Cwrdd â'r Myfyrwyr

Abigail Stubbs

Astudiodd Abigail Stubbs BA Scenography and Theatre Design & Drama and Theatre Studies yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Blwyddyn 1

  • TP10120 Studying Theatre 1
  • TP10320 Text Workshop
  • TP10420 Scenography Workshop
  • TP10220 Studying Theatre 2
  • TP10640 Production Project 

Blwyddyn 2

  • TP21820 Directing Text
  • TP22320 Principles Of Scenography
  • TP22520 Scenographic Composition
  • TP30120 Analysing Performance
  • TP34940 Advanced Production Project  

Blwyddyn 3

  • TP34200 Applied Theatre Project
  • TP35520 Independent Production Project
  • TP35820 Advanced Scenographic Project
  • TP33320 Documenting Performance
  • TP33420 Performance And Architecture
  • TP34240 Applied Theatre Project 

Gofynnon ni wth Abi, "Beth oedd y peth gorau iddi wneud ar ei chwrs gradd?"

Yn fy ail flwyddyn, perfformiais ddarn o theatr gorfforol fel rhan o fodiwl Cynhyrchu Uwch. Roedd y profiad yn gymorth enfawr oherwydd i’r hyfforddiant fy nysgu sut i gyrraedd fy mhotensial fel actor fel bod modd i mi feddiannu’r foment yn ei gyfanrwydd a darbwyllo cynulleidfa o rym ac ynni fy mhresenoldeb corfforol. Llwyfannwyd y cynhyrchiad am ddwy noson yn un o ofodau stiwdio’r adran i gynulleidfa fyw ac amrywiol ac fe’i hysbysebwyd fel rhan o raglen Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Roedd y profiad at ei gilydd yn hynod gadarnhaol ac mae wedi dysgu i mi sut i wylio a dehongli theatr gorfforol trwy gyfrwng profiad personol, uniongyrchol o’r dulliau a’r fethodoleg ar gyfer creu’r math yma o waith.

Ashley Evans

Astudiodd Ashley Rhys Evans BA Cymraeg / Ffilm a Theledu gydag Adran y Gymraeg a’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Blwyddyn 1

  • CY10110 - Themâu a Ffigurau Llên C.550-1900
  • CY10300 - Cymraeg Ddoe a Heddiw 1 (Iaith Gyntaf)
  • CY10400 - Seminarau Iaith a Llên (Iaith Gyntaf)
  • CY12510 - Cymraeg Llyfr a Llafar 1
  • TC10200 - Astudio Ffilm a’r Cyfryngau
  • TC10420 - Gweithdy Cynhyrchu Cyfryngau
  • CY10210 - Beirdd a Llenorion o 1900 hyd Heddiw
  • CY10310 - Cymraeg Ddoe a Heddiw 1 (Iaith Gyntaf)
  • CY10410 - Seminarau Iaith a Llên (Iaith Gyntaf)
  • CY12610 - Cymraeg Llyfr a Llafar 2
  • TC10220 - Astudio Ffilm a’r Cyfryngau
  • TC10720 - Prosiect Cynhyrchu (Cyfryngau) 

Blwyddyn 2

  • CY20100 - Gloywi Iaith
  • CY35320 - Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif, 1900-79
  • TC26520 - Cynhyrchu Teledu 1
  • TC30100 - Dadansoddi a Damcaniaethau Cynhyrchiad
  • CY20120 - Gloywi Iaith
  • CY35420 - Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79
  • TC25420 - Cynhyrchu Teledu 2
  • TC30120 - Dadansoddi a Damcaniaethau Cynhyrchiad 

Blwyddyn 3

  • CY35020 - Y Gymraeg: Iaith Dysg ac Iaith Cymdeithas
  • CY35600 - Y Gymraeg yn y Gweithle
  • TC33300 - Ymarfer Creadigol Annibynnol
  • TC36620 - Cynhyrchu Stiwdio
  • CY35620 - Y Gymraeg yn y Gweithle
  • TC33340 - Ymarfer Creadigol Annibynnol
  • TC35620 - Cynhyrchu Amlblatfform

Gofynnon ni wrth Ashley, 'Beth oedd y peth gorau iddo wneud ar ei gwrs gradd?'

Y peth gorau wnes i oedd dewis amrywiaeth o wahanol fodiwlau i’w astudio. Yn hytrach na ffocysu ar naill ai agweddau ymarferol neu agweddau theoretig, mwy academaidd, dewisais i gymysgedd o’r modiwlau hyn ac roedd y sgiliau a ddysgais ar y naill law yn gymorth i’m gwaith ar y llaw arall. O ganlyniad, roedd bob dydd o’m gyrfa prifysgol yn wahanol ac yn gyffrous.

