ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol a’u cefnogi i lywio’r farchnad swyddi i raddedigion y DU.

Trwy gyfres o weithdai wedi'u teilwra, byddwch:

  • Yn cael dirnadaeth o’r farchnad swyddi i raddedigion y DU a disgwyliadau cyflogwyr
  • Yn dysgu sut i ysgrifennu CV a llythyrau cyflwyno cadarnhaol sy'n tynnu sylw at eich cyflawniadau
  • Yn datblygu sgiliau cyfweld i gyflwyno’ch hun yn hyderus
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau gyrfaoedd grŵp cydweithredol ar gyfer trafodaeth agored a dysgu ar y cyd

I gael rhagor o wybodaeth, gweler GyrfaoeddABER.

Sgyrsiau Gyrfaol Rhyngwladol

Yn ogystal â gweithdai mae'r rhaglen yn cynnig Sgyrsiau Gyrfaol Rhyngwladol i ystyried eich cynlluniau gyrfa. Mae Sgyrsiau Gyrfaol cyffredinol hefyd ar gael ar ddyddiau'r wythnos, gan roi cyfle i chi drafod eich cynlluniau. Gallwch archebu'r rhain a'r gweithdai trwy ein porth GyrfaoeddABER.

P'un a ydych chi'n cynllunio astudiaethau ôl-raddedig, yn ystyried gwahanol lwybrau gyrfa, neu'n chwilio am brofiad gwaith, rydym yma i helpu myfyrwyr o bob disgyblaeth i symud ymlaen yn hyderus.

Yn ogystal â'r gweithdai a gyflwynir drwy'r rhaglen Dyfodol Rhyngwladol, mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnig ystod o weithdai canolog. 

 I gael rhagor o wybodaeth, gweler Digwyddiadau GyrfaoeddABER.

Awgrymiadau a chyngor defnyddiol

Fel myfyriwr rhyngwladol, dyma rai awgrymiadau a chyngor defnyddiol i gefnogi eich camau cychwynnol i’r farchnad swyddi i raddedigion y DU:

  • I weithio yn y DU, bydd angen Rhif Yswiriant Gwladol arnoch - Sut i gael Rhif Yswiriant Gwladol
  • Hanfodion gwneud cais: Byddwn yn eich cefnogi gyda CV, ceisiadau, a thechnegau cyfweld, fel y gallwch dynnu sylw at eich sgiliau yn hyderus. Mae cyflogwyr yn mynnu meistrolaeth gref ar Saesneg ysgrifenedig, noder na allwn gyflwyno ceisiadau na gwneud cywiriadau uniongyrchol i ramadeg a sillafu. Fodd bynnag, gallwn gynnig adborth

Ydych chi'n bwriadu aros yn y DU ar ôl graddio?

Dysgwch am eich opsiynau fisa - yn enwedig y Fisa i Raddedigion a’r Fisa i Weithwyr Medrus. Am gyngor ar fisa a hawliau gwaith, edrychwch ar UKCISA a thudalennau cymorth y Brifysgol Gwasanaeth Cymorth a Chyngor Fisâu.

Mae dod o hyd i swydd neu leoliad yn cymryd amser - yn aml yn hirach nag y mae myfyrwyr yn ei ddisgwyl. Mae llawer o leoliadau a chynlluniau graddedigion yn cael eu hysbysebu hyd at flwyddyn ymlaen llaw. Hyd yn oed cyn i gyfleoedd agor, dechreuwch ymchwilio i gwmnïau, adnabod cyflogwyr posibl a gwella eich CV.

Ystyriwch adnoddau ar-lein megis Target Jobs a Prospects i ddod o hyd i leoliadau, swyddi i raddedigion, a gwybodaeth gwlad-benodol.

Rhwydweithio

Nid yw dwy ran o dair o’r swyddi gwag i raddedigion yn cael eu hysbysebu, felly mae'n hanfodol bod yn fentrus wrth gysylltu â chyflogwyr. Gall rhwydweithio agor drysau nad oeddech chi'n gwybod eu bod yn bodoli. Rhannwch y math o waith rydych chi'n chwilio amdano gyda theulu, ffrindiau a chysylltiadau - efallai y byddant yn cynnig cyngor, eich cyflwyno i gyfleoedd, neu'n eich cyfeirio at sefydliadau nad ydych wedi'u hystyried. 

Mae LinkedIn yn adnodd ardderchog ar gyfer rhwydweithio ac ymchwilio i gwmnïau/sefydliadau. Mae cynnal proffil proffesiynol ar LinkedIn yn eich galluogi i gyflwyno'ch sgiliau a'ch arbenigedd i ddarpar gyflogwyr.

Gallwch ymweld â'r Cyngor Prydeinig sy'n gweithredu clybiau swyddi mewn llawer o wledydd. Hefyd, mae gan Global Careers Tribe swyddi mewn sawl gwlad, yn ddelfrydol ar gyfer graddedigion sy'n dychwelyd adref ar ôl astudio yn y DU.