Cynllun Seiclo

Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno cynllun seiclo i’r gwaith mewn cydweithrediad â  Cyclescheme. Trwy’r cynllun gallwch brydlesu beic drwy’r Brifysgol am gyfnod o 12 mis neu 18 mis (cyfanswm gwerth y beic a’r cyfarpar diogelwch yw £3,500). Yna, ar ddiwedd y cyfnod llogi, cewch ddewis prynu’r beic pe dymunech. Byddai’r gost fel rheol yn 5% o’r gost wreiddiol.

Bydd cost y brydles yn cael ei thynnu o’ch cyflog gros felly byddwch yn osgoi talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Wrth reswm, bydd yr union swm yn dibynnu ar y cyfraddau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol sy’n berthnasol i chi. (Dylech gofio na fydd hyn yn cael effaith andwyol ar sefyllfa’ch pensiwn gan fod Cynllun Pensiwn y Prifysgolion a chynllun y Brifysgol yn caniatáu’r gweithiwr a’r cyflogwr i barhau i dalu cyfraniadau pensiwn ar y cyflog nad yw wedi gostwng felly nid yw’n effeithio ar y cyflog pensiynadwy).

Pe hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i http://www.cyclescheme.co.uk/4e1d37 . Mae’r wefan hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y ffordd y mae’r cynllun yn gweithio ac mae ganddi hefyd fodelydd ar gyfer amcangyfrif cost prydlesu’r beic. (Cofiwch ychwanegu cost y taliad terfynol i brynu’r beic ar ddiwedd y cynllun). Ar y wefan hon, gallwch wneud cais am daleb i’w ddefnyddio i brynu’r beic o un o’r siopau sy’n bartneriaid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, cysylltwch â Jean Glenni yn yr Adran Adnoddau Dynol drwy e-bostio: cyclescheme@aber.ac.uk, neu ffoniwch estyniad (62) 2032.

NODER: Bydd Adnoddau Dynol yn ymdrechu i awdurdodi (neu wrthod) eich cais o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad y byddwn yn cael eich cais electronig/ar-lein am docyn Cyclescheme. Byddwch wedyn yn cael neges gan “Cyclescheme” yn rhoi gwybod i chi a yw eich cais yn llwyddiannus, ac yna bydd Adnoddau Dynol yn cysylltu â chi yn fuan wedi hynny i gasglu eich tocyn. Cofiwch fod y broses hon yn gallu cymryd hyd at 3-4 wythnos i’w chwblhau’n llawn.