Benthyciadau Offer
Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ystod o offer sydd ar gael i'w benthyg am dymor byr.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i Staff a Myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth i gefnogi amcanion academaidd y Brifysgol.
Benthyca offer - telerau defnyddio
Mae benthyca a defnyddio stoc offer benthyg yn unol â rheoliadau a chanllawiau'r Gwasanaethau Gwybodaeth
- Mae’n rhaid bod gennych gyfrif llyfrgell PA cyfredol a Cherdyn Aber.
- Mae'r offer i'w ddefnyddio at ddibenion Prifysgol Aberystwyth yn unig.
- Mae'r benthyciwr yn gyfrifol am unrhyw offer a gollwyd neu a ddifrodwyd.
- Mae pob eitem yn cael ei gwirio pan ddychwelir ac anfonebir defnyddwyr y gost o atgyweirio neu amnewid unrhyw eitemau a gollwyd neu a ddifrodwyd.
- Fel rheol cewch fenthyg offer am tair diwrnod; os ydych chi angen yr offer am fwy o amser gallai hyn fod yn bosibl, yn amodol ar argaeledd; gofynnwch pan fyddwch yn archebu.
- Bydd yr eitem yn adnewyddu os nad oes defnyddiwr arall wedi gofyn amdano - hyd y cyfnod benthycaf hiraf o bedair wythnos yn unig.
- Rhaid i chi ddychwelyd eitemau a fenthycwyd cyn gynted ag y maent yn ddyledus neu pan ofynnir ichi i wneud hynny gan Staff y Gwasanaethau Gwybodaeth.
Noder
- Rhaid casglu'r offer o Lyfrgell Hugh Owen.
- O ganlyniad i’r galw mawr am yr offer rydym yn argymell eich bod bob amser yn archebu’r offer o flaen llaw. I archebu anfonwch e-bost at gg@aber.ac.uk
- Batris - bydd batris a gwefrydd yn cael eu cyflenwi ar gyfer unrhyw offer sydd angen batris y gellir eu hailwefru. Noder efallai na fydd y batris wedi’u gwefru’n llawn pan fyddwch yn casglu’r offer. Os nad oes modd rhedeg yr offer ar fatris y gellir eu hailwefru, bydd rhaid i’r defnyddiwr gyflenwi eu batris eu hunain.
- Gallwch weld unrhyw geisiadau yr ydych wedi eu gwneud am offer trwy fewngofnodi i Primo a dilyn y cyfarwyddiadau hyn
- Gallwch ddileu unrhyw geisiadau yr ydych wedi ei gwneud am offer trwy fewngofnodi i Primo a dilyn y cyfarwyddiadau hyn
- Gallwch weld dyddiad dychwelyd eich benthyciadau offer trwy fewngofnodi i Primo gan ddilyn y cyfarwyddiadau hyn
- Bydd cyfarwyddiadau a chanllawiau cychwyn cyflym yn dod gyda'r offer ble mae hynny'n berthnasol
- Bydd cyfarwyddiadau darluniadol yn dod gyda'r offer (e.e. ceblau ac ati)
Mae’r eitemau canlynol ar gael i’w benthyg am dymor byr wrth y Gwasanaethau Gwybodaeth:
Addasyddion Wi-Fi USB di-wifr | Mae'n defnyddio gwifrau trydanol eich cartref i gysylltu'r llwybrydd mewn ystafell arall i wella cysylltiad rhwydwaith. |
Arddangosyddion Braille | Yn darparu rhyngwyneb cryno, cyffyrddol i gyfrifiadur |
Argraffyddion | Argraffydd Bwrdd Gwaith Laser Du & Gwyn |
Bysellfwrdd | Bysellfwrdd cysylltu â gwifren |
Camcordyddion bach | Camcordyddion HD bach maint cledr llaw yn dda ar gyfer cymryd hunluniau a fideos YouTube. Cardiau SD ar gael ar wahân. |
Camcordyddion llaw | Camera fideo proffesiynol, safonol symudol a diffiniad uchel. Cardiau SD ar gael ar wahân. |
Camera dogfennau - defnydd staff yn unig | Delweddydd diwifr braich mecanyddol gyda chamera gwe wedi'i adeiladu'n arbennig ar gyfer taflunio delweddau o ddogfennau a gwrthrychau yn grimp ac yn glir. |
Camerâu digidol llun llonydd | Camera un lens digidol Canon EOS 700D. Cardiau SD ar gael ar wahân. |
Ceblau |
|
Cardiau SD |
|
Chwaraewr CD | System Sain Gludadwy gyda chwaraewr CD, radio a chwaraewr chasét. |
Chwaraewr DVD/CD/MP3 | Chwaraewr Disgiau Aml-Ranbarth. |
Chwaraewyr Fideo | Chwaraewr Fideo VHS. |
Chwyddwydrau- benthyciad un diwrnod yn y llyfrgell yn unig | 3 x Chwyddwydr cromen lachar 3 x, chwyddwydr bar, 1 x chwyddwydr llaw, 1 x chwyddwydr bwrdd. Benthyciad un diwrnod yn y llyfrgell yn unig. |
Cloeon diogelwch gliniaduron |
Clo ól-dynadwy, Clo cebl a allwedd, Clo Cebl Cyfuno |
Clustffonau | Ffonau pen caeedig proffesiynol Beyerdynamic DT109 gyda chysylltiadau meicroffon a jac ar gyfer cymwysiadau darlledu a ffilm byw. |
Cyflwynydd laser o bell a derbynnydd USB | Kensington Laser Presenter. |
Cyfrifiaduron Staff | I'w defnyddio ar y campws ar parth PAU yn unig |
Darllenyddion Cardiau | Darllenydd cerdyn 4 slot. Cytunedd cerdyn: SDXC, SDHC, SD, Micro SDXC, Micro SDHC, Micro SD |
