Dysgu o Bell ac Ar-lein

Myfyrwyr dysgu o bell

Mae astudio trwy Ddysgu Ar-lein a Dysgu o Bell yn rhoi'r rhyddid i chi lunio eich dyfodol mewn modd sy'n gweddu i'ch ffordd o fyw.

P'un a ydych chi'n cydbwyso gwaith, teulu, neu ymrwymiadau eraill, mae ein cyrsiau a arweinir gan arbenigwyr a'n dyddiadau dechrau hyblyg yn ei gwneud hi'n haws astudio ble bynnag a phryd bynnag sy’n gweithio orau i chi. Mae'n ffordd hygyrch, ansawdd uchel, o ddatblygu eich sgiliau, datblygu’ch gyrfa, a chyflawni eich amcanion gyda hyder a hyblygrwydd.

Aber Ar-lein

Astudio'n hyblyg ac 100% ar-lein 

O dan ymbarél Aber Ar-lein, rydym wedi datblygu cyfres o gyrsiau ar-lein y gellir eu hastudio yn eich amser eich hun, ochr yn ochr ag ymrwymiadau personol a phroffesiynol. Gyda sawl pwynt mynediad trwy gydol y flwyddyn, ein nod yw gwneud y cyrsiau ansawdd uchel ac effeithiol hyn mor hygyrch â phosibl.

Ewch i'n gwefan bwrpasol i gael manylion am y cyrsiau hyn, dyddiadau cychwyn, cyllid a mwy.

Cyrsiau Busnes:

MBA Busnes (Rheoli’r Cadwyn Gyflenwi)

MBA Busnes (Marchnata)

MBA Rhyngwladol

MBA Rheoli Prosiectau Rhyngwladol

Cyrsiau Cyfrifiadureg:

MSc Cyfrifiadureg a Thechnoleg

MSc Cyfrifiadureg (Peirianneg Meddalwedd)

MSc Cyfrifiadureg (Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol)

Cyfleoedd dysgu o bell eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth:

Mae ein cyrsiau dysgu o bell mewn Bioarloesedd ac Amaethyddiaeth yn caniatáu ichi astudio'n hyblyg wrth feithrin gwybodaeth werthfawr am y diwydiant. Gallwch astudio modiwlau unigol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) neu adeiladu credydau tuag at gymhwyster ôl-raddedig.

Ewch i dudalen Dysgu o Bell IBERS i gael rhestr lawn o'r cyrsiau a gynigir gennym.

Ewch i ibersdl.org.uk/cy/ i gael rhagor o wybodaeth am y dull o gyflwyno’r cyrsiau a manylion am y modiwlau.

Yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth, rydyn ni'n rhoi myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn deall bod llawer o'n dysgwyr o bell yn fyfyrwyr hŷn sy'n rheoli gwaith, gwirfoddoli, teulu, ac ymrwymiadau eraill - felly mae hyblygrwydd wedi'i gynnwys yn ein dull gweithredu.

Mae ein rhaglenni dysgu o bell wedi'u cynllunio gyda 'hyblygrwydd strwythuredig'. Mae hyn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o fewn rhaglen astudio sydd wedi'i strwythuro a'i dilysu'n gadarn. Er enghraifft, gallwch gymryd ychydig o amser i ffwrdd o'r cwrs os bydd amgylchiadau dros dro yn eich atal rhag astudio. Hefyd, nid ydym yn gosod dyddiadau cyflwyno ar gyfer aseiniadau; rydych chi'n gweithio ar eich cyflymder eich hun (nid ein cyflymder ni) gan osod eich amserlen eich hun o fewn amserlen gyffredinol y cwrs.

Ewch i'n tudalen bwrpasol i ddysgu mwy am ein Cyrsiau Dysgu o Bell mewn Astudiaethau Gwybodaeth

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau dysgu o bell Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) byr.

Gweld cyrsiau DPP byr

Mae rhaglenni MBA Gweithredol a Phroffesiynol Ysgol Busnes Aberystwyth wedi'u cynllunio i gyflymu eich dilyniant gyrfa trwy gyfnod o astudio hyblyg a manwl a datblygiad personol.

Mae rhaglenni Meistr Gweithredol Aberystwyth yn cynnwys:

Rheolaeth (EMBA)
Rheolaeth (EMMgt)

Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i arfogi gweithwyr proffesiynol busnes profiadol â'r sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf i gyflwyno newid sylweddol a pharhaol yn eu sefydliadau.