Ieithoedd Modern
Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?
Bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy i chi y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynnwys profiad o weithio mewn grŵp, arwain, cynllunio, hunan-reoli, a sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog. Trwy gymryd rhan mewn blwyddyn dramor byddwch yn datblygu’ch ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’r gallu i addasu i weithio mewn amgylcheddau newydd. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.
Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?
Mae graddedigion yn dod o hyd i amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys fel dehonglwyr, cyfieithwyr ac athrawon. Mae llawer o raddedigion yn defnyddio’u sgiliau iaith i weithio mewn cwmnïau sy’n gweithredu’n rhyngwladol. Cyflogir graddedigion Iaith gan amrywiaeth eang o gyflogwyr, ar draws nifer o sectorau.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.
Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?
Trwy fynd â’ch profiad gwaith gam ymhellach a chael profiad perthnasol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol, byddwch yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr y sector hwnnw’n chwilio amdanynt. Hefyd, byddwch yn dangos brwdfrydedd, ymrwymiad a diddordeb mawr yn y maes. Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc. Cofiwch fod cymorth ar gael gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.
Mewn rhai achosion, mae’n bosib y cewch fanylion am leoliadau profiad gwaith ond yn fwy aml, bydd rhaid i chi ddefnyddio’r wybodaeth i roi syniadau i chi am geisiadau ar hap. Er enghraifft, cewch swyddi gwag o bosib sy’n berthnasol i’ch pwnc ond sydd ddim yn lleoliadau gwaith; ond, os hoffech gael profiad yn y maes hwnnw, gallech anfon cais ar hap at y cyflogwr i weld a oes posibilrwydd o leoliad gwaith gyda nhw. Gall yr ymgynghorwyr gyrfaoedd eich helpu chi gyda’r broses hon.
Cofiwch fod llawer o gyflogwyr, yn enwedig y cwmnïau mwy o faint, yn cynnwys manylion lleoliadau gwaith ar eu gwefannau. Os hoffech weithio i sefydliadau penodol, edrychwch ar yr adrannau Gyrfaoedd neu Recriwtio ar eu gwefannau i weld beth sydd ar gael.
Yn olaf, cofiwch y bydd llawer o’r dolenni isod yr un mor ddefnyddiol i chi pan fyddwch yn chwilio am swyddi i raddedigion.
DU
(Mae’r safleoedd swyddi yn cynnwys swyddi gwag tramor yn ogystal ag yn y DU)
- Lingua Jobs
 - French Selection (yn cynnwys swyddi ar gyfer siaradwyr Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Rwsieg ac Eidaleg)
 - British Council Language Assistants
 - Euro Placement
 - EF Education First
 - Jobted
 - Lingo24
 - Prospects
 - TargetJobs
 - BrightNetwork
 - GetIntoTeaching
 - RateMyPlacement
 - Jobs.ac.uk (Swyddi mewn Brifysgolion)
 
Tramor
- IAGORA
 - British Council Language Assistants
 - Euro Placement
 - EF Education First
 - Comisiwn Ewropeaidd – swyddi dan hyfforddiant cyffredinol
 - Erasmus+ - astudio dramor a swyddi dan hyfforddiant
 - Graduateland
 - LinkedIn – peiriant chwilio am swyddi i fyfyrwyr/graddedigion
 
Cymdeithasau a chyrff proffesiynol
Mae’r cyrff hyn yn hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau penodol. Mae rhai yn cynnwys rhestrau o gyflogwyr sy’n aelod o’r gymdeithas dan sylw, ac mae’n bosib y byddant yn hysbysebu swyddi. Gall eraill fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer ceisiadau neu os ydych yn ystyried cyflwyno cais ar hap.
- Association of Translating Companies
 - Institute of Translating and Interpreting
 - Chartered Institute of Linguists
 - North West Translators Network
 
Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?
Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i swyddi sy’n ymwneud â’u cwrs gradd, er enghraifft swyddi cynorthwywyr dysgu a chynorthwywyr iaith. Mae eraill wedi defnyddio’r sgiliau iaith a’r sgiliau trosglwyddadwy a enillont ar eu cwrs gradd i gael swyddi mewn rolau megis cyfrifyddu, logisteg, rheoli digwyddiadau a marchnata.
Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan raddedigion ac uwchraddedigion Ieithoedd Modern o Aberystwyth:
- Gweinyddydd
 - Archwilydd Cynorthwyol
 - Swyddog Mewnfudo Cynorthwyol
 - Gweithredydd Datblygu Busnes
 - Cynorthwy-ydd Iaith Comenius
 - Gweithiwr Cymorth Cymunedol
 - Cydlynydd Cynadleddau
 - Cynorthwy-ydd Golygyddol
 - Rheolwr Swyddfa Olygyddol
 - Cynorthwyydd Iaith Saesneg
 - Rheolwr Digwyddiadau
 - Dadansoddwr Gwerthiannau Gweithredol
 - Ymgynghorydd Deddf Rhyddid Gwybodaeth
 - Ymarferydd Theatr mewn Addysg (Llawrydd)
 - Cynorthwy-ydd Graddedig a Thiwtor Tŷ
 - Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Amgylchedd ac Ansawdd (siaradwr Almaeneg)
 - Bancwr Personol Rhyngwladol
 - Rheolwr Logisteg
 - Cydlynydd Marchnata
 - Cynorthwy-ydd Gwybodaeth Rheoli
 - Paragyfreithiwr
 - Darllenydd Proflenni (i gyhoeddwr Almaeneg)
 - Swyddog Ymchwil
 - Cynorthwy-ydd Dysgu Iaith Sbaeneg
 - Dadansoddwr System
 - Athro/Athrawes Saesneg fel Iaith Estron
 - Cyfrifydd dan Hyfforddiant
 - Datblygwr Gwefannau
 
Enghreifftiau o’r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion ieithoedd modern Aberystwyth i weithio iddynt:
- Age Concern
 - BAE Systems
 - Banc Barclays
 - Book People
 - Cyngor Sir Bryste
 - British Airways
 - Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau
 - Asiantaeth Trwyddedau Gyrwyr a Cherbydau
 - Senedd Ewrop
 - Holmer Parks
 - Intercall Europe
 - London School of Economics
 - Madison Farell
 - Y Weinyddiaeth Amddiffyn
 - Opinion Research Services
 - PricewaterhouseCoopers
 - Cymdeithas Adeiladu Principality
 - Reed & Mackay Travel
 
