Themâu a Phrosiectau Ymchwil

llun o ffilm

Gweler isod wybodaeth ynglŷn â themâu a phrosiectau Ymchwil yr Adran.

Mae ein staff yn cymryd rhan mewn ystod eang o feysydd ymchwil, gan gynnwys perfformio safle-benodol; perfformio a’r gymdeithas wledig; senograffeg perthynol a’r beunyddiol; gofod; lle a thirlun mewn ffilm a theledu Cymreig; theatr a pherfformiadau Cymraeg; hanes darlledu; y cyfryngau a chymdeithas yng Nghymru; y cyfryngau, perfformio a chwaraeon; perfformio a phensaernïaeth; dawns ac anabledd; ysgrifennu dramâu; theatr a'r cyfryngau newydd; estheteg teledu cyfoes a diwylliant cyfogwydd; estheteg ffilm arbrofol cyfoes; ecoleg a materolrwydd newydd. Rydym yn cydweithio ag artisitiad, cwmnïau theatr, gwyliau ffilmiau a'r celfyddydau, cwmnïau cynhyrchu, sefydliadau amgylcheddol, archifau, darlledwyr a gwneuthurwyr polisi.

Fideo Cerddorol

Fideo Cerddorol

Oes gennych chi syniad ar gyfer fideo cerddorol? Gwnewch gais i’n Cronfa Arloesi Fideos Cerddorol! 

  • Cyllideb hyd at £1000
  • Cyfle i gael mentora gan Orchard (cynhyrchwyr Lŵp a Curadur ar gyfer S4C)
  • Mynediad i offer technegol a gofod stiwdio (ym Mhrifysgol Aberystwyth)

Dyddiad cau: Canol nos 4ydd o Fehefin 2023 

 Mae’r gronfa ar agor i geisiadau gan artistiaid, cerddorion, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr. 

Ymgeisiwch yma

Am wybodaeth bellach neu i drafod eich cais cysylltwch â Kate Woodward a Greg Bevan: fideos.cymru@aber.ac.uk 

Cefndir 

Mae Fideos Cerddorol yn brosiect ymchwil dan arweiniadau Dr Kate Woodward a Dr Greg Bevan sy’n edrych ar orffennol, presennol a dyfodol y fideo cerddorol Gymraeg, Fel rhan o’r prosiect rydym yn lansio’r Gronfa Arloesi Fideos Cerddorol, sy’n gwahodd artistiaid, cerddorion a chyfarwyddwyr i ymgeisio am hyd at £1000 i gynhyrchu fideo cerddorol Newydd sbon, Mae’r gronfa yn agored i bawb ac anogir ceisiadau gan artistiaid, cerddorion, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr newydd. Nod y gronfa yn cydnabod creadigrwydd ac arloesedd y fideo cerddorol Gymraeg fel ffurf gelfyddydol a chefnogir y fenter gan Orchard sy’n cyfrannu at Lŵp a Curadur ar S4C. Fe fydd ymgeiswyr llwyddiannus yn medru gwneud defnydd o offer, gofodau stiwdio ac ôl gynhyrchu Prifysgol Aberystwyth. Cefnogir y Gronfa Arloesi Fideos Cerddorol gan RWIF (Research Wales Innovation Fund).