Darllenydd RFID - defnydd staff yn unig | Darllenydd adnabod amledd radio (RFID) |
Derbynnydd dolen clyw is-goch personol | System sain gynorthwyol i gynorthwyo cyfathrebu â phobl â nam ar eu clyw. Dewis arall poblogaidd yn lle system dolen sefydlu. |
Dolen clyw cludadwy | System gadarn i'w defnyddio gan bobl â chymhorthion clyw |
Gliniadur | Windows 10 gyda gwe-gamera, meicroffon, gyriant DVD-RW, mynediad i'r we â gwifrau a diwifr. |
GoPro | 2 x Hero a 2 x Hero 3. Mae GoPros yn gamerâu bach cadarn, camerâu gyda lens ongl eang wedi'i gynllunio i gipio safbwynt a symudiadau. Wedi'u cyflenwi gydag ystod o atodion. Cardiau SD ar gael ar wahân. |
Gwe-gamerâu | gwe-gamera gyda microffon |
Gyriant Allanol | Ysgrifennwr Darllenydd Disgiau |
Gwefrydd USB | Addasydd Gwifren USB Cyffredinol Aml-Gebl ar gyfer gwefru’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol |
Hyb USB C | I ychwanegu cysylltiadau a phorthladdoedd at gliniaduron neu dabledi. |
iPad | tabled iPad. |
Lamp ddesg | lamp addasadwy. |
Larwm personol - benthyciad un diwrnod | Dyfeisiau electronig bach llaw sy'n allyrru sain brawychus o uchel tebyg i seiren. Gellir ei actifadu naill ai gan fotwm, neu dag. |
Lego Clasurol - at ddefnydd staff yn unig | Lego bach a mawr |
Llygod | Llygod gwifrog. |
MacBook - at defnydd staff yn unig | |
Microddesg | Bwrdd ysgrifennu wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan unigolion ag anableddau corfforol neu niwrolegol. I'w ddefnyddio ar ddesgiau safonol sengl |
Microffonau Cyddwysydd Cyfeiriadol | Meicroffon ysgafn, wedi'i ddylunio ar gyfer cymwysiadau proffesiynol yn y diwydiannau ffilm, fideo, teledu a chynhyrchu. |
Microffonau Llabed | Mae meicroffonau Llabed yn darparu sain o ansawdd darlledu. |
Microffonau Podledu | Meicroffon USB cyfeiriad diwedd deinamig sy'n cyfuno sain o ansawdd darlledu â symlrwydd cysylltedd USB, gan ganiatáu recordio yn uniongyrchol i gyfrifiadur heb yr angen am ryngwyneb digidol ychwanegol |
Monitor | |
Recordydd Llais | Recordwyr sain cludadwy bach ar gyfer cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd, memos i chi'ch hun ac ati. |
Recordydd Llais - Zoom handy | Recordydd llaw ar gyfer ffilm a darllediad, newyddiaduraeth, podledu a pherfformiad cerddorol. |
Rhybuddion byddar - benthyciad un diwrnod | System larwm tân yn seiliedig ar radio ar gyfer pobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr dderbyn negeseuon brys a chyfathrebiadau mewn unrhyw adeilad ar y Campws sy'n dangos yr arwydd Rhybuddion Byddar. Benthyciad un diwrnod yn unig. |
Seinydd / microffonau | Dyfais plygio-a-chwarae, sy'n cynnwys meicroffon cyfeiriadol omni |
Setiau pen | Setiau pen gyda chord plygio a chwarae gyda meicroffon a jack ar gyfer cymwysiadau darlledu a ffilmio byw. |
Setiau Realiti Rhithwir - at ddefnydd staff yn unig | Sbectol realiti rhithwir Bobo VR Z4 |
Sganiwr | Sganiwr gwely fflat A4 |
Sgrin taflunydd | Sgrin ar gyfer cyflwyniadau aml-gyfrwng |
Standiau llechen | Mae'r stand ddesg yn cymryd tabledi 12cm - 32cm (4.7- 12.9 modfedd), E-ddarllenyddion a ffonau clyfar. Mae'r stand llawr yn gydnaws â'r tabledi a'r ffonau mwyaf poblogaidd oddi mewn 3.5-10.6 modfedd. |
Switsh 5-porth - at ddefnydd myfyrwyr yn unig | Yn galluogi ehangu cysylltiadau rhwydwaith i ddyfeisiau lluosog ar unwaith. |
Systemau Annerch Cyhoeddus | Systemau Annerch cyhoeddus ar gyfer chwyddo llais neu gerddoriaeth. |
Tabledi - Android – at ddefnydd staff yn unig | Samsung Galaxy Tab A-16GB-9.7 modfedd |
Tabledi -iPad pro - at defnydd staff yn unig | |
Tabledi Cyffwrdd | Tabled graffeg i alluogi delweddau, animeiddiadau a graffeg gyda llaw, gyda phen stylus. |
Taflunyddion Data | Ar gyfer taflunio cyflwyniadau sleidiau o sgrin gyfrifiadur i sgrin mawr neu wal. |
Treipodau | Treipod maint llawn gyda phen padell 2 neu 3-ffordd gyda llwyfannau rhyddhau cyflym |
USB 3 i addasydd Ethernet | I gysylltu dyfais USB 3.0 yn hawdd â llwybrydd, modem, neu switsh rhwydwaith. |
USB C i addasydd Ethernet | Cysylltu â rhwydweithiau gwifrau gyda chyflymder a dygnwch lle mae cysylltedd diwifr yn annibynadwy neu'n anghyson. |