Dewis Ffordd o Fyw

Cynllun Beicio

Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno cynllun seiclo i’r gwaith mewn cydweithrediad â  Cyclescheme. Trwy’r cynllun gallwch brydlesu beic drwy’r Brifysgol am gyfnod o 12 mis neu 18 mis (cyfanswm gwerth y beic a’r cyfarpar diogelwch yw £3,500). Yna, ar ddiwedd y cyfnod llogi, cewch ddewis prynu’r beic pe dymunech. Byddai’r gost fel rheol yn 5% o’r gost wreiddiol.

Rhannu Car

Yn rhan o’i chyfrifoldeb amgylcheddol, mae’r Brifysgol yn annog ei staff i ddefnyddio mentrau sy’n ystyriol o’r amgylchedd, megis rhannu ceir, sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r wefan rhannu ceir ‘rhannucarcc.com’ yn rhoi gwybodaeth ynghylch canfod rhywun sydd â char a allai fod yn mynd yr un ffordd â chi, neu rannu cost y cludiant.

Cynaladwyedd Amgylcheddol

Ceir gwefan cynaladwyedd amgylcheddol newydd sy’n rhoi gwybodaeth a dolenni i weithgareddau PA. Mae’r safle yn cynnwys sut y gallwch wneud eich rhan a dolenni i ymchwil a mentrau amgylcheddol adrannol yn PA. Ceir hefyd ddolenni i wefan ‘Gofal ‘da’r Gwastraff’ yr Adran Ystadau, a grëwyd yn rhan o ymgyrch gyfathrebu i leihau defnydd o ynni a dwr. Mae manylion y trefniadau gwastraff ac ailgylchu a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gwastraff ac Ailgylchu y Gwasanaethau Ty.

Gweithio’n Hyblyg

Mae gan PA amrywiaeth o bolisïau i alluogi aelodau o staff i fwynhau gwell cydbwysedd rhwng anghenion gwaith ac anghenion personol, e.e. ac amrywiaeth o bolisïau Absenoldeb, e.e. , , a’r Polisi Absenoldeb Arbennig. Mae’r polisïau hyn a’r ffurflenni ar eu cyfer ar gael ar y tudalennau Telerau ac Amodau ar y wefan AD.