Dysgu o Bell IBERS - Cyrsiau BioArloesedd ac Amaethyddiaeth

Rydym yn cynnig modiwlau annibynnol y gellir eu hastudio ar gyfer Datblygiad Personol Parhaus neu eu defnyddio i adeiladu at gymwysterau uwchraddedig.

I gael rhestr lawn o'n modiwlau a rhagor o fanylion am sut y cânt eu cyflwyno, ewch i ibersdl.org.uk

Hefyd ar gael trwy ddysgu o bell i bobl sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru, mae ein rhaglen BioArloesedd sy'n canolbwyntio ar integreiddio syniadau yn ymwneud â'r Economi Cylchol i'r sector bwyd a'r bioeconomi ehangach.

Ysgoloriaethau Rhyngwladol

Mae ysgoloriaethau rhyngwladol o hyd at 80% ar gael: I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais ewch i ibersdl.org.uk/registration/international-scholarships neu cysylltwch â ni i gael rhagoro o fanylion am y broses ymgeisio.

Dyma'r cyrsiau yr ydym yn eu cynnig drwy ddysgu o bell ar hyn o bryd:

MSc BioInnovation
MRes BioInnovation
MSc Sustainable and Efficient Food Production
MRes Agriculture 
DAg Professional Doctorate in Agriculture
UCert Farm Consultancy and Knowledge Exchange