AberPreneurs - Troi Syniadau Busnes yn Realiti

Digwyddiadau 2025 

Mae'n wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang! Dewch i ddysgu am...

'Cynllunio eich Busnes' - Dydd Mercher 19 Tachwedd, 1-4yp

Bydd y gweithdy hwn yn dangos i chi sut i ysgrifennu eich cynllun busnes a rhoi trosolwg i chi o'r hyn sydd angen i chi ei wybod cyn dechrau eich busnes neu fenter gymdeithasol.

A…

Sesiynau galw heibio 1:1 i roi cyngor busnes

Gall ein cynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru ateb cwestiynau a rhoi cyngor i chi sydd wedi'i deilwra i'ch anghenion.   

Canolfan Ddelweddu Ystafell 0.06

 

Cymorth i gychwyn busnes yn ABER

Dewis i sgwrsio â’r ‘Tîm Menter’, rydym yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar fyfyrwyr presennol, graddedigion ac eraill i weithio’n llawrydd/hunangyflogedig, cychwyn eu busnes/menter gymdeithasol eu hunain, lansio busnes newydd a allai ehangu’n gyflym neu ddatblygu sgiliau menter hanfodol.  

Rydym yn cynnig digwyddiadau ysbrydoledig, gweithdai datblygu sgiliau, mentora arbenigol, cystadleuaeth fusnes flynyddol i fyfyrwyr, ynghyd â chyngor ac arweiniad drwy ein hapwyntiadau 1:1. 

Gallwch ymuno â'n rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddigwyddiadau Menter, e-bostiwch menter@aber.ac.uk 

 

Oes arnoch chi eisiau gweithio i chi'ch hun?... rydym yn helpu myfyrwyr, graddedigion a staff i ddechrau busnesau newydd:

Rydym yn darparu:

  • Gwybodaeth
  • Cyngor
  • Hyfforddiant
  • Ariannu

 

 

 

Cofiwch:

  • Rydym yn cynnig 'Mentora Busnes' 1:1 am ddim ar-lein/wyneb yn wyneb 

 

Darllenwch ein Hanesion am Lwyddiant yma: Dechreuadau busnesau graddedig

Edrychwch ar y 'Marchnad Myfyrwyr Cymru' - https://walesstudentmarket.co.uk/cy 

 

Dolenni defnyddiol:

 

Mae 'AberPreneurs' yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi menter:

  • Cymorth Dechrau Busnes a Menter
  • Digwyddiadau Menter
  • Sgyrsiau Ysbrydoledig
  • Mentwra un-i-un
  • Cyngor ar Gyllid
  • Rhwydweithio

Cysylltwch â ni:

Os oes gennych chi syniad busnes ac yr hoffech rhywfaint o gyngor cysylltwch â:

menter@aber.ac.uk
01970 622378

Adroddiad Menter yn ABER 2024

(Word)

Effaith Addysg Fenter ym Mhrifysgol Aberystwyth 2024 (PDF)

 

I ddarparu ein ystod llawn o wasanaethau cychwyn busnes i chi, rydym yn cadw ac yn gwneud defnydd o’ch manylion personol ar sail diddordeb cyfiawn.  Gweler ein Gwybodaeth am Ddiogelu Data cyflawn yma - Gwybodaeth am Ddiogelu Data Myfyrwyr a Graddedigion ; Gwybodaeth am Ddiogelu Data Cyflogwyr/Rhyngddeiliad

Mae cymorth menter a dechrau busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gefnogi trwy Cynllun Entrepreneuriaeth Ieuenctid Lywodraeth Cymru fel rhan o ymrwymiad Lywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru.