Hunaniaeth a Chenedligrwydd 2024
Mae honiadau ynglŷn â hunaniaeth ac ymlyniad cenedlaethol wedi dod yn nodwedd fwyfwy pwysig mewn dynameg a dadleuon gwleidyddol dros y blynyddoedd diweddar.
Daw’r ysgol haf hon, yn rhedeg dros dair wythnos o 24 Mehefin i 12 Gorffennaf 2024, ag arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau a chefndiroedd ynghyd i edrych yn fwy manwl ar natur honiadau o'r fath a’u goblygiadau i wleidyddiaeth gyfoes. Drwy gyfuniad o sesiynau a addysgir a theithiau maes, mae'r rhaglen yn rhoi cyfle cyffrous i drafod y materion hyn o safbwynt Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol.
Caiff y rhaglen ei chyflwyno gan ein Hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yr adran gyntaf o'i math yn y byd.
Mae'r rhaglen hon yn un sy'n arwain at gredydau. Bydd y myfyrwyr yn cael credyd i'w drosglwyddo i'w sefydliad cartref os byddant yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. Bydd yr elfen academaidd yn golygu cwblhau modiwl 10 o gredydau'r Deyrnas Unedig (3 o gredydau'r Unol Daleithiau) gan gynnwys dyddiadur, cyflwyniad ac aseiniad ysgrifenedig. Bydd y rhaglen yn cynnwys tripiau a theithiau yn ogystal ag amser i ddod i adnabod tref glan môr Aberystwyth, cartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru.