Ystafelloedd Astudio Unigol (Carelau) - Llyfrgell Hugh Owen

Mae nifer o ystafelloedd astudio ar Lefel F yn Llyfrgell Hugh Owen sydd ar gael ar gyfer astudio tawel unigol.

Mae'r ystafelloedd hyn:

  • yn rhad ac am ddim i'w defnyddio
  • gyda chyfrifiadur neu hwb monitor ynddynt
  • gyda wifi
  • yn addas ar gyfer defnydd unigol yn unig
  • yn addas ar gyfer astudio tawel yn unig gan nad yw'r ystafelloedd yn wrthsain
  • gellir eu rhagarchebu am hyd at 4 awr

Gallwch weld argaeledd ystafelloedd ac archebu trwy'r dudalen hon:

https://myaccount.aber.ac.uk/protected/o365bookablerooms/

Ni allwch archebu ystafell benodol. Mae ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y rhai cyntaf sydd ar gael ar gyfer yr amser archebu.

Anfonir gwahoddiad calendr atoch a bydd eich gwybodaeth archebu i'w weld ar y sgrin tu allan i'r drws.

Os nad ydych wedi rhag-archebu ac mae'r ystafell yn wag gellir clicio ar Gyfarfod nawr i archebu ar unwaith

Gwelir lleoliadau ystafelloedd Cynllun Llawr F - Llyfrgell Hugh Owen   

Wrth ddefnyddio'r ystafelloedd hyn, gofynnir i chi arsylwi'r canlynol:

  • Polisi Bwyd a Diod y GG
  • Astudio tawel yn unig. Nid yw'r ystafelloedd  yn wrthsain felly nid ydynt yn addas ar gyfer cymrid rhan mewn sesiynau dysgu ar-lein neu gyfarfodydd
  • Ni chaniateir dyfeisiau trydanol (ar wahân i liniaduron)
  • Os ydych chi'n defnyddio clustffonau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu clywed y larwm tân
  • Gadewch yr ystafell yn brydlon
  • Gadewch yr ystafell yn lân ac yn daclus a gwaredwch bob eitem gan gynnwys sbwriel ar ddiwedd eich bwciad

Eich Diogelwch

I amddiffyn eich hun ac eraill gofynnwn i chi:

  • Defnyddio hylif glanweithiol cyn dod i mewn, ac yn rheolaidd wrth ddefnyddio'r Llyfrgell.
  • Defnyddio'ch Cerdyn Aber eich hun i gael mynediad i mewn ac allan o'r llyfrgell.
  • Peidio â dod i’r Llyfrgell os ydych chi'n sâl.

Byddwn yn sicrhau:

  • Bod staff sydd yn gweithio yn y Llyfrgell yn dilyn arferion hylendid a argymhellir.
  • Bod glanhau rheolaidd yn cael eu gwneud.
  • Bod gorsaf diheintio dwylo ar gael wrth y fynedfa
  • Bod cadachau diheintio ar gael i chi sychu arwynebau yn ôl yr angen