Ysgoloriaethau AberDoc
Mae Ysgoloriaethau AberDoc yn rhan o gronfa fawreddog ar gyfer Ôl-raddedigion Ymchwil
Mae’r ysgoloriaethau hyn wedi’u teilwra i alluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni eu dewis o yrfa a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu i wella’u sgiliau ymchwil â’u sgiliau trosglwyddadwy.
Mae ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaeth AberDoc ar agor
Cymhwyster
I fod yn gymwys rhaid i chi:
- wedi neu disgwyl derbyn oleiaf ail ddosbarth uchaf gyda anrhydedd yn eich gradd gyntaf
- gwneud cais a chael cynnig lle i astudio doethuriaeth yn Aberystwyth
- rhaid i fyfyrwyr y tu allan i'r DU gyflawni IELTS 7.0, neu gyfwerth (cyn diwedd mis Mawrth 2026 fan bellaf)
- bod yn cychwyn ar eich astudiaeth ddoethuriaeth ym mis Medi 2026 neu fod yn fyfyriwr PhD PA cyfredol.
Dyddiad cau
Os ydych am gael eich ystyried ar gyfer Ysgoloriaeth AberDoc ar gyfer astudiaeth PhD yn dechrau ym mis Medi 2026, rhaid eich bod wedi cyflwyno cais PhD llawn (gan gynnwys cynnig ymchwil) trwy'r Porth Derbyn Ôl-raddedig ar-lein erbyn 5yp 9 Ionawr 2026.
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd PhD newydd gwblhau un o’r ffurflenni sydd ynghlwm hefyd Ffurflen gais AberDoc 2026 - A neu Ffurflen gais AberDoc 2026 - B a’i lwytho i fyny i’ch cais PhD cyn cyflwyno’ch cais ar-lein.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr PhD presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth gwblhau un o’r ffurflenni sydd ynghlwm hefyd Ffurflen gais AberDoc 2026 - A neu Ffurflen gais AberDoc 2026 - B a chyflwyno’r ffurflen wedi’i chwblhau drwy e-bost i pg-admissions@aber.ac.uk erbyn 5yp ddydd Gwener 9 Ionawr 2026.
Nid oes gofyn i fyfyrwyr PhD presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth gyflwyno cais PhD newydd drwy Borth Derbyn Ôl-raddedig ar-lein
