Y ffi dysgu ar gyfer blwyddyn Sylfaen y cyrsiau a ddysgir yn y dosbarth ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 yw £5,760. Codir y ffi israddedig safonol ar bob blwyddyn arall ar y rhaglenni hyn. Gweler rhestr o gynlluniau perthnasol isod:
Cyfrifeg a Chyllid (N40F)
Busnes a Rheolaeth (N12F)
Economeg Busnes (L11F)
Cyllid Busnes (N31F)
Troseddeg (M90F)
Economeg (L10F)
Addysg (X30F)
Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (QW3F)
Hanes (V10F)
Cysylltiadau Rhyngwladol (F42L)
Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes Milwrol (F2VL)
Y Gyfraith (M10F)
Marchnata (N50F)
Cymdeithaseg (L30F)
Bydd lefel y ffi ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen ar bob cynllun arall ar uchafswm lefel ffi'r Llywodraeth ar gyfer graddau Baglor, sydd, yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru, yn debygol o fod yn £9,790 ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2026. Codir y ffi israddedig safonol ar bob blwyddyn ddilynol hefyd, a all y ffi honno newid ar gyfer y blynyddoedd i ddod.