Y milfeddygon cyntaf a hyfforddwyd yng Nghymru yn dathlu ennill eu cymhwyster mewn seremoni yn Aberystwyth

Staff a myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Aberystwyth yn y digwyddiad dathlu. Llun gan Carys Huntly, Stiwdio Carys
23 Mehefin 2026
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dathlu wrth i’w myfyrwyr milfeddygol cyntaf erioed gwblhau eu hastudiaethau a chymhwyso i ymuno â’r proffesiwn.
Mewn seremoni o flaen tua chant o wahoddedigion, dathlwyd llwyddiant y 23 o fyfyrwyr sydd wedi cwblhau rhaglen y radd Baglor mewn Gwyddor Milfeddygol.
Ei Mawrhydi y Brenin Siarl III a agorodd Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Aberystwyth yn swyddogol yn 2021, a hi yw'r gyntaf o'i math, a'r unig ysgol filfeddygol, yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd i ymateb i’r galw cynyddol am weithwyr milfeddygol, yn enwedig mewn ymarfer milfeddygol cymysg yng nghefn gwlad.
Mae’r myfyrwyr milfeddygaeth yn treulio'r ddwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n cynnwys y cyfle i astudio elfennau o filfeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n cael cefnogaeth ariannol yn rhannol drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Wedyn maent yn cwblhau tair blynedd olaf eu hyfforddiant ar Gampws Hawkshead y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn Swydd Hertford.
Mae'r bartneriaeth yn cyfuno rhagoriaeth academaidd ag arbenigedd clinigol yn y ddau sefydliad, sy’n darparu holl ystod hyfforddiant milfeddygol i’r myfyrwyr, yn amrywio o wartheg ac anifeiliaid fferm i anifeiliaid anwes a cheffylau, o ymarfer clinigol i’r maes diwydiannol, yn pontio iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd.
Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol:
“Am ddiwrnod bythgofiadwy i'n holl fyfyrwyr, y staff a’n partneriaid. Wrth i’n carfan gyntaf oll o’n graddedigion milfeddygol gychwyn yn y proffesiwn, mae’n garreg filltir arwyddocaol i Brifysgol Aberystwyth ac i bawb sydd wedi chwarae rhan wrth sefydlu Ysgol y Gwyddorau Milfeddygol yma.
“Trwy hyfforddi milfeddygon yng nghyd-destun Cymru—gan ganolbwyntio’n gryf ar iechyd da byw, cynaliadwyedd ac ymarfer gwledig—rydym yn helpu i ddatrys prinder y gweithwyr ac i wella gwydnwch y sector amaethyddol.
“Arloeswyr yw’r myfyrwyr cyntaf hyn—y milfeddygon cyntaf a hyfforddwyd yng Nghymru—a byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi iechyd anifeiliaid, cyflenwadau bwyd a'r economi wledig. Bydd eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u hymroddiad yn gwneud gwahaniaeth go iawn drwy Gymru a’r tu hwnt.”
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine, a oedd yn bresennol yn y seremoni:
“Roedd yn anrhydedd cael dathlu llwyddiant sylweddol y garfan gyntaf hon o fyfyrwyr milfeddygol wrth iddyn nhw gymhwyso. Ac, yn yr un modd, cydnabod yn glir y garreg filltir bwysig hon i Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Prifysgol Aberystwyth, a’i phartneriaid, sy’n helpu i ategu sectorau iechyd anifeiliaid ac amaeth Cymru.
“Heddiw mae’r myfyrwyr hyn wedi creu hanes – cyflawniad y gallent ymfalchïo ynddo – a dymunaf bob hwyl iddynt yn y dyfodol wrth iddynt gymryd y camau nesaf ar daith gyffrous. Pob lwc!”
Ychwanegodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Anrhydedd oedd cael ymuno â’r dathliad arbennig. Y myfyrwyr hyn yw llysgenhadon cyntaf Ysgol Gwyddorau Milfeddygol gyntaf Cymru – rydym yn eithriadol o falch ohonynt. Maent wedi chwarae rhan hanfodol wrth ffurfio hunaniaeth, ysbryd a diwylliant ein hysgol newydd uchelgeisiol. Fel arloeswyr, roeddent yn ddewr ac yn chwilfrydig wrth gyrraedd. Nawr maent yn gadael â gwybodaeth, gwytnwch, ac ymdeimlad o fwriad pendant - yn barod i wneud eu marc ar y proffesiwn ac ar y byd y tu hwnt.
“Diolchaf yn ddiffuant i'n staff academaidd a’n gwasanaethau proffesiynol a ddaeth ein rhaglenni gwyddorau milfeddygol yn fyw. Eu hymroddiad, eu creadigrwydd a'u gwaith caled nhw sydd wedi gwneud y diwrnod hwn yn bosib. Maent wedi meithrin talent, ffurfio amgylchedd dysgu bywiog a chefnogol, a chynnal y safonau uchaf o ran dysgu, gofal a mentora.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar i'n partner—y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol—ac i'r clinigwyr, darparwyr y lleoliadau gwaith, a'r gymuned filfeddygol ehangach. Mae eu haelioni nhw wrth rannu eu harbenigedd yn amhrisiadwy; maent wedi arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau ymarferol a'r profiad yn y byd go iawn a fydd yn sail i'w gyrfaoedd yn y dyfodol.”