Graddio

Ydych chi’n dod i Aberystwyth eleni i ddathlu eich llwyddiant graddio eich hun, neu aelod o’r teulu neu ffrind?
Pam na ddewch chi i aros gyda ni ar y campws yn un o’n neuaddau a mwynhau popeth sydd gan y brifysgol i’w gynnig? Gallwch hyd yn oed ddod am wyliau byr a darganfod arfordir gwych Ceredigion, mynyddoedd y Cambrian a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Gallwch ddewis rhwng ystafell sengl safonol mewn fflat wedi ei rannu yng Nghwrt Mawr, neu ensuite Rosser.
Fferm Penglais Stiwdio. Mae'r stwidios helaeth hyn ar gyfer un unigolyn yn hollol hunangynhwysol, yn cynnwys ystafell wely, ystafell gawod, a chegin gydag ardal fwyta, ar gyfer un neu dau berson
Neu pam na wnewch chi ddewis cael defnydd personol o un o’r fflatiau hunan-arlwyo o’r radd flaenaf ar Fferm Penglais – 6 neu 8 ystafell wely ar gael gofynnol 3 noson.
Defnyddiwch ein Ffurflen Archebu Fferm PenglaisFfurflen Archebu Fferm Penglais i archebu fflatiau cyfan yn Fferm Penglais, neu cliciwch ar y ddolen isod i archebu lle fel unigolyn.
Cwrt Mawr, Rosser a Fferm Penglais Stiwdios - Archebwch Nawr