Heledd Jones

Astudiodd Heledd Jones BA mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu yn yr adran Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Blwyddyn 1

  • CY12510 Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar I
  • FM10620 Studying Media
  • TC10200 Astudio Ffilm a'r Cyfryngau
  • TC10420 Gweithdy Cynhyrchu Cyfryngau
  • CY12610 Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar Ii
  • FM10720 Studying Communication
  • TC10220 Astudio Ffilm a'r Cyfryngau
  • TC10720 Prosiect Cynhyrchu (Cyfryngau) 

Blwyddyn 2

(Gan gynnwys semester tramor ym Mhrifysgol Bowling Green, Y Unol Daleithiau)

  • TCOM 3520 - Online Social Media
  • TCOM 3640 - Video Field Production, editing and online distribution 
  • TCOM 2610 - Interactive Tv and Video Production
  • TCOM 2560 - Film II: Edit / Image / Sound
  • TC22620 Iaith A Chyfryngau
  • TC23420 Lleoliad Ymchwil Cynhyrchu Cyfryngau
  • TC25420 Cynhyrchu Teledu 2 

Blwyddyn 3

  • TC32520 Ffilmiau Dogfen
  • TC32920 Darlledu a'r Genedl
  • TC33300 Ymarfer Creadigol Annibynnol (Cyfryngau)
  • TC35620 Cynhyrchu Amlblatfform
  • TC36820 Ffilmiau Hollywood
  • TC33340 Ymarfer Creadigol Annibynnol (Cyfryngau) 

Gofynnon ni wth Heledd, 'Beth oedd y peth gorau iddi wneud ar ei chwrs gradd?'

Roedd hi’n gyfareddol cael mewnwelediad breintiedig i fyd y rhaglen, eu setiau, lleoliadau ffilmio, cast, criw, sgriptio a’u prosesau cynhyrchu a chyfarwyddo. Roedd y profiad yn wych o safbwynt cyflogadwyedd ac fe’m hysbrydolwyd i baratoi ar gyfer y byd gwaith y tu hwnt i’m cyfnod yn y Brifysgol.

Kris Jones

Astudiodd Kris Rhys Jones Performance Studies & Drama and Theatre Studies,fel gradd gyfyng yn Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Blwyddyn 1

  • TP10320 Text Workshop
  • TP10520 Performance Workshop
  • TP10120 Studying Theatre 01
  • TP10220 Studying Theatre 02
  • TP10640 Production Project

Blwyddyn 2

  • TP21020 Acting Dramatic Text
  • TP21220 Directing Dramatic Text
  • TP21820 Contemporary European Theatre
  • TP30120 Analysing Performance
  • TP34940 Advanced Production Project

Blwyddyn 3

  • FM35920 Twentieth Century Experiments in Film and Theatre
  • TP35520 Independent Production Project
  • TP34600 Playwriting (1)
  • TP33120 Theatre, Sex and Gender
  • TP35120 Solo Production Project
  • TP34640 Playwriting (2)

Gofynnon ni wrth Kris, 'Beth oedd y peth gorau iddo wneud ar ei gwrs gradd?'

Y peth gorau a wneuthum yn y Brifysgol oedd cadw meddwl agored mewn perthynas â’m cynllun gradd ac mae hynny wedi caniatáu i mi fentro i lefydd na fuaswn byth wedi eu cyrraedd fel arall. Mae fy ngradd wedi bod yn daith ac yn fenter ac rwyf wedi datblygu a thyfu fel unigolyn yn academaidd ac mewn cymaint o ffyrdd eraill hefyd.

Rami Abukalam

Astudiodd Rami Abukalam BA mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu yn yr adran Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Blwyddyn 1

  • FM10120 Studying Filk
  • FM10420 Media Production Workshop (1) 
  • FM10620 Studying Media
  • FM10220 Studying Television 
  • FM10340 Media Production Project

Blwyddyn 2

  • FM26520 Television Production 1
  • FM21920 Advertising
  • FM20300 Production Research Placement
  • FM24420 Case Studies in Contemporary Art Cinema
  • FM25420 Television Production 2
  • FM20320 Production Research Placement

Blwyddyn 3

  • FM33500 Experimental Media Production
  • FM33700 Documentary Production 
  • FM34520 Experimental Cinema
  • FM32920 Film Authorship
  • FM33540 Experimental Media Production 2
  • FM33740 Documentary Production 

Gofynnon ni wrth Rami, 'Beth oedd y peth gorau iddo wneud ar ei gwrs gradd?'

Mae yna lond llaw o bethau a oedd yn unigryw i mi yng nghyd-destun fy nghynllun gradd. Y cyntaf oedd ymroddiad a gwybodaeth y staff oedd yn dysgu’r pynciau ac agweddau theoretig ar y ddarpariaeth. Mae darlithwyr mor frwdfrydig am eu pynciau a’u meysydd arbenigol ac maent yn dysgu’r deunydd mewn modd mor egnïol nad oes modd i chi beidio ag ymddiddori; roedd hyn yn gaffaeliad mawr i mi wrth fwrw ati gyda’r gwaith ymarferol.

Yr ail beth oedd modiwl arbennig yn yr ail flwyddyn sef y modiwl lleoliad ymchwil. Does yr un agwedd arall ar y radd wedi bod gymaint o fudd mewn perthynas â’m gyrfa fel gwneuthurwr ffilmiau. Fe’m dysgwyd nid yn unig sut i ddatblygu CV a llythyrau cais ond fe’m galluogwyd i gwblhau lleoliad gwaith a chael profiad uniongyrchol o’r diwydiant. Roedd y modiwl hefyd yn darparu degau o ddarlithoedd gan unigolion a chwmnïau yn y diwydiant – heb os nac oni bai'r agwedd fwyaf ymarferol werthfawr ar y cynllun gradd.