Ymchwil
Wedi'i lleoli'n gadarn yng Nghymru, mae gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu broffil ryngwladol ar draws pob un o'i disgyblaethau ansoddol. Rydym yn amlygu ymchwil ac astudiaethau o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ym maes theatr, ffilm, perfformio a'r cyfryngau, a hynny o fewn amgylchedd diwylliannol sy'n gweithredu ar lefel fyd-eang.
Mae ymchwil ym maes Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn rhoi sylw i'r astudiaeth o theatr, ffilm, perfformio a’r cyfryngau o fewn cyd-destunau diwylliannol sy'n amlygu'r hanesyddol, y daearyddol a'r gwleidyddol. Mae’n pwysleisio arloesi ffurfiol, datblygiadau technolegol ac ymholiadau rhyngddisgyblaethol.
Rydym yn ddramodwyr, perfformwyr, cyfarwyddwyr theatr, senograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, curaduron, cyfathrebwyr y cyfryngau ac academyddion sy'n gweithio mewn byd lle mae theori ac ymarfer yn cwrdd. Rydyn ni'n cydweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol ar amrywiaeth o brosiectau creadigol cyffrous.



