Rhestr Wirio ‘Cyrraedd’
Mae'r rhestr wirio hon yn cwmpasu'r camau hanfodol i'w cymryd pan fyddwch chi'n cyrraedd y Brifysgol, ynghyd ag awgrymiadau a chyfleoedd defnyddiol i'ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich wythnos gyntaf ac ymgartrefu i fywyd myfyriwr.
Casglu eich allwedd
Pan fyddwch yn cyrraedd Aberystwyth, os ydych yn Neuaddau’r Brifysgol, bydd modd i chi gasglu’r allwedd i’ch llety yn eich man cyrraedd dynodedig. Bydd eich dyddiad ac amser symud i mewn penodol yn dibynnu ar eich llety, a'r slot y gwnaethoch ei archebu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r canllawiau cyn teithio.
Symud i mewnCysylltu â Wi-Fi ar y campws
Pan fyddwch ar y campws, gallwch gysylltu ag eduroam, rhwydwaith diwifr y Brifysgol, sydd ar gael ledled y campws a’r neuaddau preswyl. Bydd angen eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth arnoch.
Sut i gysylltu â Wi-Fi'r CampwsCwblhau eich Cofrestriad ar y Cwrs
Mae Cofrestru Ar-lein yn gam hanfodol wrth ymuno â Phrifysgol Aberystwyth. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau'r dasg Cofrestru Ar-lein trwy eu Cofnod Myfyriwr cyn y gallant gael eu cofrestru'n ffurfiol a defnyddio gwasanaethau megis amserlenni, cyllid myfyrwyr, a systemau’r brifysgol.
Cwblhau eich Cofrestriad ar y CwrsCofrestru gyda Meddyg Teulu
Rhaid i fyfyrwyr sy'n byw yn Aberystwyth gofrestru â meddygfa leol. Mae'r broses yn syml a gellir ei chwblhau ar-lein.
Cofrestru gyda Meddyg Teulu
Ymuno yn y Digwyddiadau ac yng Ngweithgareddau’r Wythnos Groeso
Dros yr wythnos nesaf bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i chi gymryd rhan ynddynt. P'un a ydych chi'n chwilio am rywbeth hwyliog, defnyddiol, neu'r ddau, bydd digwyddiadau addas i chi.
Beth sydd ymlaen?Mynychu’r Sesiynau Sul
Mae'n bwysig eich bod yn mynychu un o'n Sesiynau Sul. Mae'r sesiynau hyn yn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr newydd a fydd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y brifysgol.
Mynychu’r Sesiynau Sul
Dod i adnabod y Campws
Cymerwch ran yn ein taith ryngweithiol, hunan-dywysedig, o amgylch y campws. Trwy ein Her Campws digidol, gallwch ddod i adnabod eich cartref newydd ychydig yn well.
Her y Campws
Dod i adnabod y Mannau Addysgu
Cyn i'r addysgu ddechrau, cymerwch ychydig o amser i ymgyfarwyddo â mannau addysgu'r Brifysgol. Cynhelir llawer o'ch dosbarthiadau yn ein hystafelloedd addysgu canolog, felly gall gwybod ble maen nhw eich helpu i deimlo'n fwy hyderus ac yn barod ar gyfer eich wythnos gyntaf.
Gallwch weld yr adeiladau a'r ystafelloedd addysgu ymaCyfarfod â'ch adran
I ddysgu mwy am eich adran, a'ch cwrs, bydd angen i chi fynychu eich rhaglen Gynefino Academaidd. Bydd eich adran hefyd yn cynnal ystod o weithgareddau eraill dros y cyfnod croeso.
Ymgartrefu yn eich AdranCwblhau'r Hyfforddiant Caniatâd Ar-lein
Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym wedi ymrwymo i wneud ein campws yn lle mwy diogel, gan ddangos ‘dim goddefgarwch’ tuag at aflonyddu, troseddau casineb, cam-drin ac ymddygiad gwyliedydd. Drwy gwblhau ein hyfforddiant Caniatâd Ar-lein rydych chi'n ein helpu i gadw Aberystwyth yn Ddiogel.
Mynediad at yr Hyfforddiant Caniatâd Ar-lein