Beth yw'r amser gorau i ddechrau astudiaeth uwchraddedig?

Mae'r amser gorau i ddilyn gradd ôl-raddedig yn wahanol i bawb, a gall amgylchiadau ariannol unigol bennu hyn. Mae nifer fawr o fyfyrwyr yn parhau â'u hastudiaethau ôl-raddedig yn syth ar ôl graddio, neu o fewn ychydig flynyddoedd. Fodd bynnag, yn gynyddol mae cyflogwyr yn cydnabod manteision hyfforddiant ôl-raddedig, i'r cwmni ac i'r unigolyn, ac yn cefnogi eu gweithwyr yn y maes hwn. Efallai y byddwch, felly, yn ystyried dilyn gradd ôl-raddedig ran-amser, neu astudio trwy Ddysgu o Bell, tra byddwch yn gweithio, fel datblygiad proffesiynol. Mae gradd ôl-raddedig hefyd yn gymhwyster defnyddiol os ydych yn ystyried llwybr gyrfa newydd.